Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Epilepsi
- Gradd
- GIG AfC: Band 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Monday - Friday 9am-5pm)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR070-0225
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Hafan Derwen
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 25/02/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Nyrs Arbenigol Epilepsi mewn Oedolion Sapphire
GIG AfC: Band 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am nyrs frwdfrydig, uchel ei chymhelliant i ymuno â'r Nyrs Arbenigol Epilepsi mewn Oedolion Sapphire i gefnogi cleifion, eu teuluoedd a'u gofalwyr i fyw'n dda gyda'u cyflwr.
Bydd yn asesu cleifion, yn cynllunio ac yn gweithredu gofal, yn darparu cyngor arbenigol ac yn cynnal cofnodion cysylltiedig ar gyfer pobl ag Epilepsi. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar y cyd ag aelodau eraill o'r tîm amlddisgyblaethol i sicrhau bod anghenion gofal iechyd yr unigolion hyn yn cael eu diwallu.
Bydd yn gweithio'n annibynnol yng nghartrefi cleifion, safleoedd gofal sylfaenol ac ysbytai i gydgysylltu anghenion gofal y cleifion ar y llwyth achosion.
Bydd ganddo sgiliau cyfathrebu da a bydd yn cefnogi ac yn annog ymyriadau ac addysg cleifion/gofalwyr.
Bydd yn darparu cymorth arbenigol, cyngor, ac adnodd addysgol i aelodau eraill y tîm nyrsio a disgyblaethau eraill yn ôl y gofyn.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rheoli, cydgysylltu, hwyluso a datblygu strategaethau gwerthuso ar gyfer gweithredu a darparu gwasanaethau Epilepsi yn Hywel Dda, mewn cydweithrediad â thimau gofal sylfaenol, timau gofal eilaidd a sefydliadau perthnasol eraill.
Gweithredu protocolau gofal sy'n seiliedig ar dystiolaeth i sicrhau diagnosis, ymchwilio a thriniaeth briodol i gleifion ag epilepsi. Gweithredu protocolau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i alluogi cychwyn, addasu a monitro therapi yn unol â rhagnodi atodol / annibynnol.
Nodi cyfleoedd ar gyfer gwella gwasanaethau Epilepsi a chydweithio rhwng y rhyngwyneb gofal Sylfaenol, Cymunedol ac Eilaidd i gynllunio'r newid a roddwyd ar waith.
Gweithredu llwybrau gofal cleifion y cytunwyd arnynt mewn perthynas ag Epilepsi, gan gynnwys defnyddio technolegau e.e., telefeddygaeth/teleiechyd.
Arddel y cyfrifoldeb a'r arbenigedd i hyrwyddo a grymuso eraill trwy ddechrau, rhannu a gwerthuso arfer gorau.
Paratoi a gweithredu protocolau clinig epilepsi ar draws Hywel Dda.
Bod yn adnodd arbenigol ac yn gynghorydd i unigolion a chyd-weithwyr ar faterion yn ymwneud ag atal a thrin Epilepsi.
Bod yn ymarferydd annibynnol.
Datblygu eich cymhwysedd eich hun a chyflawni cymwyseddau sy'n berthnasol i'r swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 03/03/2025.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau & Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig
- Rhan 1 o gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Yn meddu ar radd, neu gymhwyster neu brofiad cyfatebol
- Diploma ôl-raddedig mewn maes arbenigedd neu wybodaeth arbenigol ym maes niwroleg
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster Addysgu
- Cwrs epilepsi cydnabyddedig
- Gwybodaeth arbenigol ym maes gofal epilepsi ac ymarfer amlwg
- Cwrs Modiwl Nyrsio Niwrowyddorau
- Gwybodaeth am ymchwil ac archwilio
- Ymwybyddiaeth o Lywodraethu Clinigol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-gofrestru o weithio mewn gwasanaethau Anableddau Dysgu
- Tystiolaeth o ddatblygiad ôl-gofrestru parhau
- Profiad o addysgu ac asesu yn y maes clinigol
Meini prawf dymunol
- Profiad o gynllunio prosiectau
- Profiad o weithio ar draws gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd
- Profiad ôl-gofrestru o weithio ym maes gofal epilepsi
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Tanya Howells
- Teitl y swydd
- Senior Respiratory Nurse
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437 773867
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector