Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Gweinyddwr Addysg Feddygol
Band 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i weinyddwr profiadol ymuno â'r Tîm Addysg Feddygol prysur yn y Ganolfan Addysg Feddygol, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, gweithgar a chyfeillgar i ddarparu cymorth gweinyddol cynhwysfawr. Bydd angen i'r sawl a benodir allu amlygu sgiliau trefnu, cyfathrebu a rheoli amser effeithiol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bod yn un o'r prif bwyntiau cyswllt ar gyfer meddygon ac ymwelwyr eraill â'r Ganolfan Addysg Feddygol.
Cefnogi'r gwaith o redeg y ganolfan o ddydd i ddydd, gan gynnwys archebu a pharatoi ystafelloedd ar gyfer addysgu a gweithgareddau eraill, ynghyd â chadw tŷ yn gyffredinol.
Hwyluso a goruchwylio'r gwaith o ddatblygu rhaglenni addysgu a dysgu amrywiol.
Cefnogi'r gwaith o drefnu digwyddiadau addysgol sy'n cael eu cynnal yn y ganolfan.
Cynnal rhestrau manylion cyswllt cyfredol ar gyfer yr holl hyfforddeion a hyfforddwyr sydd wedi'u lleoli ym maes Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu.
Sicrhau bod y systemau sydd ar waith i gofnodi'r rhai sy'n bresennol ar gyfer sesiynau addysgu yn cael eu cadw'n gyfredol.
Tasgau gweinyddol eraill, megis ateb y ffôn, llungopïo, sganio, ac ati.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 20/08/2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Wedi eich addysgu i safon Lefel 3, e.e. Safon Uwch/NVQ 3, ac ati
- Gwybodaeth am yr amrywiaeth o weithdrefnau gweinyddol a chlercol
Meini prawf dymunol
- Wedi eich addysgu i Lefel Diploma
- Gwybodaeth am y broses Addysg Feddygol yn amgylchedd y gwasanaeth iechyd
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa prysur
- Profiad o drefnu digwyddiadau a phrosiectau
- Profiad o weithio gyda systemau TG h.y. cronfeydd data, Excel, PPT, Timau a systemau eraill
- Profiad o osod blaenoriaethau
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd addysgol
- Profiad blaenorol o weithio yn y GIG
- Profiad o weithio gydag MS Teams
Language skills
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1). Mae manylion llawn y disgwyliadau sy'n gysylltiedig a lefel 1 i'w gweld ar waelod y dudalen hon
Other
Meini prawf hanfodol
- Yn hyblyg o ran oriau gwaith
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
- Y gallu i hwyluso a mynychu cyfarfodydd y tu allan i oriau gwaith arferol
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Catrin Jarman
- Teitl y swydd
- Medical Education Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 283091
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector