Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Maetheg a Deieteg
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AHP165-1123-H
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £44,398 - £50,807 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 08/07/2024 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 17/07/2024
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Arweinydd Clinigol ar gyfer cymorth Maeth Acíwt (Llawfeddygaeth)
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
A ydych yn Ddietegydd brwdfrydig, arloesol a llawn cymhelliant sy'n angerddol am gymorth maeth a llawfeddygaeth? A ydych yn chwilio am rôl arwain yn un o feysydd gwerth chweil a diffiniedig Deieteg, neu a ydych yn awyddus i ddatblygu i ymgymryd â rôl arwain â chymorth?
Os felly mae gennym gyfle gwych i chi ymuno â'n tîm Deieteg arobryn yn Hywel Dda. Rydym yn dîm blaengar a dynamig, mae arweinyddiaeth dosturiol wrth wraidd yr hyn a wnawn, ac rydym yn ymdrechu i sicrhau bod iechyd a llesiant ein tîm yn cael eu blaenoriaethu.
Mae'r swydd hon yn cynnwys bod yn arweinydd clinigol ac yn arbenigwr mewn cymorth Maeth a llawfeddygaeth. Byddwch yn gyfrifol am lwyth achosion o gleifion cymhleth ac yn cefnogi aelodau eraill o'r tîm i reoli achosion cymhleth. Byddwch yn llywio canllawiau a pholisïau ym maes cymorth maeth llawfeddygol a byddwch yn ymwneud â chymorth maeth amdriniaethol a amweithredol a maeth trwy'r gwythiennau, gan sicrhau bod y llwybrau a'r prosesau sy'n cyd-fynd â'r maes Deieteg arbenigol hwn yn cael eu llywio. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r timau deieteg ehangach, nyrsys maeth arbenigol, ymarferwyr cynorthwyol deieteg a'r tîm aml-broffesiynol ehangach.
Byddwch yn rheolwr llinell ar aelodau dirprwyedig o'r tîm Dieteteg a byddwch hefyd yn darparu cymorth i Ysbyty Bronglais yn wythnosol. Byddwch hefyd yn cefnogi hyfforddiant myfyrwyr ac addysg ymarferwyr cynorthwyol deieteg a gweithwyr cymorth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 17/07/2024.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd gydnabyddedig mewn Deieteg
- Deietegydd Cofrestredig gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)
- Astudiaeth ôl-raddedig achrededig ar lefel meistr neu gyfwerth
- Wedi cwblhau hyfforddiant ar Sgiliau Goruchwylio Clinigol
- Yn amlygu lefel uwch o wybodaeth glinigol yn y maes arbenigol, a ddatblygwyd trwy fynychu cyrsiau arbenigol/hyfforddiant uwch
- Sgiliau datrys problemau clinigol sefydledig
- Sgiliau gwerthuso beirniadol sefydledig
- Gwybodaeth am y sylfaen dystiolaeth gyfredol a datblygol, ynghyd a pholisiau a chanllawiau cenedlaethol a phroffesiynol mewn perthynas a chymorth maeth acíwt a llawfeddygaeth
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster lefel meistr sy'n berthnasol i faes arbenigedd y rol
- Wedi cwblhau hyfforddiant ffurfiol ar gyf-weld ysgogol
- Cymhwyster proffesiynol, technegol neu academaidd arall sy'n ymwneud ag ymarfer neu arweinyddiaeth glinigol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Ymarfer deietegol eang a sefydledig
- Profiad helaeth o gymorth maeth i oedolion, maeth â chymorth clinigol
- Arweinyddiaeth glinigol amlwg
- Dirprwyo i staff cymwys a staff heb gymhwyso
- Profiad sylweddol o arwain gwaith tîm amlbroffesiynol ac amlddisgyblaethol
- Datblygu gwasanaethau/gwella ansawdd
- Arwain archwiliadau clinigol
- Cyflawni neu gefnogi newid o ran ymarfer/gwasanaethau
- Darparu goruchwyliaeth glinigol
- Ymgysylltiad gweithredol a hyfforddiant myfyrwyr
Meini prawf dymunol
- Profiad o reoli prosiectau
- Profiad clinigol ychwanegol neu ym maes gofal iechyd
- Profiad o waith ymchwil
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Victoria Jones
- Teitl y swydd
- Deputy Head Nutrition and Dietetics
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07971334014
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector