Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol i Blant a'r Glasoed
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS150-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ty Myddfai
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £25,524 - £28,010 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 10/07/2024 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 19/07/2024
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Nyrs Feithrin Amenedigol
Gradd 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r Gwasanaeth Amenedigol Arbenigol yn llawn cyffro ynghylch datblygu swydd barhaol, lawn-amser newydd ar gyfer Nyrs Feithrin Amenedigol, yn cwmpasu Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Mae ein Bwrdd Iechyd ar flaen y gad o ran darparu'r gwasanaeth ataliol arloesol hwn, a hynny trwy ymgorffori darpariaeth y Gwasanaeth Amenedigol yn llawn yn ein gwasanaethau cynenedigol arferol, gan gynnig yr holl asesiadau arbenigol mewn adrannau cynenedigol er mwyn normaleiddio Iechyd Meddwl Amenedigol yn ein cymunedau lleol.
Rydym yn bwriadu recriwtio Nyrs Feithrin brofiadol. Byddai'n ddymunol pe byddai gan ddeiliad y swydd brofiad o weithio gyda mamau sy'n profi salwch meddwl amenedigol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm brwdfrydig, dynamig a chreadigol, sy'n canolbwyntio ar sicrhau dechrau mwy cadarn mewn bywyd ar gyfer pob plentyn, gan feithrin cydnerthedd, a fydd yn arwain at ddyfodol mwy disglair.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mewn ymgynghoriad â'r ymarferwyr iechyd meddwl amenedigol, bydd deiliad y swydd yn cynllunio, darparu a gwerthuso gweithgareddau i hybu iechyd yn y cartref yn y clinig ac mewn lleoliadau eraill yn y gymuned fel y cytunir.
Bydd gan ddeiliad y swydd sgiliau cyfathrebu effeithiol, a bydd yn meithrin perthnasoedd gweithio cadarnhaol ymhlith yr holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol a'r asiantaethau statudol a gwirfoddol. Bydd yn cynnal prosesau cyfathrebu da ar draws yr holl ffiniau.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 19.07.2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Diploma Cenedlaethol mewn Astudiaethau Plentyndod neu gymhwyster cyfatebol NEU NNEB ynghyd â phrofiad hyd at NVQ lefel 4
Meini prawf dymunol
- Cymwysterau a/neu brofiad pellach sy'n berthnasol i'r swydd-ddisgrifiad: Cymhwyster tylino babanod Cymhwyster canllawiau rhyngweithio fideo Cymwysterau mewn Technoleg Gwybodaeth/sgiliau bysellfwrdd
- Gwybodaeth am dechnegau rheoli ymddygiad
- Gwybodaeth am ddatblygiadau diweddar ym maes iechyd y cyhoedd
- Gwybodaeth am fentrau lleol a chenedlaethol mewn perthynas ag iechyd meddwl amenedigol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol o weithio gyda babanod, plant a rhieni/gofalwyr
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn maes sy'n ymwneud â'r gymuned neu iechyd
- Profiad o weithio gyda mamau sy'n profi salwch meddwl amenedigol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
- Yn meddu ar agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jane Whalley
- Teitl y swydd
- Perinatal and Infant Mental Health Service Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267229700
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector