Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ffisiotherapydd Arbenigol (Y Gymuned)
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi'n Ffisiotherapydd dynamig ac ymroddedig sy'n chwilio am gyfle sy'n rhoi boddhad?
Does dim angen i chi edrych ymhellach! Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am
Ffisiotherapydd hynod o fedrus a llawn cymhelliant i ymuno â'n Tîm Adolygu Rhyddhau Amser i Ofalu (RTTCRT).
Yn rôl Ffisiotherapydd Cymunedol Arbenigol, byddwch yn cyfrannu at batrwm sy'n blaenoriaethu unigrywiaeth unigolion ac yn grymuso cleifion i gyflawni'r gweithrediad a'r ffyniant gorau posibl. Mae ein diwylliant wedi’i adeiladu ar gydweithrediad, lle mae eich angerdd yn ateb y diben, a'ch ymrwymiad yn gatalydd i lunio naratif adsefydlu ein cymuned.
Pwy ydym ni?
Rydym yn dîm adolygu integredig arloesol, sefydledig sy'n cynnwys Therapyddion Galwedigaethol, Gweithwyr Cymorth Therapi a Gweithwyr Cymdeithasol. Rydym yn ymdrechu i ddarparu’r cymorth cywir ar yr adeg iawn, yn y lle iawn, a hynny mor agos â phosibl i gartref y claf, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu Ffisiotherapydd i’r tîm – gan gydnabod yr arbenigedd gwerthfawr y bydd yn ei gynnig o ran adsefydlu a
chynyddu annibyniaeth unigolion.
Yn dilyn cyfnod o salwch, anaf neu ddatblygiad afiechyd, mae ar unigolyn angen lefel uwch o ofal a chymorth yn aml. Yn yr RTTCRT rydym am ddarparu cymorth i'r unigolyn yn ystod cyfnod o'r fath, cymorth i wella ac adsefydlu yn ei gartref ei hun, gan fynd ati i asesu ei anghenion yn barhaus.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn cynnal asesiad adolygu o’r unigolyn, a hynny gyda’r nod o ddarparu ymyriad a phroses adsefydlu i hybu gweithrediad, lleihau’r risg o ddatgyflyru, a gwella ei lesiant corfforol a seicolegol.
Yn dilyn ymyriad, a gyda chymorth y tîm amlddisgyblaethol ehangach sy'n ffurfio rhan o'r tîm hwn, byddech yn mynd ati i asesu mewn modd cymesur ac yn cytuno ar ba gymorth hirdymor y mae ar yr unigolyn ei angen. Byddech yn optimeiddio gallu annibynnol yr unigolyn i ofalu amdano'i hun ac i ddefnyddio cyfarpar arbenigol cyn rhagnodi'r pecyn gofal lleiaf ymyrrol iddo. Byddech yn anelu at wella bywydau pobl y mae arnynt angen
cymorth yn y gymuned, a byddech yn sicrhau defnydd doeth o'n hadnoddau gofal prin.
A chithau'n fyfyriwr ôl-raddedig amryddawn, bydd gofyn i chi feddu ar sylfaen glinigol gref mewn adsefydlu pobl hŷn a chodi a chario cymhleth, ynghyd â gwybodaeth am gyflyrau amrywiol.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar allu rhagorol i weithio'n annibynnol, gan reoli a blaenoriaethu llwyth achosion amrywiol. Bydd arnoch angen sgiliau rhesymu clinigol/datrys problemau profedig, a'r gallu i ddarparu ymyriadau cynhwysfawr a phroffesiynol trwy gyfrwng y broses asesu adolygiadau. Byddwch yn meddu ar sgiliau ysgogi a chysuro, a disgwylir i chi gefnogi staff ffisiotherapi iau, gweithwyr cymorth
therapi a myfyrwyr, gan fod â rhan yn y gwaith o'u goruchwylio.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n tri awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
Pum ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae gan ein tîm enw rhagorol o ran ei arloesedd a'i arweinyddiaeth ddiweddar i uno, trawsnewid ac esblygu ein gwasanaethau yn unol ag anghenion newidiol ein poblogaeth.
Bydd deiliad y swydd yn rhan annatod o'n RTTCRT integredig a bydd ganddo gysylltiadau cadarn â'r ffisiotherapyddion cymunedol ehangach mewn perthynas â goruchwyliaeth, hyfforddiant ac integreiddio proffesiynol.
Bydd gofyn i chi gymryd rhan yn y gwasanaeth ffisiotherapi anadlol ar alwad, sy'n seiliedig ar rota (bydd hyfforddiant ar gael os nad oes gennych y sgiliau hyn ar hyn o bryd), ac, yn y dyfodol, ar sail yr angen yn y gwasanaeth, disgwylir i chi ddarparu gwasanaeth saith niwrnod hyblyg.
I unigolyn brwdfrydig sy'n teimlo'n angerddol ynghylch gwerth ffisiotherapi ac adsefydlu cymunedol, mae hwn yn gyfle cyffrous i gynnal momentwm y gwaith o drawsnewid ein gwasanaethau cymunedol ledled y sefydliad er budd pobl Sir Gaerfyrddin a chenedlaethau'r dyfodol.
Rydym yn darparu diwylliant o gydweithio a chymorth lle mae amrywiaeth o syniadau'n ysgogi arloesedd. Nid yn unig y clywir eich syniadau, ond cânt eu hannog yn frwd.
Rydym ni yn y Gwasanaeth Ffisiotherapi yn cydnabod mai ein staff yw ein hased cryfaf, ac yn cydnabod hefyd bwysigrwydd cynnig cyfleoedd dysgu i gefnogi staff i ddatblygu, a hynny'n fewnol ac yn allanol. Eir ati i annog staff i ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig, ac mae yna gyfleoedd ar gael i wneud cais am gyllid a rennir.
Mae'r pandemig wedi dangos i ni fwy nag erioed bwysigrwydd y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, ac anogwn drefniadau gweithio o bell pan fo hynny'n briodol, ynghyd â threfniadau gweithio hyblyg
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gefnogi ei staff i groesawu'n llawn yr angen am ddwyieithrwydd a thrwy hynny wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaeth. Yn ein hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy’n gallu cyfathrebu yn Gymraeg gyda chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni’r gofynion Iaith Gymraeg a nodir, mae’r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion dymunol lleiaf hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir cyfweliadau ar 20/12/2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestru proffesiynol fel y'i cydnabyddir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Tystiolaeth ol-raddedig o addysg arbenigol
- Tystiolaeth o DPP
- Sgilian TG
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ol-raddedig hyd at lefel diploma mewn arbenigedd perthnasol
- Cwrs Hyfforddi Addysg Glinigol
- Yn aelod o'r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
- Yn cyfranogi'n frwd i grwpiau diddordeb arbennig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ol-raddedig mewn arbenigedd clinigol perthnasol
- Wedi cwblhau'r fframwaith cymhwysedd iau
- Profiad ymarferol hyd at lefel a fyddai'n eich galluogi i gymryd rhan yn y rota ar alwad anadlol
- Trin therapiwtig ac asesiadau risg
- Rheoli llwyth gwaith amrywiol gan ddefnyddio proses rhesymu clinigol
- Gweithio mewn tim rhyng-broffesiynol
- Cysylltiad uniongyrchol â gofalwyr a theuluoedd
- Tystiolaeth o gefnogi cydymffurfedd gwasanaeth a gofynion llywodraethu clinigol
- Profiad o oruchwylio staff
Meini prawf dymunol
- Profiad o oruchwylio myfyrwyr
- Trafod arferion gweithio tim amlddisgyblaethol
- Profiad o ddatblygu gwasanaethau
- Profiad o weithio i'r GIG
Arall
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o addysgu/hyfforddiant mewn swydd
- Agwedd hyblyg er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth
- Yn barod i gymryd rhan yn y gwasanaeth ar alwad a'r gwasanaeth estynedig
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
Gofynion Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Indeg Jameson
- Teitl y swydd
- Carmarthenshire Community Physiotherapy Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07837503829
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Os oes gennych ragor o gwestiynau ynghylch y swydd hon, yna mae croeso i chi gysylltu – byddem wrth ein bodd yn dod i'ch adnabod ac yn ateb eich cwestiynau.
Anogir a chroesewir ymweliadau.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector