Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Rheolwr Gwasanaethau Gofal Sylfaenol
Band 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â’r Tîm Gofal Sylfaenol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Rydym yn chwilio am unigolyn cymwys a dynamig sy'n teimlo'n angerddol dros newid a darparu gwasanaethau. Byddwch yn gweithio mewn grŵp cymheiriaid o Reolwyr y Gwasanaeth Gofal Sylfaenol sydd bob un yn gysylltiedig ag ardal unigol yn y
Bwrdd Iechyd.
A chithau'n uwch-aelod o'r tîm, byddwch yn rhoi arweiniad gweithredol o ran datblygu'r Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn ogystal â gweithio gyda'r contractwyr Gofal Sylfaenol eraill yn y Clwstwr Tywi/Taf ac yn darparu rôl gyswllt ar lefel sirol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli contractau a rheoli perfformiad y contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol o ddydd i ddydd, ynghyd ag am ddatblygu ymarfer ar gyfer meddygfeydd yn ei ardal ddynodedig; mae hyn yn cynnwys Meddygfeydd a Reolir gan y Bwrdd Iechyd.
Gan weithio'n rhan o'r Tîm Gofal Sylfaenol ehangach, byddwch yn allweddol i'r broses o weithredu ffyrdd newydd o weithio, megis datblygu meddygfeydd ffederal, cyllidebau ardal dangosol ac ailgynllunio gwasanaethau arloesol. Byddwch hefyd yn darparu cymorth ac arweiniad i Glystyrau Gofal Sylfaenol, gan sicrhau bod trefniadau llywodraethu cadarn ar waith, yn unol â chytundebau lleol a chenedlaethol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 21/11/2024.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg i lefel gradd Meistr, neu lefel gyfwerth o wybodaeth a gafwyd trwy brofiad
- Datblygiad proffesiynol parhaus
Meini prawf dymunol
- ECDL
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol o Reoli yn y GIG
- Profiad o weithio gyda phractisau sy'n darparu gofal sylfaenol
- Profiad o reoli contractau a monitro perfformiad
- Profiad o osod cyllidebau a monitro sefyllfaoedd arianno
- Profiad o ddatblygu a gweithredu cynlluniau strategol
- Profiad o reoli staff a gweithio mewn tim
- Profiad o ddarparu a chael gwybodaeth gymhleth, sensitif a dadleuol iawn
- Profiad o weithio mewn partneriaeth a sefydliadau eraill
Meini prawf dymunol
- Profiad o reoli contractau ym maes Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol
- Profiad o negodi a datblygu manylebau Gwasanaethau Ychwanegol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Sgiliau Cymraeg – Lefel 1
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Laura Lloyd Davies
- Teitl y swydd
- Cluster Development Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector