Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Rheolwr y Gweithlu: e-amserlennu Meddygol
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Bydd Rheolwr y Gweithlu: e-amserlennu Meddygol yn gyfrifol am weithredu, rheoli, cynnal a datblygu'r system e-amserlennu meddygol yn y Bwrdd Iechyd. Bydd yn defnyddio gwybodaeth arbenigol am Delerau ac Amodau'r gwasanaeth o ran cyflogaeth yn y GIG i sicrhau bod pob rheolwr yn cydymffurfio â deddfwriaeth a pholisïau'r Bwrdd Iechyd wrth greu a gweithredu amserlenni.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rheolwr y Gweithlu: e-amserlennu Meddygol fydd yr arbenigwr arweiniol, gan gefnogi'r Bwrdd Iechyd i ddadansoddi a llunio amserlenni i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y cleifion, y gwasanaeth a deddfwriaeth cyflogaeth.
Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod rhaglen addysg gadarn, gynhwysfawr ar waith a fydd yn hyfforddi rheolwyr i ddefnyddio cyfleusterau llawn y system e-amserlennu i fanteisio i'r eithaf ar y system.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
47 o bractisau cyffredinol (6 ohonynt yn bractisau a reolir), 45 practis deintyddol (gan gynnwys 4 orthodontig), 96 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 08/08/2024.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Wedi eich addysgu hyd at lefel diploma ôl-raddedig neu'n gallu amlygu gwybodaeth sy'n cyfateb i'r lefel hon ym maes amserlennu
- Yn meddu ar dystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster proffesiynol ôlraddedig perthnasol neu brofiad cyfwerth
- Y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD)
- Gwybodaeth am Delerau ac Amodau Meddygol a Deintyddol
- Cymhwyster rheoli neu gymhwyster perthnasol, neu brofiad priodol o reoli prosiectau ar lefel gyfatebol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o reoli prosiectau naill ai yn rhan o'r tîm neu yn rôl rheolwr prosiect
- Profiad o weithio dan bwysau i derfynau amser mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y cwsmer
- Profiad blaenorol o weinyddu systemau TG Adnoddau Dynol neu ddatrysiadau TG eraill seiliedig ar gronfeydd data
Meini prawf dymunol
- Profiad sylweddol o'r GIG, yn cynnwys y defnydd o e-systemau amserlennu
- Profiad o ddatblygu a rheoli polisïau ac arferion Adnoddau Dynol
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd a ledled Cymru/y DU yn ehangach mewn modd amserol
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg ( Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Michelle James
- Teitl y swydd
- Head of Resourcing & Utilisation
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector