Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Partner Busnes Cyllid Cynorthwyol – Corfforaethol
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i Bartner Busnes Cyllid Cynorthwyol ymuno â thîm sy'n cefnogi rheolaeth ariannol grŵp sylweddol o wasanaethau'r Bwrdd Iechyd.
Wedi'i leoli yn Ne-orllewin Cymru, mae gan y Bwrdd Iechyd gyllideb o £1 biliwn. Mae’r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am weithrediad pedwar ysbyty cyffredinol dosbarth, ysbytai acíwt a chymunedol eraill, rhwydwaith o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl ledled tair sir.
At hynny, mae hefyd yn cydgysylltu gwaith meddygfeydd teulu a gwasanaethau'r GIG a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr a fferyllwyr. Byddwch yn ymuno â'r Bwrdd Iechyd ar adeg gyffrous, gan ein bod yn rhoi ein strategaeth iechyd a gofal ar waith, ac yn cychwyn ar gyfnod o drawsnewidiadau mawr i'r gwasanaeth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn ymuno â'r tîm ar adeg gyffrous wrth i ni drosglwyddo i fodel Rheoli Busnes a Phartner Busnes newydd. I ymuno â'n tîm uchelgeisiol, rydym yn chwilio am CCAB medrus, uchel ei gymhelliant neu gyfrifydd cymwys cyfatebol sydd â phrofiad o sefydliad cymhleth. Byddwch yn hyderus wrth weithio gydag uwch-arweinwyr gwasanaethau a darparu arweinyddiaeth ariannol gadarn.
Bydd y rôl hon yn darparu rheolaeth ariannol strategol o ansawdd uchel a
chymorth ariannol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i gyfarwyddiaethau corfforaethol y Bwrdd Iechyd. Bydd monitro, rhagweld a chynllunio ariannol cadarn yn hanfodol. Bydd angen i chi hefyd ddangos arweinyddiaeth wrth gydlynu cynlluniau gwaith ar draws y tîm.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol y gallu i ddehongli ac egluro cysyniadau a
gwybodaeth ariannol i reolwyr nad ydynt yn gweithio ym maes cyllid. Mae sgiliaucyfathrebu a TGCh (yn cynnwys Microsoft Excel a PowerPoint) rhagorol hefyd yn hanfodol. Yn allweddol i'r rôl y mae'r gallu i feithrin perthnasoedd dibynadwy â rhanddeiliaid allweddol, sy'n cynnwys y gallu i herio eraill a dylanwadu arnynt.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn sicrhau bod prosesau’n effeithlon, yn effeithiol ac yn gyson ledled yr holl feysydd y mae’n gyfrifol amdanynt, gan feithrin diwylliant o welliant parhaus. Byddwch yn unigolyn sy'n gallu bwrw ati eich hun, ac sydd am fod yn rhan o dîm cyllid sy'n anelu at arloesedd a rhagoriaeth.
Os ydych yn chwilio am swydd i ymuno â thîm bywiog, yna peidiwch ag oedi cyn gwneud cais am y cyfle rhagorol hwn.
Nodwch hefyd ein bod yn disgwyl parhau â threfniadau gweithio ystwyth, gyda rhaniad 50:50 tybiannol rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref, yn amodol ar newid a'r galw yn y gwasanaeth.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Byddwn yn cynnal cyfweliadau ac asesiadau ar 11/12/2024.
Byddem yn eich annog i gysylltu i gael gwybod rhagor am y rôl a'n sefydliad, felly cysylltwch â ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Ymlyniad CCAB/cyfrifydd â chymwysterau rhannol sydd wrthi'n astudio tuag at gymhwyster cyfrifeg proffesiynol
- Profiad ar lefel rheolwr ynghyd â phrofiad ac arbenigedd proffesiynol a rheolaethol amlwg.
- Gwybodaeth broffesiynol fanwl am nifer o ddisgyblaethau cyllid a feithrinwyd dros gyfnod, gan gynnwys cynllunio'r gweithlu a gwasanaethau
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster Cyfrifeg Proffesiynol.
- Yn archwilio ac yn cyrchu rhwydweithiau i gael gwybodaeth i wella dirnadaeth a dealltwriaeth
- Yn meithrin hunanwybodaeth trwy rwydweithiau lleol a chenedlaethol
- Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus.
pROFIAD
Meini prawf hanfodol
- Profiad mewn sefydliad cymhleth
- Profiad o weithio gyda Rheolwyr ac Uwch-arweinwyr Clinigol.
- Profiad o ddatblygu a gweithredu achosion busnes.
- Profiad o reoli cyllidebau refeniw mawr a chymhleth yn llwyddiannus.
- Profiad o gyflawni mewn sefyllfaoedd ariannol heriol, gan gynnwys datrys problemau ariannol i derfyn amser.
- Hanes amlwg o ddatblygiad gyrfa a chyflawniad.
- Profiad o gyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar, mewn amgylchedd gwleidyddol sensitif iawn.
- Yn graff yn fasnachol, yn gallu rheoli'r heriau busnes o ddydd i ddydd wrth beidio â cholli golwg ar nodau strategol tymor hir
- Profiad sylweddol o reoli risg ariannol.
Meini prawf dymunol
- Profiad o gynorthwyo i ddarparu newid sefydliadol a newid i wasanaethau.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio mewn modd amserol ledled Cymru ac ardaloedd eraill o'r Deyrnas Unedig yn ôl yr angen
- Agwedd hyblyg at waith, yn seiliedig ar anghenion y gwasanaeth
- Diddordeb personol mewn datblygiad personol a datblygiad staff mewn prosesau ansawdd.
- Y gallu i gynllunio a blaenoriaethu'r llwyth gwaith ar eich cyfer eich hun a'ch tîm.
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Iwan Williams-Evans
- Teitl y swydd
- Finance Business Partner (Corporate Directorates)
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Leon Popham
Uwch-bartner Busnes Cyllid
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector