Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Anableddau dysgu
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- 12 mis (Mae hon yn swydd cyfnod penodol/secondiad tan 31/07/2025)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS178-0724
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ty Bryn
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £23,159 - £24,701 y flwddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 18/07/2024 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 26/07/2024
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Cymunedol – Anableddau Dysgu
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 12 MIS (31.07.25) GOFYNION Y GWASANAETH
Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
Daw’r swydd hon ar gael yn ystod cyfnod o Drawsnewid Gwasanaethau mewn ymateb i anghenion newidiol pobl ag anabledd dysgu a’r agenda genedlaethol ar gyfer gwella. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn chwarae rhan hanfodol yn y cyfnod cyffrous hwn o newid, a hynny trwy gyfrannu at gynllunio model gwasanaeth newydd sy'n darparu gwasanaethau hyblyg ac ymatebol.
Byddwch yn cael y cyfle i weithio'n agos gyda chyd-weithwyr eraill ledled y gwasanaeth Anableddau Dysgu a'r Trydydd Sector, gan ddarparu cymorth, cyngor a hyfforddiant arbenigol i gleifion, teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes Gofal Sylfaenol neu mewn ysbytai.
Dylai ymgeiswyr feddu ar brofiad o weithio gyda phobl ag anableddau dysgu. Bydd hyfforddiant ychwanegol ar gael, a chewch eich cefnogi i ddatblygu eich proffil cymhwysedd clinigol eich hun ac i feithrin sgiliau ym maes Anableddau Dysgu.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym yn chwilio am weithiwr cymorth gofal iechyd sy'n meddu ar y sgiliau addas i ymuno â'n Tîm Cyswllt Anableddau Dysgu sy'n cwmpasu'r tair sir. Mae'r Tîm Cyswllt yn darparu cymorth i bobl ag anableddau dysgu er mwyn gwella mynediad at wasanaethau Gofal Sylfaenol a'r rheiny sy'n cael eu derbyn i ysbytai cyffredinol.
Y prif gyfrifoldeb ar gyfer y rôl hon yw lleihau anghydraddoldebau iechyd ar gyfer unigolion ag Anableddau Dysgu. Bydd yn ofynnol i chi weithio mewn Ysbytai Cyffredinol a lleoliadau Gofal Sylfaenol, h.y. Meddygfeydd Teulu, i sicrhau bod unigolion yn cael gofal o'r safon uchaf o safbwynt Anableddau Dysgu.
Bydd yna elfen o roi hyfforddiant i staff, cleientiaid, teuluoedd a gofalwyr, felly mae sgiliau cyflwyno yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; fodd bynnag, bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 26/07/24
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- NVQ Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, neu yn gweithio tuag at hynny gyda lefel gyfwerth o brofiad.
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd da
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Meini prawf dymunol
- Profiad o arbenigedd
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Melissa Evans
- Teitl y swydd
- LD Liaison and Health Facilitation Team Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07974600122
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector