Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cardioleg
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- 18 mis (Dyma swydd cyfnod penodol/ secondiad tan 31/03/2026)
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
- Cyfeirnod y swydd
- 100-HS019-0724
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £44,398 - £50,807 y flwyddyn (pro rata os yn rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 24/07/2024 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 08/08/2024
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Ymarferydd Cardioleg Arbenigol
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD TAN 31.03.2026 CWRDD GOFYNION Y GWASANAETH.
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio ym maes gofal sylfaenol yn darparu
gwasanaeth crychguriadau'r galon newydd. Y diben yw gweld cleifion â'r
symptomau hyn, penderfynu ar ddiagnosis, a sicrhau eu bod yn cael triniaeth a chyngor ar ffordd o fyw. Mae'r rôl glinigol yn agored i ymgeiswyr o'r Proffesiynau Perthynol i Iechyd, y Proffesiynau Gwyddor Gofal Iechyd a Nyrsio, ac mae'n cynnig cyfle cyffrous i unigolion profiadol sy'n hyderus wrth wneud diagnosis a rheoli afreoleidd-dra'r galon.
Bydd y clinigau'n cael eu darparu mewn lleoliadau gofal sylfaenol ledled Sir
Gaerfyrddin ac mae'r gwasanaeth yn cael ei gefnogi'n gryf gan dimau'r practisau. Felly, mae'r gallu i deithio mewn modd amserol rhwng lleoliadau yn hanfodol. Darperir cymorth a goruchwyliaeth glinigol gan y tîm cymunedol afreoleidd-dra'r galon, sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Glangwili.
Nod y gwasanaeth yw archwilio a rhoi diagnosis i gleifion sydd â symptomau sy'n awgrymu afreoleidd-dra'r galon, a thrafod a rhoi cyngor ar gynlluniau rheoli a thrin ar y cyd ag uwch-staff meddygol ac uwch-ymarferwyr. At hynny, mae'r gwasanaeth yn darparu addysg a chyngor arbenigol mewn perthynas ag adnabod afreoleidd-dra'r galon, gwneud diagnosis, a rheoli clefyd rhythm y galon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mynd ati'n annibynnol i gyflawni llwyth achosion o gleifion ag anghenion cymhleth iawn, gan ddefnyddio egwyddorion seiliedig ar dystiolaeth sy’n canolbwyntio ar y cleient i ddadansoddi'n feirniadol, asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso ymyriadau. Bydd hyn yn cynnwys addysg, hybu iechyd, a chymorth yn achos pob agwedd ar gynllun trin a rheoli y claf.
Cydweithredu ag aelodau eraill o'r tîm amlddisgyblaethol ledled llwybrau a
lleoliadau gofal gwahanol i sicrhau bod anghenion gofal iechyd cleifion yn cael eu diwallu. Bydd hyn yn cynnwys gwerthuso'r gwasanaeth presennol yn barhaus a myfyrio ar eich ymarfer eich hun.
Bod yn adnodd arbenigol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ledled nifer o leoliadau, monitro a chefnogi gwasanaethau, a chymryd rhan yn y broses o lunio llwybrau, ymchwil addysg ac archwilio, gan hefyd fynd ati'n barhaus i feithrin a diweddaru'r wybodaeth a'r sgiliau tra arbenigol sy'n ofynnol ar gyfer y rôl.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 08/08/24
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
47 o bractisau cyffredinol (6 ohonynt yn bractisau a reolir), 45 practis deintyddol (gan gynnwys 4 orthodontig), 96 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gweithiwr Iechyd Proffesiynol Perthynol i Iechyd Cofrestredig, Gweithiwr Proffesiynol ym maes Gwyddor Iechyd, neu Nyrs, neu dystiolaeth o gofrestriad perthnasol
- Gradd Perthnasol
- Cwrs cardiaidd ôl-raddedig perthnasol ar lefel 7 neu cyfatebol
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Gwybodaeth a dealltwriaeth mewn perthynas â chanllawiau clinigol allweddol, e.e. NICE, a'r modd y bydd y rhain yn dylanwadu ar ymarfer clinigol
- Cymhwyster lefel Meistr perthnasol, neu'n gallu amlygu profiad a sgiliau cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu cydnabyddedig
- Modiwl asesu clinigol a diagnostig neu barodrwydd i ymgymryd â hynny yn unol â gofynion y rôl
- Cymhwyster arwain
- Cymhwyster Gwella Ansawdd
- Cymhwyster cwnsela
- Presgripsiynydd anfeddygol neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant yn unol â gofynion y rôl
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-gofrestru helaeth sy'n cynnwys gweithio mewn un neu ragor o lwybrau cardiaidd
- Profiad o ymgymryd â chlinigau dan arweiniad Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, Gwyddonwyr Gofal Iechyd (ffisioleg glinigol) neu Nyrsys
- Profiad o gynnal sesiynau addysg cleifion
- Sgiliau cyflwyno
- Ysgrifennu adroddiadau
- Profiad o ymgymryd â gwaith ymchwil a/neu archwiliadau
- Profiad o arwain a rheoli
- Profiad o weithio amlddisgyblaethol
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio ym maes Gofal Sylfaenol
- Profiad blaenorol o weithio mewn rôl arbenigol
- Profiad blaenorol o brosiectau i newid gwasanaethau
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Nerys James
- Teitl y swydd
- Cardiac & Respiratory Healthcare Sciences Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267266300
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector