Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Pennaeth Cynorthwyol Adrodd Corfforaethol
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
A chithau'n Bennaeth Cynorthwyol Adrodd Corfforaethol byddwch yn bwynt cyswllt arweiniol ar gyfer y tîm Adrodd Corfforaethol, ac mae’r cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys y canlynol:
1. Rôl uwch ar gyfer cyflawni agenda Adrodd Corfforaethol y Gyfarwyddiaeth Gyllid.
2. Cyflawni allbynnau adrodd misol allweddol yn gywir y tro cyntaf, ynghyd â darparu sylwadau ategol, y tu mewn i'r sefydliad a'r tu allan iddo.
3. Bod yn gyfrifol am reoli rhaglenni gwaith y tîm.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cynorthwyo'r Dirprwy Bennaeth Adrodd Corfforaethol i gwblhau gofynion adrodd allanol a mewnol, megis adroddiad monitro Llywodraeth Cymru, adroddiadau ariannol y Bwrdd Cyhoeddus a'r Pwyllgor Adnoddau Cynaliadwy. Bod yn gwbl gyfrifol am gyflawni gofynion penodol o fewn y
cyflwyniadau. Cwblhau a chyfleu'r adroddiadau hyn, naill ai'n ysgrifenedig neu ar lafar, yn unol â'r safonau proffesiynol uchaf am fod adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth wleidyddol sensitif iawn.
Cynnal adolygiadau rheolaidd o brosesau yn yr adran Gyllid, a rheoli prosiect yr agenda adrodd corfforaethol gan flaenoriaethu meysydd allweddol, symleiddio meysydd gwaith ac awtomeiddio tasgau a wneir â llaw i wella cywirdeb ac effeithlonrwydd yn y tîm.
Cyfrannu at ddiwylliant, llywodraethu a threfniadau rheoli cadarnhaol y tîm trwy gynnal arferion gwaith cyfredol ac arwain y tîm trwy esiampl wrth ddatblygu a gweithredu gwelliannau newid parhaus newydd.
Rheoli'r amserlenni cyllid a chefnogi'r her adeiladol ledled yr holl dimau, sef prosesau, gweithdrefnau a gwybodaeth, a hynny mewn modd annibynnol, diduedd a thryloyw.
Arwain y gwaith o ddarparu dadansoddiad cymhleth, gan gynnwys cyfrifiadau modelu dyfarniadau cyflog i grwpiau staff amrywiol, dadansoddi a modelu chwyddiant macroeconomaidd, i'w cynnwys yng nghyflwyniad cynllun blynyddol y Bwrdd Iechyd, gan ddarparu ystod o opsiynau i'r Bwrdd.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 15/11/2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster CCAB neu'n astudio tuag at hynny, ond yn meddu ar brofiad ac arbenigedd hyd at lefel CCAB
- Profiad ar lefel rheolwr ynghyd â phrofiad ac arbenigedd proffesiynol a rheolaethol profedig
- Gwybodaeth am systemau ariannol integredig
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
- Gwybodaeth am system gyfrifyddu Oracle
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o gyfleu gwybodaeth wleidyddol sensitif iawn, yn ysgrifenedig ac ar lafar, i randdeiliaid mewnol ac allanol
- Profiad o reoli a mentora staff ynghyd â'r gallu i'w harwain a'u hysgogi
- Profiad o gyflawni o fewn terfynau amser heriol
- Profiad blaenorol o weithio gyda setiau data sylweddol
Meini prawf dymunol
- Profiad ariannol blaenorol yn y GIG, y Sector Cyhoeddus neu mewn sefydliad mawr a chymhleth
- Profiad o reoli newid ac ymddygiadau cysylltiedig
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio'n hyblyg mewn perthynas â cherrig milltir adrodd allweddol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd ac i gyfarfodydd Cymru gyfan mewn modd amserol
- Yn ymrwymedig a llawn cymhelliant
- Gwybodaeth a dealltwriaeth mewn perthynas ag Adrodd am Ddangosfwrdd SQL a Power Bi
Meini prawf dymunol
- Siardwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Katie Stuart-Robson
- Teitl y swydd
- Finance Business Partner
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 248604
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector