Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ymarferydd Seicoleg
- Gradd
- Gradd 8a/Atodiad 21
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-PST020-0524-A
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Adnoddau Wellfield
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £51,706 - £58,210 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 05/08/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Uwch-seicolegydd
Gradd 8a/Atodiad 21
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym wrth ein bodd o fod yn gallu cyflwyno cyfle gyrfaol cyffrous, sef swydd lawn-amser barhaol Band 8a/Atodiad 21 (*gweler isod) ym maes Iechyd Meddwl Oedolion i Seicolegwyr lefel Doethuriaeth, a honno'n swydd sy'n cwmpasu Sir Gaerfyrddin, De-orllewin Cymru.
Yn unol â Matrics Cymru (2017), byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn darparu ymyriadau seicolegol pwrpasol, arbenigol a chreadigol i unigolion, a'r ymyriadau hynny'n seiliedig ar ddatblygu fformwleiddiad amlddamcaniaethol, cymhleth sy'n cwmpasu prosesau hanesyddol, datblygiadol, systemig a niwroseicolegol.
At hynny, yr ymgeisydd llwyddiannus fydd yr uwch-adnodd ar gyfer yr ardal ddaearyddol.
Bydd hwn yn gyfle rhagorol i seicolegydd newydd gymhwyso sy'n dymuno datblygu ei yrfa.
Prif ddyletswyddau'r swydd
1. Darparu gwasanaeth seicolegol ar draws pob sector gofal i gleientiaid sydd yn y gwasanaeth, gan gyflawni asesiadau a therapi seicolegol hynod o arbenigol, yn ogystal ag asesiadau gwybyddol arbenigol o weithrediad.
2. Gweithio'n annibynnol o fewn canllawiau proffesiynol a fframwaith cyffredinol polisïau a gweithdrefnau'r gwasanaeth.
3. Gweithredu fel Adnodd Arbenigol, sef yr Uwch-seicolegydd yn yr ardal ddaearyddol, gan roi cyngor ac arweiniad ar asesu, triniaeth ac atgyfeiriadau i seiciatryddion, rheolwyr timau nyrsys seiciatrig cymunedol (CPN), ac asiantaethau a lleoliadau eraill.
4. Gweithredu fel Adnodd Arbenigol yn yr ardal ddaearyddol, sef pwynt cyswllt, cyngor ac arweiniad i staff gwasanaethau seicolegol eraill, h.y. therapyddion neu seicolegwyr Band 7, a seicolegwyr cynorthwyol, ac ati.
5. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rheoli llinell arferol fel y'u dirprwyir gan Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol Iechyd Meddwl Oedolion Bwrdd Iechyd y Brifysgol.
6. Darparu goruchwyliaeth i seicolegwyr cymwys, seicolegwyr dan hyfforddiant,cynorthwywyr/seicolegwyr graddedig a chyd-weithwyr nad ydynt yn seicolegwyr.
7. Cynnig cyngor ac ymgyngoriadau ar ofal seicolegol cleientiaid i gyd-weithwyr nad ydynt yn seicolegwyr a gofalwyr.
8. Defnyddio sgiliau ymchwil i archwilio, datblygu polisïau a gwasanaethau, a gwneud gwaith ymchwil yn yr ardal a wasanaethir gan y swydd.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Bydd y swydd hon yn cael ei lleoli yn Sir Gaerfyrddin. Mae yna bosibilrwydd y caiff ei lleoli yng Nghaerfyrddin neu Lanelli.
Mae'r swydd yn cael ei hysbysebu ar Fand 8a. Fodd bynnag, anogir ymgeiswyr nad ydynt ar hyn o bryd yn bodloni'r gofynion o ran y sgiliau a'r cymwyseddau ar gyfer y rôl Band 8a, i wneud cais ac, os byddant yn llwyddiannus, fe'u penodir yn unol â Threfniadau'r Agenda ar gyfer Newid mewn perthynas â Thaliadau a Bandio Hyfforddeion (Atodiad 21), a'u cefnogi gan gynllun datblygu am ddwy flynedd. Gellir ystyried rhoi Atodiad 21 ar waith yn achos seicolegwyr newydd gymhwyso, ynghyd â threfniadau i ddiogelu'r cyflog ar Fand 7, hyd nes y bydd y cymwyseddau yn cael eu bodloni ar gyfer 8a, a disgwylir i hynny gael ei gyflawni cyn pen dwy flynedd. Ar ôl llwyddo i gwblhau'r cynllun datblygu, a meithrin y sgiliau a'r cymwyseddau ar gyfer y rôl mewn modd llwyddiannus, bydd deiliad y swydd yn cael ei dalu ar Fand 8a (pwynt isaf y raddfa). Darperir goruchwyliaeth a chymorth parhaus er mwyn datblygu'r ymarferydd i'r rôl Band 8a. Bydd hwn yn gyfle rhagorol i seicolegydd newydd gymhwyso sy'n dymuno datblygu ei yrfa.
Fel rhan o broses Atodiad 21, nid oes cosb ariannol i’r rhai sy’n gwneud cais am y rôl hon lle bydd y ganran yn achosi gostyngiad mewn cyflog, ac o ganlyniad byddai amddiffyniad lleol yn cael ei roi ar waith nes bod y cyflog wedi dal i fyny.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Cynhelir y cyfweliadu ar 14/8/2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Hyfforddiant ar lefel doethuriaeth mewn seicoleg, gan gynnwys yn benodol fodelau seicopatholeg, hyfforddiant mewn dau neu ragor o therapïau seicolegol gwahanol, a seicoleg ddatblygiadol hyd oes, fel y'u hachredir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain
- Mae hyfforddiant mewn seicometreg glinigol ac asesu gwybyddol/niwroseicolegol yn rhan o'r ddoethuriaeth mewn seicoleg (neu ers cymhwyso) yn hanfodol
- Bydd gan yr ymarferydd seicoleg gofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
Meini prawf dymunol
- Hyfforddiant cyn-gymhwyso a chymwysterau mewn methodoleg ymchwil, hyfforddiant staff a/neu feysydd eraill yn ymwneud â seicoleg gymhwysol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o asesu seicolegol arbenigol ac o drin cleientiaid ledled yr amrywiaeth lawn o leoliadau gofal, gan gynnwys cleifion allanol, y gymuned, gofal sylfaenol, a chleifion mewnol
- Profiad o weithio gydag amrywiaeth eang o grwpiau cleientiaid, ar hyd oes gyfan, sy'n amlygu problemau sy'n adlewyrchu'r ystod lawn o ddifrifoldeb clinigol, gan gynnwys cynnal lefel uchel o broffesiynoldeb yn wyneb problemau emosiynol a thrallodus iawn, camdriniaeth eiriol a bygythiad o gamdriniaeth gorfforol
- Profiad mewn perthynas ag asesu gwybyddol/niwroseicolegol
Meini prawf dymunol
- Profiad o addysgu, hyfforddi a/neu oruchwylio
- Profiad o gymhwyso seicoleg glinigol mewn cyd-destunau diwylliannol gwahanol
- Yn amlygu hyfforddiant/profiad arbenigol pellach trwy fod wedi cael o leiaf 50 awr o oruchwyliaeth glinigol wrth weithio yn rôl seicolegydd arbenigol am fwy na 18 mis, neu mewn rôl amgen y cytunwyd arni â'r seicolegydd ymgynghorol
- Profiad o fod yn uwch-bwynt cyswllt i ddarparu cyngor ac arweiniad i seicolegwyr eraill a therapyddion
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dr Nicola Thomas
- Teitl y swydd
- Consultant Clinical Psychologist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437 773096
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector