Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gwasanaethau Meddygol
- Gradd
- Gradd 8b
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC148-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Hafan Derwen
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £59,857 - £69,553 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 07/07/2024 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 16/07/2024
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Pennaeth Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol a Fferylliaeth Gymunedol
Gradd 8b
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae deiliad y swydd yn rhan hanfodol o uwch dîm rheoli’r Gyfarwyddiaeth Gofal Sylfaenol, ac yn cyfuno swyddogaethau allweddol y gwasanaethau meddygol cyffredinol a darpariaeth fferylliaeth gymunedol, gan gynnwys rheoli contractau a rheoli perfformiad y gwasanaeth meddygol cyffredinol a fferylliaeth gymunedol, datblygu'r clwstwr, ynghyd â rôl arweiniol wrth gefnogi Ceredigion a chynllunio i gefnogi’r sefydliad i gyflawni ei
amcanion.
Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am arwain swyddogaethau cynllunio a datblygu'r gwasanaethau meddygol cyffredinol a fferylliaeth gymunedol, gan gydweithio ag aelodau eraill o’r Gyfarwyddiaeth Gofal Sylfaenol a chysylltu â rhannau eraill o’r Bwrdd Iechyd yn ôl yr angen. Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am ddatblygu cynlluniau gweithredol, gwasanaeth a strategol hirdymor ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol a fferylliaeth gymunedol yn unol â strategaeth y Bwrdd Iechyd, gan weithio’n agos gyda’r Cyfarwyddiaethau Cyllid a Chynllunio i sicrhau cysondeb rhwng cynlluniau gwasanaeth a chynlluniau ariannol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rhoi arweiniad i Reolwyr y Gwasanaethau Gofal Sylfaenol ar reoli contractau a pherfformiad, yn ogystal â rhoi cymorth rheoli gweithredol i'r Practisau a Reolir yn ôl yr angen. Bydd yn arwain rhaglen sy'n datblygu ymarfer o ansawdd uchel, yn ogystal â rheoli contractau a pherfformiad.
Sicrhau bod nodau ac amcanion y Bwrdd Iechyd yn cael eu cyfleu’n glir i’r staff yn y tîm a’r contractwyr, a chymryd rôl arweiniol wrth bennu’r amcan ar gyfer y gwasanaethau meddygol cyffredinol a fferylliaeth gymunedol fel rhan o’r Gyfarwyddiaeth Gofal Sylfaenol.
Sicrhau bod swyddogaethau fferylliaeth gymunedol a'r gwasanaethau meddygol cyffredinol ym maes Gofal Sylfaenol yn rhagweithiol ac yn ddylanwadol o ran cyfrannu at gynllun strategol a gweithredol y Bwrdd Iechyd, gan gynnal gwybodaeth gyfredol am gynlluniau, polisïau a strategaethau cenedlaethol a meithrin cydberthnasau a chyfathrebu
da â’r Cyfarwyddiaeth Cynllunio.
Sicrhau bod materion perfformiad sy'n ymwneud â phroffesiynau contractwyr meddygol cyffredinol a Fferyllwyr Cymunedol yn cael eu nodi a'u rheoli'n briodol gan ddefnyddio canllawiau cenedlaethol a lleol, a chysylltu ag asiantaethau allanol megis y Gwasanaethau Atal Twyll, y Cyngor Meddygol Cyffredinol, y Cyngor Fferyllol Cyffredinol, y Tîm
Cynghori ar Ofal Meddygol Sylfaenol a'r Gwasanaeth Asesu Clinigol Cenedlaethol fel y bo'n briodol.
Datblygu llwybrau gofal newydd i sicrhau bod gwasanaethau’n darparu’n lleol ar gyfer anghenion y boblogaeth.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
47 o bractisau cyffredinol (6 ohonynt yn bractisau a reolir), 45 practis deintyddol (gan gynnwys 4 orthodontig), 96 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 16/07/2024.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd uwch ar lefel Meistr neu brofiad cyfatebol ar lefel uwch-reolwr
- Rhaid meddu ar dystiolaeth o reolaeth a datblygiad personol parhaus
- Rhaid meddu ar ddealltwriaeth o'r rôl a'i diben yn y sefydliad
- Rhaid meddu ar wybodaeth am strategaethau, polisïau a chynlluniau'r GIG, Llywodraeth Cymru a'r Bwrdd Iechyd, gan gynnwys polisïau adnoddau dynol
- Rhaid meddu ar wybodaeth fanwl am yr agenda gofal iechyd strategol sy'n ymwneud â darparu gwasanaeth meddygol cyffredinol a fferylliaeth gymunedol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad Uwch o Reoli yn y GIG
- Profiad o gomisiynu Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol neu Fferylliaeth Gymunedol, gan gynnwys rheoli contractau gofal sylfaenol
- Profiad clir o arwain rhaglenni newid a gwella tra chymhleth gydag amrywiaeth o staff, sefydliadau staff, a chontractwyr annibynnol
- Rhaid meddu ar brofiad sylweddol o reolaeth ariannol, ynghyd â gwybodaeth am sut i ddarparu cyllideb yn unol â tharged
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rhian Bond
- Teitl y swydd
- Assistant Director of Primary Care
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 235151
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector