Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Uwch-reolwr Nyrsio (Gofal heb ei Drefnu)
Gradd 8a
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Diben rôl yr Uwch-reolwr Nyrsio yw darparu arweinyddiaeth a rheolaeth
broffesiynol mewn perthynas â'r adnoddau nyrsio ledled yr arbenigeddau Gofal Heb ei Drefnu.
Bydd hyn yn cynnwys:
Sicrhau arweinyddiaeth broffesiynol effeithiol i reolwyr adrannau a staff yn yr arbenigeddau hynny er mwyn sicrhau'r safonau uchaf o ofal clinigol;
Darparu arweiniad a chyfarwyddyd i'r holl nyrsys cofrestredig ac anghofrestredig sy'n gweithio ym maes darparu arbenigeddau Gofal Heb ei Drefnu;
Gofalu bod y gwasanaethau cymorth priodol ar gael;
Sicrhau gwasanaeth o ansawdd, a chynnal safon uchel o ran rheoli heintiau;
Darparu presenoldeb hygyrch a chefnogol y gall cleifion a'u teuluoedd fynd ato am gymorth, cyngor a chefnogaeth ac i ddatrys pryderon yn gynnar.
Bydd deiliad y swydd yn arweinydd hygred ac yn meddu ar y gallu i rymuso a meithrin nyrsys sy'n gweithio yn yr amgylchedd clinigol, a bydd yn atebol am safonau nyrsio proffesiynol.
Ar y lefel hon, disgwylir i ddeiliad y swydd weithio'n annibynnol a darparu cyngor tra arbenigol i gyd-weithwyr er mwyn sicrhau bod amcanion y gwasanaeth, ynghyd â'r amcanion o ran ansawdd a pherfformiad, yn cael eu cyflawni. Mae hyn yn cynnwys cefnogi systemau ar gyfer proses ailddilysu y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, a rheoli perfformiad unigolion a thimau nyrsio o ran eu hatebolrwydd am safon a diogelwch y gofal cleifion.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cyfarwyddo, arwain ac ysgogi nyrsys a staff eraill, gan weithio yn y timau a reolir er mwyn sicrhau safon uchel o broffesiynoldeb, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran darparu gwasanaeth, a sicrhau bod y gweithgarwch yn cyd-fynd â chynlluniau a strategaethau'r Bwrdd Iechyd;
Bod yn ffocws cychwynnol ar gyfer yr holl bryderon sy'n codi mewn arbenigeddau Gofal Heb ei Drefnu, yn ogystal ag ar gyfer materion proffesiynol/gweithredol sy'n codi o ddydd i ddydd, a bod yn gyfrifol am reoli'r staff nyrsio a'r adnoddau yn y timau dynodedig;
Ymgymryd â'r gwaith o hyfforddi, mentora, cynllunio adnoddau, gosod safonau, rheoli perfformiad a datblygu timau ac unigolion, a hynny er mwyn sicrhau bod diwylliant o welliant parhaus a rhagoriaeth broffesiynol yn amlwg yn yr ysbyty;
Gweithio gyda chyd-weithwyr uwch i baratoi dogfennaeth gais ar gyfer unrhyw gynlluniau i ddatblygu'r ystad a gofynion o ran cyfarpar a ariennir gan gyfalaf yn ôl disgresiwn;
Paratoi adroddiadau dadansoddol clir a chryno ar amrywiaeth eang o faterion cymhleth, gan lunio dadleuon cymhellol a rhesymegol yn aml, yn seiliedig ar eich asesiad eich hun o'r opsiynau, a chynnig argymhellion cryf i'r achos, fel y bo'n briodol;
Gweithio yn unol â'r strategaeth a pholisi cenedlaethol/lleol ac o fewn canllawiau proffesiynol, gan eu dehongli i lywio'r gwaith o ddatblygu polisi lleol a gwella arfer.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 20/08/2024
Mellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
https://youtu.be/9wTeZD4cQOw |
https://youtu.be/v5HCZuYR42w |
https://youtu.be/OgnuYER_XlA |
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig Lefel 1 a chofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- MSc mewn Nyrsio neu brofiad cyfatebol
- Cyrsiau ol-raddedig perthnasol a/neu brofiad mewn arbenigeddau sy'n ymwneud a'r swydd
- Tystiolaeth o ddatblygu rheolaeth yn barhaus
- Yn meddu ar gymhwyster rheoli cydnabyddedig neu brofiad amlwg cyfatebol
- Yn meddu ar wybodaeth am fethodolegau gwella ansawdd
- Yn meddu ar wybodaeth am bolisiau a materion cyfredol o ran arfer proffesiynol, cydymffurfedd, safonau a'r GIG yn ehangach, ynghyd a dealltwriaeth ohonynt
- Yn meddu ar ddealltwriaeth drylwyr o'r rol a'i diben yn y sefydliad
Meini prawf dymunol
- Gwella Ansawdd Gyda'n Gilydd (IQT Efydd/Arian)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddatblygu ymarfer
- Rhaid meddu ar brofiad o rol rheolaeth ganol yn sector aciwt y GIG
- Rhaid meddu ar brofiad o reoli newid
- Rhaid meddu ar brofiad profedig o arweinyddiaeth glinigol ar lefel uwch-reolwr
- Y gallu i reoli gwariant yn unol a chyllideb a datblygu dulliau rheoli digonol i wneud hynny
- Rhaid meddu ar brofiad uniongyrchol o newid mawr i wasanaeth a sefydliad, ynghyd a gwybodaeth am sut i lywio gwasanaeth trwy raglen newid lwyddiannus
- Profiad o reoli staff a gweithio gydag Undebau Llafur/gyda chynrychiolwyr staff
Sgiliau Iaith
Meini prawf hanfodol
- Rhaid meddu ar empathi tuag at nodau Deddf yr Iaith Gymraeg, a'u cefnogi
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg/dirnadaeth o'r Gymraeg
- Welsh Speaker (Level 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dawn Jones
- Teitl y swydd
- Head of Nursing
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01970 635846
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector