Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Rheolwr y Gwasanaeth Gofal wedi'i Drefnu
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae swydd barhaol gyffrous a heriol wedi dod ar gael yn y Gyfarwyddiaeth Menywod a Phlant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn yr adran Trawma ac Orthopedeg ac yn adrodd i'r Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau. Mae yna gydweithio helaeth â’r holl ddisgyblaethau staff ar draws y 4 safle ysbyty, felly mae teithio rheolaidd ar draws y 4 safle ysbyty yn ofynnol i gefnogi'r timau clinigol, y gwasanaethau clinigol a'r gweinyddwyr.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Ymhlith y meysydd cyfrifoldeb allweddol ar gyfer y swydd hon y mae darparu cymorth i'r Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau o ran rheoli'r gweithlu, pob agwedd ar restrau aros a rheoli perfformiad, caffael, cyllid ac ansawdd, diogelwch a llywodraethu, yn ogystal â mynd ati mewn modd rhagweithiol i gymryd rhan mewn gweithgarwch i ddatblygu a gwella'r gwasanaethau.
Bydd yn ofynnol i chi feddu ar brofiad diweddar o raglen ddatblygu berthnasol ym maes rheolaeth neu arweinyddiaeth, ynghyd â phrawf o'ch profiad yn y GIG ar lefel rheoli. Mae'r gallu i weithio'n dda mewn sefyllfaoedd o bwysau mawr sy'n heriol yn feddyliol, a rheoli blaenoriaethau sy'n cystadlu, yn ddymunol. Byddwch yn gweithio'n dda mewn tîm ac yn gallu gweithio gydag uwch-staff rheoli a chlinigol.
Disgwylir i ddeiliad y swydd amlygu sgiliau arwain clir a meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol â chlinigwyr, nyrsys, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gweinyddwyr a rheolwyr ledled y Bwrdd Iechyd a chymuned ehangach y GIG, yn ôl yr angen.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 15.08.2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Wedi eich addysgu i lefel gradd, neu brofiad cyfatebol.
- Cymhwyster lefel meistr neu dystiolaeth o DPP hyd at lefel Meistr.
- Profiad diweddar o raglen ddatblygu berthnasol ym maes rheolaeth neu arweinyddiaeth.
- Dealltwriaeth glir o'r ffactorau allweddol sy'n hanfodol i ddarparu gofal iechyd, e.e. strategaethau a pholisïau'r GIG, materion yr economi iechyd leol, y fframwaith rheoli perfformiad cenedlaethol, llifau ariannol, mentrau cenedlaethol i sicrhau gwell perfformiad, ac ati.
Meini prawf dymunol
- Cymwysterau arwain neu reoli.
- Dealltwriaeth glir o'r agenda foderneiddio ac ymwybyddiaeth ohoni a chyfeiriad strategol y Bwrdd Iechyd.
- Gwybodaeth am y dyletswyddau a osodir ar y Bwrdd Iechyd gan gyfraith cyflogaeth, deddfwriaethau eraill, polisïau a blaenoriaethau'r GIG, gofynion llywodraethu corfforaethol a chlinigol, a'r amgylchedd arolygu a rheoleiddio y mae'r Bwrdd Iechyd yn gweithredu ynddo.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad profedig yn y GIG ar lefel reoli.
- Gweithio mewn tîm amlbroffesiynol.
- Profiad o reoli a chwblhau rhaglenni gwelliant parhaus a rheoli newid mewn amgylchedd cymhleth.
- Profiad o gynnal trafodaethau sy'n ymwneud â materion manwl
- Profiad o reoli staff ac o weithio gydag undebau llafur/gyda chynrychiolwyr y staff
- Hanes profedig o reoli staff a chyllidebau.
Meini prawf dymunol
- Profiad o gymryd rhan mewn prosesau cynllunio a dylunio gwasanaethau. Rhoi ystyriaeth i wybodaeth gymhleth, h.y. cyllid, y gweithlu, offer clinigol a ffactorau sefydliadol.
- Profiad o reoli timau gwasanaethau.
- Tystiolaeth o wybodaeth am reoli cyllidebau
- Profiad o weithio mewn amgylchedd amlasiantaethol.
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lianne Gregory
- Teitl y swydd
- SDM - Trauma & Orthopaedics
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 229745
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector