Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ffisiotherapi
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AHP037-0324-B
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £35,922 - £43,257 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- Today at 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 10/07/2024
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Ffisiotherapydd Arbenigol
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cyflwyno cyfle cyffrous i Ffisiotherapydd llawn cymhelliant, brwdfrydig ac angerddol ymuno â’n tîm blaen y tŷ amlddisgyblaethol yn Sir Gaerfyrddin yn rôl Ffisiotherapydd TOCALS (y Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt ar gyfer Trosglwyddo Gofal). Mae TOCALS yn cefnogi ystod eang o gleifion, ymgyflwyniadau a phatholegau, gan gynnwys y rhai sy'n cwympo ac yn eiddil, cyflyrau niwrolegol, cyflyrau cardioresbiradol, trawma a phroblemau orthopedig (gan gynnwys cleifion trawma mawr). Mae'r gwasanaeth yn cefnogi'r gwaith o atal derbyniadau diangen i ysbyty acíwt, er mwyn osgoi'r risgiau sy'n gysylltiedig â hyn. Ein nod yw sicrhau gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy'n ystyried y claf mewn modd holistaidd, gan hybu annibyniaeth a llesiant y person. Mae gennym ran hanfodol yn y broses o hybu cysylltiadau rhagorol rhwng y gwasanaethau acíwt, canolraddol, cymunedol a thrydydd sector; mae hyn yn hanfodol i sicrhau parhad gofal, a hybu ymagwedd gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd feddu ar ystod eang o brofiadau clinigol oherwydd y boblogaeth amrywiol sy'n ymgyflwyno i wasanaethau blaen y tŷ. Bydd angen iddo allu darparu asesiadau arbenigol sy'n canolbwyntio ar gynllunio i ryddhau cleifion, a thrwy hynny gall ddatblygu a gweithredu cynlluniau personol, wedi'u cyd-gynhyrchu, ar gyfer cleifion. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol wrth ddilyn teithiau'r cleifion drwy'r ysbyty, ac allan i'r gymuned. Byddant hefyd yn cwmpasu ardaloedd ehangach cleifion mewnol, dibynnu ar anghenion y gwasanaeth.
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol i weithio ochr yn ochr â'r tîm amlddisgyblaethol, ac ystod eang o wasanaethau eraill yr ydym yn gweithio ochr yn ochr â nhw.
Mae'r gallu i weithio mewn amgylcheddau lle mae yna bwysau mawr ac sy'n symud yn gyflym yn hollbwysig ar gyfer y rôl hon, ynghyd â'r gallu i reoli llwyth achosion clinigol yn ogystal â monitro diogelwch aelodau iau o'r Tîm Ffisiotherapi.
Bydd deiliad y swydd yn cymryd rhan lawn yn y gwaith o gyfrannu at ddatblygu'r gwasanaeth sy'n angenrheidiol i sicrhau y gall y gwasanaeth barhau i ddiwallu anghenion cyfnewidiol y boblogaeth yr ydym yn ei chefnogi.
Bydd y rôl yn cynnwys y cyfle i oruchwylio gweithwyr cymorth, myfyrwyr prifysgol, ac o bosibl staff Band 5, a'u haddysgu.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwasanaeth saith niwrnod hyblyg, yn seiliedig ar anghenion y gwasanaeth ac yn ôl trefn rota. Bydd ganddo'r sgiliau gofynnol i gymryd rhan yn y gwasanaeth anadlol Ar Alwad.
Mae'r gallu i deithio i leoliadau yn y gymuned yn ofynnol i gefnogi'r gwasanaethau allgymorth a ddarperir gan TOCALS. Efallai y bydd yn ofynnol cyflenwi ar draws safleoedd (Ysbyty'r Tywysog Philip).
Mae Bwrdd Iechyd y Brifysgol yn mynd ati'n rhagweithiol i gefnogi hyfforddiant a datblygiad, a hynny'n rhan o DPP mewnol ac allanol.
Mae hwn yn gyfle i ymuno â thîm sy'n croesawu dulliau arloesol o atal derbyniadau i'r ysbyty y gellir eu hosgoi, gan eich grymuso i roi arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar waith i ysgogi canlyniadau cadarnhaol i'ch cleifion.
Rydym yn darparu diwylliant o gydweithio a chymorth lle mae amrywiaeth o syniadau yn ysgogi arloesedd. Nid yn unig y clywir eich syniadau, ond cânt eu hannog yn frwd.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 10.07.2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestru proffesiynol fel y'i cydnabyddir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Tystiolaeth ol-raddedig o addysg arbenigol
- Tystiolaeth o DPP
- Sgilian TG
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ol-raddedig hyd at lefel diploma mewn arbenigedd perthnasol
- Cwrs Hyfforddi Addysg Glinigol
- Yn aelod o'r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
- Yn cyfranogi'n frwd i grwpiau diddordeb arbennig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ol-raddedig mewn arbenigedd clinigol perthnasol
- Wedi cwblhau'r fframwaith cymhwysedd iau
- Profiad ymarferol hyd at lefel a fyddai'n eich galluogi i gymryd rhan yn y rota ar alwad anadlol
- Trin therapiwtig ac asesiadau risg
- Rheoli llwyth gwaith amrywiol gan ddefnyddio proses rhesymu clinigol
- Gweithio mewn tim rhyng-broffesiynol
- Cysylltiad uniongyrchol â gofalwyr a theuluoedd
- Tystiolaeth o gefnogi cydymffurfedd gwasanaeth a gofynion llywodraethu clinigol
- Profiad o oruchwylio staff
Meini prawf dymunol
- Profiad o oruchwylio myfyrwyr
- Trafod arferion gweithio tim amlddisgyblaethol
- Profiad o ddatblygu gwasanaethau
- Profiad o weithio i'r GIG
Arall
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o addysgu/hyfforddiant mewn swydd
- Agwedd hyblyg er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth
- Yn barod i gymryd rhan yn y gwasanaeth ar alwad a'r gwasanaeth estynedig
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
Gofynion Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sarah Davies
- Teitl y swydd
- TOCALS Team Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227808
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Cewch groeso cynnes yma os dymunwch drefnu ymweliad.
01267 227808
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector