Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Perfformiad
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Gweithio gartref neu o bell
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC142-0624
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Hafan Derwen
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£35,922 - £43,257 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
14/07/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
23/07/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Dadansoddwr Gwella Perfformiad

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn bwriadu penodi unigolyn brwdfrydig i ymuno â'n Tîm Perfformiad i helpu i lywio gwelliannau o ran perfformiad ledled y Bwrdd Iechyd. Mae'r Tîm Perfformiad yn dîm bach, cefnogol, cynhwysol a chyfeillgar. 

Mae'r swydd hon yn gyfle gwych i helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i gleifion, staff a phoblogaeth ehangach Hywel Dda.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn frwd dros wella perfformiad, bod â sgiliau data amlwg a dealltwriaeth gadarn o adrodd corfforaethol, bod yn gyfforddus yn hyfforddi cyd-weithwyr, bod yn gyfathrebwr da, a bod â'r gallu i roi sylw trylwyr i fanylion. Bydd hefyd angen iddo fod yn hyblyg, yn arloesol ac yn gydweithredol, gyda ffocws clir ar gyflawni

 

 

 

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae yna dri phrif faes y bydd deiliad y swydd yn ymwneud â nhw:

 

• Adrodd corfforaethol – bydd yr ymgeisydd llwyddiannus ynghlwm wrth 
lunio diweddariadau ar berfformiad ar gyfer aelodau'r Bwrdd, cyfarwyddwyr gweithredol, uwch-reolwyr, staff y Bwrdd Iechyd a'r cyhoedd.

• Gwella perfformiad – un rhaglen waith allweddol y bydd yr ymgeisydd 
llwyddiannus yn ymwneud â hi fydd Gwella Gyda’n Gilydd, sy'n 
rhaglen newid diwylliant â ffocws ar ansawdd a gwelliant.

 

• Datblygiadau o ran data a'r dangosfwrdd – mae sicrhau bod staff yn gallu 
cyrchu'r data iawn ar yr adeg iawn yn alluogwr allweddol ar gyfer adrodd 
corfforaethol a gwella perfformiad, fel ei gilydd

Bydd angen i ddeiliad y swydd weithio gyda lefel uchel o ymreolaeth a datblygu perthnasoedd tra chydweithredol ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, yn cynnwys arweinwyr gwasanaethau a chyfarwyddwyr gweithredol y Bwrdd Iechyd, a Llywodraeth Cymru. 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais

 

 

 

 

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy: 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
  • Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
  • 48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
  • Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Diben y swydd hon yw cefnogi datblygiad, gweithrediad a gwelliant parhaus yn achos fframwaith rheoli perfformiad corfforaethol cadarn ar gyfer y Bwrdd Iechyd, fframwaith sy'n gyson â Chyfeiriad Strategol a Chynllun Gweithredol y Bwrdd Iechyd, a mynd ati i hyrwyddo diwylliant o ragoriaeth. Bydd hyn yn cynnwys darparu cymorth o ran datblygiad a gweithrediad systemau adrodd effeithiol ar bob lefel o'r sefydliad, a hynny mewn ffyrdd sy'n cefnogi atebolrwydd clir ac yn annog proses o gyflawni'r holl dargedau allweddol, pa un a ydynt wedi'u gosod yn allanol neu'n fewnol.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 23.07.2024

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Addysg hyd at lefel gradd, ynghyd â gwybodaeth arbenigol ychwanegol a gafwyd trwy ddiploma ôlraddedig neu brofiad Rheoli Perfformiad cyfatebo

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad sylweddol mewn rôl rheoli perfformiad/ gwybodaeth
  • Gwybodaeth am fframweithiau a phrosesau rheoli perfformiad mewn sefydliad mawr cymhleth
  • Profiad o ddylanwadu ar bobl nad oeddent dan eich rheolaeth linell uniongyrchol i fynd ati i weithredu.
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol yn y GIG
  • Profiad o ddatblygu systemau rheoli perfformiad 2
  • Profiad o ddatblygu dangosyddion perfformiad newydd

Dawn a Gallu

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau TG a dadansoddi uwch, ynghyd â lefel uchel o brofiad o ddefnyddio Microsoft Office; creu, fformatio a thrin cronfeydd data a thaenlenni
  • Gwybodaeth arbenigol am fframweithiau rheoli perfformiad, prosesau a chyfarpar gwella
  • Sgiliau dadansoddi datblygedig iawn i ddadansoddi ystod o faterion a chanlyniadau cymhleth yn ymwneud â pherfformiad y mae angen eu dehongli a'u cymharu
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol gan gynnwys y gallu i gyflwyno gwybodaeth am berfformiad ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Y gallu i ddylanwadu ar reolwyr a chlinigwyr a thrafod â nhw mewn perthynas â pherfformiad gwael, a hynny mewn ffordd adeiladol – bod yn ffrind beirniadol
  • Y gallu i weithio'n annibynnol heb fawr o gyfarwyddyd a goruchwyliaeth, yn unol â fframwaith/ffiniau penodol
  • Yn gallu wynebu gofynion amrywiol – sy'n aml yn gofyn am ganolbwyntio'n fanwl ac ymdrech ddwys i gyflawni amcanion lluosog/ blaenoriaethau sy'n gwrthdaro
Meini prawf dymunol
  • Datblygu dangosfwrdd/Power BI
  • Codio SQL
  • Gwybodaeth am agenda perfformiad y GIG
  • Tystiolaeth o ymrwymiad i'ch datblygu eich hun

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Mandi Chesterman
Teitl y swydd
Senior Performance Management Analyst
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Gellir cysylltu â mi hefyd trwy Microsoft Teams.

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg