Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Partner Busnes Cyllid Cyswllt
Gradd 8b
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i Bartner Busnes Cyllid Cyswllt profiadol ymuno â thîm sy'n darparu cymorth i grŵp sylweddol o wasanaethau gweithredol y Bwrdd Iechyd.
Wedi'i leoli yn Ne-orllewin Cymru, mae gan y Bwrdd Iechyd gyllideb o £1 biliwn. Mae’r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am weithrediad pedwar ysbyty cyffredinol dosbarth, ysbytai acíwt a chymunedol eraill, rhwydwaith o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl ar draws tair sir.
At hynny, mae hefyd yn cydgysylltu gwaith meddygfeydd teulu a gwasanaethau'r GIG a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr a fferyllwyr. Byddwch yn ymuno â'r Bwrdd Iechyd ar adeg gyffrous, gan ein bod yn rhoi ein strategaeth iechyd a gofal ar waith, ac yn cychwyn ar gyfnod o
drawsnewidiadau mawr i'r gwasanaeth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
I ymuno â'n tîm uchelgeisiol, rydym yn chwilio am CCAB medrus, uchel ei gymhelliant neu gyfrifydd cymwys cyfatebol sydd â phrofiad o arwain ac arloesi mewn sefydliad cymhleth. Byddwch yn hyderus wrth weithio gydag uwch-arweinwyr gwasanaethau a byddech yn darparu arweinyddiaeth ariannol gadarn i gefnogi gwasanaethau Gofal wedi’i Gynllunio ar draws y
Bwrdd Iechyd.
Mae'r rôl hon yn cefnogi'r Uwch-bartner Busnes Cyllid a'r Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid i ddarparu cymorth busnes strategol, cadarn, o ansawdd uchel ym maes rheolaeth ariannol, ynghyd â chymorth ariannol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, a hynny ar gyfer cyfarwyddiaethau'r Bwrdd
Iechyd.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol y gallu i ddehongli ac egluro cysyniadau a gwybodaeth ariannol ireolwyr anariannol, ynghyd â'r gallu i amlygu blaengaredd. Mae sgiliau cyfathrebu a TGCh (yn cynnwys Microsoft Excel a PowerPoint) rhagorol hefyd yn hanfodol. Yn allweddol i'r rôl y mae'r
gallu i feithrin perthnasoedd dibynadwy â rhanddeiliaid allweddol, sy'n cynnwys y gallu i herio eraill a dylanwadu arnynt. Mae'r gallu i deithio mewn modd amserol ledled Cymru ac ardaloedd eraill o'r Deyrnas Unedig yn hanfodol.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn sicrhau bod prosesau yn effeithlon, effeithiol a chyson ym mhob maes y mae'n gyfrifol amdano, a bydd yn meithrin diwylliant o welliant ac arloesedd parhaus. Bydd hefyd yn dylanwadu ar bobl eraill er mwyn hyrwyddo arweinyddiaeth ledled y system gyfan,
a bydd yn ysgogi cysondeb yn y tîm uwch-reoli ariannol drwyddo draw. Byddwch yn unigolyn sydd am fod yn rhan o dîm cyllid sy'n anelu at arloesedd a rhagoriaeth.
Os ydych yn chwilio am swydd a fydd yn golygu ymuno â thîm byrlymus mewn Bwrdd Iechyd mawr ac eang o ran ei ddaearyddiaeth, yna ewch ati ar unwaith i wneud cais am y cyfle arbennig hwn.
Nodwch hefyd ein bod yn disgwyl parhau â threfniadau gweithio ystwyth, gyda rhaniad 50:50 tybiannol rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref, yn amodol ar newid a'r galw yn y gwasanaeth.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Byddwn yn cynnal cyfweliadau ac asesiadau ar 10/12/2024.
Manyleb y person
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad helaeth mewn sefydliad cymhleth
- Profiad o weithio gyda Rheolwyr ac Uwch-arweinwyr Clinigol
- Profiad o ddatblygu achosion busnes
- Profiad o reoli cyllidebau refeniw mawr a chymhleth yn llwyddiannus
- Profiad, dealltwriaeth a defnydd amlwg o ddulliau meincnodi a gwybodaeth arall y gwasanaeth
- Profiad o gynllunio a rheoli ariannol ar lefel strategol, gan gynnwys y broses o ddatblygu strategaethau blynyddol, tymor canolig a hirdymor
- Profiad o gyflawni mewn sefyllfaoedd ariannol heriol, gan gynnwys datrys problemau ariannol i derfyn amser
- Record amlwg o yrfa sydd wedi datblygu a chyflawniadau yn ystod eich gyrfa
- Record amlwg o yrfa sydd wedi datblygu a chyflawniadau yn ystod eich gyrfa
- Profiad o reoli sefyllfaoedd dadleuol a dylanwadu ar randdeiliaid
- Profiad o gyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar, mewn amgylchedd gwleidyddol sensitif iawn
- Yn fasnachol graff, ac yn gallu rheoli'r heriau busnes o ddydd i ddydd heb golli golwg ar y nodau strategol hirdymor
- Profiad o reoli risg ariannol
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg i lefel gradd Meistr, neu brofiad i lefel gyfwerth
- Cyfrifydd Cymwys CCAB – cymhwyster cyfrifyddu proffesiynol, ynghyd â gwybodaeth, hyfforddiant a phrofiad arbenigol pellach. Aelodaeth o sefydliad Cyfrifwyr Siartredig proffesiynol
- Gwybodaeth broffesiynol am ddisgyblaethau amryfal, gan gynnwys cynllunio'r gweithlu a gwasanaethau
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Gwybodaeth am fethodolegau gwella a ddefnyddir ledled sefydliadau, a dealltwriaeth ohonynt
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth o ddatblygu arfer gorau yn y GIG yng nghenhedloedd y Deyrnas Unedig; ac o ddatblygiadau mewn arfer gorau ym meysydd rheoli ac arwain
- Yn cyrchu rhwydweithiau i gael gwybodaeth i wella dirnadaeth a dealltwriaeth
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio mewn modd amserol ledled Cymru ac ardaloedd eraill o'r Deyrnas Unedig yn ôl yr angen
- Agwedd hyblyg at waith, yn seiliedig ar anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
- Sgiliau Cymraeg – (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sian Jenkins
- Teitl y swydd
- Deputy Director of Finance
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Byddem yn eich annog i gysylltu i gael gwybod mwy am y rôl a'n sefydliad, cysylltwch â ni.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector