Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cardioleg
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-NMR063-0225
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£37,898 - £45,637 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
25/02/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Prif Nyrs

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle datblygu cyffrous iawn wedi dod ar gael o fewn yr Uned Gofal Coronaidd ar gyfer Prif Nyrs Iau Band 6.

Mae'r uned yn cynnwys chwech gwely gofal coronaidd acíwt, ynghyd â saith gwely cardiaidd cam-i-lawr. Mae'r Uned Gofal Coronaidd hefyd yn derbyn cleifion ar y llwybr Trin a Dychwelyd Adref Ysbyty Treforys. 

O fod yn rhan o'n tîm cyfeillgar, cefnogol a phroffesiynol byddwch yn gweithio'n agos gydag arbenigeddau eraill a'r tîm amlddisgyblaethol yn yr ysbyty i ofalu am gleifion sy'n ddifrifol wael ym meysydd nyrsio.

Rydym am recriwtio nyrs uchel ei chymhelliant a brwdfrydig, sy'n canolbwyntio ar y claf, ac sydd â diddordeb penodol mewn nyrsio cardiaidd.

Bydd rhaglen datblygiad proffesiynol yn cael ei datblygu i sicrhau bod yr 
ymgeisydd llwyddiannus yn elwa ar yr addysg a'r hyfforddiant angenrheidiol ar gyfer y rôl.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu gofal unigol ei ogwydd ac o safon uchel i'n cleifion. Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol.

Mae tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus yn hanfodol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Byddwch yn cynorthwyo'r Uwch-brif Nyrs i ddatblygu polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol ar gyfer ei maes cyfrifoldeb, gan sicrhau eu bod yn bodloni meini prawf cenedlaethol, lleol a phroffesiynol, a'u dwyn i sylw'r Uwch-reolwr Nyrsio i gytuno arnynt cyn eu cyflwyno i'w cadarnhau. 

Cyfuno ymarfer clinigol rhagorol â'r gwaith o ddydd i ddydd o gydgysylltu shifftiau, ynghyd ag ymgymryd â chyfrifoldebau arwain a rheoli i gefnogi'r Uwch-brif Nyrs.

Cydweithio â'r Uwch-brif Nyrs, a'i chefnogi'n barhaus, gan ddirprwyo/ofalu am y maes/tîm clinigol yn absenoldeb yr Uwch-brif Nyrs.

Darparu sgiliau rheoli ac arwain goruchwyliol mewn amgylchedd clinigol sy'n gymhleth a lle ceir pwysau mawr.

Darparu arweinyddiaeth ac arweiniad nyrsio proffesiynol (yn unol â safonau'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth) a chyngor clinigol, yn ogystal ag ymgymryd â gweithgareddau rheoli a monitro i sicrhau y cynhelir safonau uchel bob amser mewn perthynas â gofal nyrsio.

Gweithio ochr yn ochr ag aelodau'r tîm nyrsio, gan roi cymorth i gyd-weithwyr iau wrth iddynt ddarparu gofal uniongyrchol.

Cyfrannu mewn modd rhagweithiol at weithredu Safonau ar gyfer Addysg (2018) y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, gan gynnwys y safonau ar gyfer goruchwylio ac asesu myfyrwyr.

Arwain a bod yn esiampl mewn perthynas â datblygu a mentora staff newydd a staff eraill.

Amlygu gwerthoedd y Bwrdd Iechyd ym mhopeth y byddwch yn ei wneud yn yr amgylchedd gwaith. 

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).

Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 05/03/2025.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.

https://fb.watch/hzQjE8HzTN/

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Gofrestredig (Rhan 1)
  • Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Gradd Baglor (neu profiad cyfatebol)
  • Diploma ol-raddedig perthnasol (neu ddatblygiad/ profiad cyfwerth A pharodrwydd i ymgymryd ag astudiaeth ol-raddedig briodol pan yn y swydd)
  • IQT Efydd
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster addysgu (neu brofiad cyfwerth)
  • Cymhwyster rheoli cydnabyddedig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad priodol o'ch arbenigedd a'r gallu i amlygu gwybodaeth gadarn am yr arbenigedd perthnasol
  • Y gallu i amlygu gwybodaeth gadarn am God y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2015)
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd amlbroffesiynol
  • Profiad o redeg ward/ardal/adran
  • Profiad o weithio gyda myfyrwyr nyrsio/bydwreigiaeth cyn-gofrestru
  • Profiad o addysgu a mentora myfyrwyr nyrsio neu fyfyrwyr bydwreigiaeth cyn-gofrestru, a hynny mewn modd ffurfiol/anffurfiol
  • Dealltwriaeth o'r agenda nyrsio a gofal iechyd ehangach
  • Sgiliau TG
  • Sgiliau rheoli goruchwylio
  • Gallu cysylltu theori yn ymarferol drwy sgiliau myfyriol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o gydlynu tim
  • Profiad o hwyluso dysgu yn ystod ymarfer, ac o ganlyniad iddo
  • Profiad blaenorol o arwain a rheoli
  • Ymwybyddiaeth o faterion cyfoes ym maes nyrsio ac yn eich arbenigedd
  • Ymwybyddiaeth o reolaeth ariannol a rheoli adnoddau

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sarah Hanford
Teitl y swydd
Senior Sister
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227733
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

 

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg