Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Y Llyfrgell a Gwasanaethau Gwybodaeth
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC152-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £35,922 - £43,257 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 10/07/2024 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 18/07/2024
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Rheolwr y Llyfrgell a Gwasanaethau Gwybodaeth
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae Adran Llyfrgell a Gwasanaethau Gwybodaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ddynamig ac yn flaengar ac ar hyn o bryd yn chwilio am lyfrgellydd profiadol, brwdfrydig ac arloesol i ymuno â'r timau yng Nghaerfyrddin.
Mae ein gwasanaethau llyfrgell yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, myfyrwyr ac ymchwilwyr. O fod yn llyfrgellydd mewn ysbyty, byddwch yn cyfrannu at ofal cleifion, addysg, hyfforddiant, ymarfer seiliedig ar dystiolaeth ac anghenion ymchwil.
Mae'r rôl yn cynnwys goruchwylio cyfleusterau, rheoli ardal y llyfrgell, hyrwyddo gwaith y llyfrgell, yn ogystal â darparu hyfforddiant i gefnogi'r broses o gaffael gwybodaeth, yn cynnwys: hyfforddiant ar sgiliau ymchwil, offer dyfynnu, adnoddau digidol a defnyddio cronfeydd data, gan deilwra sesiynau i gynulleidfaoedd gwahanol.
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi ac yn gweithio'n agos gyda llyfrgellwyr eraill ledled safleoedd eraill y Bwrdd Iechyd, a bydd yn meithrin cysylltiadau agos â phartneriaid y Brifysgol a rhanddeiliaid allanol eraill.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Byddwch yn rheoli ac yn ysbrydoli timau, ac yn helpu i ddeall eu heffaith ar staff rheng flaen a chleifion
- Cefnogi gweledigaeth strategol yr Adran Llyfrgell a Gwasanaethau Gwybodaeth ledled y Bwrdd Iechyd
- Rheoli llyfrgell yr ysbyty, gan gynnwys adnoddau ffisegol a digidol
- Darparu cymorth ymchwil i glinigwyr, nyrsys ac aelodau staff eraill
- Curadu llenyddiaeth ac adnoddau meddygol perthnasol
- Cydweithio ag adrannau i wella'r broses o rannu gwybodaeth
- Datblygu a chyflwyno sesiynau hyfforddi
- Ymgyfarwyddo â'r wybodaeth ddiweddaraf am dueddiadau gofal iechyd a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
47 o bractisau cyffredinol (6 ohonynt yn bractisau a reolir), 45 practis deintyddol (gan gynnwys 4 orthodontig), 96 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 18/07/24
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd gyntaf neu gymhwyster lefel gradd ôlraddedig mewn Llyfrgellyddiaeth, Rheoli Gwybodaeth, Gwyddor Gwybodaeth
- Llyfrgellydd Siartredig neu brofiad cyfatebol megis: Wedi cwblhau rhaglen academaidd a achredwyd gan CILIP, neu brofiad ymarferol mewn llyfrgell a/neu leoliadau gwybodaeth. Gallai hyn olygu gweithio mewn llyfrgelloedd, archifau, neu rolau cysylltiedig.
- Profiad o weithio mewn llyfrgell neu brofiad rheoli blaenorol mewn maes cysylltiedig
- Gwybodaeth am systemau Llyfrgell/Rheoli Gwybodaeth
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol; hawlfraint, diogelu data
Meini prawf dymunol
- Aelod o CILIP neu FEDIP
- Cymhwyster ffurfiol neu broffesiynol mewn TG neu Addysgu
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o ran yr amgylchedd gofal iechyd
- Dealltwriaeth o ddatblygiadau cyfredol ym maes gwybodaeth/llyfrgelloedd
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Hanes profedig o reoli llyfrgell, gwasanaeth gwybodaeth neu amgylchedd cysylltiedig, gan gynnwys rheoli staff a chyllidebau
- Profiad o reoli, hyrwyddo a defnyddio adnoddau electronig
- Tystiolaeth o gyfrannu at wella ansawdd
- Profiad o gynllunio a gweithredu datblygiadau i wasanaethau
- Profiad o chwilio am lenyddiaeth gan ddefnyddio amrywiaeth o gronfeydd data llyfryddol/dyfyniadau
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd llyfrgell iechyd
- Profiad o reoli e-adnoddau
- Profiad cyllidebol/caffae
- Y gallu i farchnata a rhoi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau
- Profiad o ddarparu hyfforddiant ar sgiliau gwybodaeth a/neu lythrennedd digidol a/neu hyfforddiant ar sgiliau gwerthuso beirniadol
- Defnyddio offer ymchwil deallusrwydd artiffisial (AI) cynhyrchiol
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sarah Bruch
- Teitl y swydd
- Lead Library & Knowledge Services Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 783467
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Helen Thomas
Y Pennaeth Addysg Feddygol a Safonau Proffesiynol
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector