Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Uwch-gynorthwyydd Cyfrifon
Gradd 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i unigolyn brwdfrydig, medrus a llawn cymhelliant ymuno â'r Tîm Cyfrifyddu Craidd yn rôl yr Uwch-gynorthwyydd Cyfrifon.
Bydd y rôl hon yn arwain y gwaith o oruchwylio ein his-adran Cyfrifyddu Gofal Iechyd Parhaus o fewn y Tîm Cyfrifyddu Craidd. Mae'r tasgau allweddol yn cynnwys:
· Sicrhau cyfanrwydd y Gronfa Ddata Gofal Cymhleth Cenedlaethol
· Cydlynu'r gwaith o fewnbynnu'r holl gyfnodolion yn y cyfriflyfr
· Rheoli'r fantolen
· Cynnal adolygiad dadansoddol o'r data
· Dyletswyddau cau'r cyfrifon ddiwedd y mis a diwedd y flwyddyn
· Cysoni'r gronfa ddata a'r cyfriflyfr yn rheolaidd
· Prosesu hawliadau sy'n berthnasol i adolygiadau ôl-weithredol
· Cynorthwyo gyda'r broses o gynyddu ffioedd blynyddol
· Rheoli Staff
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli'r gwaith o ddarparu tasgau diwedd y mis a diwedd y flwyddyn o ran Cyfrifyddu Gofal Iechyd Parhaus sy'n ffurfio rhan o gynllun blynyddol y broses Cyfrifyddu Craidd ac sy'n allweddol i weithredu strategaeth y Bwrdd Iechyd yn llwyddiannus.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rôl yr Uwch-gynorthwyydd Cyfrifon yw canolbwyntio ar gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cadarn o ran Rheolaeth ac Adroddiadau Ariannol er mwyn bodloni'r agwedd hon ar ddyletswyddau ariannol y Bwrdd Iechyd – sef cyflawni ei dargedau ariannol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda'n timau Cyllid a rhanddeiliaid allanol i reoli'r gwaith o gyflawni amcanion prosiectau'r Tîm Cyfrifyddu Craidd, gan gyfrannu at arloesi Sefydliadol a darparu adroddiadau o ansawdd uchel.
Yn benodol, dylai fod gan ymgeiswyr y canlynol:
· Profiad helaeth o weithio gyda Microsoft Excel
· Sgiliau dadansoddol cadarn
· Sgiliau cyfathrebu rhagorol
Byddai profiad o Oracle hefyd yn fanteisiol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun.
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon. Cyfeiriwch at yr is-adran Cyllid Corfforaethol (Gofal Iechyd Parhaus) sy'n dwyn y teitl ‘Cyllid
Corfforaethol – Gofal Iechyd Parhaus ac Adolygiadau Ôl-weithredol’ yn y swyddddisgrifiad.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 19/12/24
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Pum TGAU, gan gynnwys Mathemateg
- Cymwysterau Safon Uwch neu gyfwerth
- Wedi cymhwyso hyd at AAT (cymhwyster llawn) neu gymhwyster cyfatebol, ynghyd â phrofiad
- Gwybodaeth arbenigol flaenorol am Gyfrifon Rheoli a/neu Gyfrifyddu Cyllid a gwella systemau/prosesau
- Gwybodaeth am gyfrifyddu technegol/system adrodd P2P
Meini prawf dymunol
- ECDL
- Dilyniant i gymhwyster cyfrifyddu proffesiynol
- System Adrodd Oracle
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol helaeth o gyfrifyddu
- Profiad o systemau Oracle
Meini prawf dymunol
- Profiad ariannol blaenorol yn y GIG
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd
- Y gallu i weithio oriau hyblyg
Meini prawf dymunol
- Y gallu i weithio oriau ychwanegol yn ôl y gofyn
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Tracy Joseph
- Teitl y swydd
- Assistant Finance Business Partner
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Anfonwch neges e-bost i ofyn am gael trefnu galwad ffôn i drafod y rôl yn anffurfiol.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector