Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- cyllid
- Gradd
- Band 8a
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i ddydd Gwener)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC059-0225
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Tŷ Gorwel, Adeilad 14,
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £54,550 - £61,412 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 19/03/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 28/03/2025
Teitl cyflogwr

Dirprwy Bennaeth y Tîm Cyfrifyddu Craidd
Band 8a
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Dyma gyfle cyffrous i reolwr brwdfrydig, llawn cymhelliant a medrus iawn ymuno â'r Tîm Cyfrifyddu Craidd, sy'n ffurfio rhan o dîm Cyllid ehangach BIP Hywel Dda. Yn rôl Dirprwy Bennaeth y Tîm Cyfrifyddu Craidd, â chyfrifoldeb am berfformiad a rheolaeth gyffredinol ar y tîm, bydd yr
ymgeisydd llwyddiannus yn allweddol i lwyddiant a datblygiad y tîm yn y dyfodol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Yn gyfrifol am berfformiad a rheolaeth gyffredinol ar y Tîm Cyfrifyddu Craidd, sy'n ymgorffori
amryw swyddogaethau Dyledwyr, Ffrydiau, trafodiadau cyfrifyddu Gofal Iechyd Parhaus,
cleifion Tramor, a gweinyddu gweithgarwch Heb Gontract. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd
ddirprwyo ar gyfer y Pennaeth Cyfrifyddu ac Adrodd Statudol yn ôl y gofyn.
• Cyfrifoldeb arweiniol am yr agenda i wella’r broses graidd ym maes Cyllid.
• Cyfrifoldeb arweiniol am uniondeb y cyfriflyfr cyfrifyddu.
Gallwch dod o hyd i'r swydd-ddisgrifiad llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 28/03/2025
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster/profiad CCAB ac arbenigedd hyd at lefel CCAB
- Profiad ar lefel Rheoli ynghyd â phrofiad ac arbenigedd proffesiynol a rheolaethol amlwg
- Gwybodaeth am systemau ariannol integredig
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o DPP
- Gwybodaeth am system gyfrifyddu Oracle
- Gwybodaeth am System Adrodd P2P (Prynu i Dalu)
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad o reoli prosiectau gwella prosesau
- Profiad o reoli tîm mawr
- Profiad o gyflawni o fewn terfynau amser heriol
- Hanes amlwg o yrfa sydd wedi datblygu a chyflawniadau yn ystod eich gyrfa
- Profiad o reoli newid ac ymddygiadau cysylltiedig
- Profiad ariannol blaenorol yn y GIG
- Profiad blaenorol o weithio gyda setiau data sylweddol
Other
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio'n hyblyg mewn perthynas â cherrig milltir adrodd allweddol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd ac i gyfarfodydd Cymru gyfan mewn modd amserol
- Yn ymrwymedig a llawn cymhelliant
Sgiliau iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn angenrheidiol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Tim John
- Teitl y swydd
- Head of Accounting & Statutory Reporting
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector