Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Radioleg
Gradd
Gradd 6
Contract
Cyfnod Penodol: 12 mis (tan 31/03/2026)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (yn ogystal â gwaith ar alwad i ddarparu ar gyfer gwasanaeth 24 awr/saith niwrnod yr wythnos, dyddiau hir)
Cyfeirnod y swydd
100-AHP013-0225
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£37,898 - £45,637 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
12/03/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
19/03/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Radiograffydd

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae hon yn swydd cyfnod penodol tan 31/03/2026 oherwydd cufnod Mamolaeth.

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON. 

Mae Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn chwilio am radiograffydd brwdfrydig i ymuno â'r tîm CT. Mae gennym adran CT brysur sy'n rhedeg peiriant Canon Aquilion Prism. Mae'r ystafelloedd CT yn fodern ac yn gyfeillgar i gleifion, gydag ardal cynllun agored, bwrpasol ar gyfer gosod canwlâu a lle gall cleifion aros. Mae'r adran CT yn cynnal yr holl archwiliadau, gan gynnwys rhestr Angiograffeg Coronaidd CT wythnosol.

Bydd yr ymgeiswyr yn meddu ar BSc mewn Radiograffeg (neu gymhwyster cyfatebol cydnabyddedig), cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, ynghyd â phrofiad priodol ym maes radiograffeg trawstoriadol, yn enwedig CT. Bydd gofyn i chi oruchwylio myfyrwyrradiograffwyr a chynorthwyo â hyfforddi staff radiograffeg cylchdro.

Mae cymryd rhan yn y rota CT ar alwad yn orfodol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn ysbyty cyffredinol dosbarth prysur wedi'i leoli yng Ngheredigion yng Ngorllewin Cymru. Mae'r adran CT yn cynnwys amrywiaeth da o offer, sy'n cynnwys Canon Aquilion Prism a gafodd ei osod ym mis Ionawr 2022. 

Mae gan yr adran gyffredinol dair ystafell Samsung DR, Mamograffeg, Dexa, ystafell fflworosgopeg Siemens Artis Zee, a detholiad o gyfarpar Philips II, ac mae'r holl gyfarpar symudol yn rhai digidol Samsung. Mae gan yr adran MRI sganiwr MRI Siemens Avanto 1.5T. Mae yna hefyd adran 
uwchsain brysur sy'n defnyddio amrywiaeth o systemau uwchsain gwahanol. 

Anogir trefniadau ymestyn rolau, ac mae gennym waith adrodd Radiograffwyr ffilm blaen, CT ac MRI, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig, sy'n cynnwys hyfforddiant ar 
uwchsain, ledled y Bwrdd Iechyd.

Mae gan yr adran wasanaeth ar alwad prysur, sy'n cael ei staffio ar y safle yn achos y gwasanaethau Cyffredinol a CT.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion). 
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gefnogi ei staff i goleddu'n llawn yr angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cynhelir y cyfweliadau ar 19/03/2025.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • BSc Radiograffeg (neu gymhwyster cyfatebol cydnabyddedig)
  • Cyrsiau arbenigol byr neu brofiad hyd at lefel diploma ol-raddedig
  • Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth o weithdrefnau radiograffeg arbenigol a PACS
  • Tystysgrif ôl-raddedig mewn Mamograffeg
  • Cymhwyster ol-raddedig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Yn gymwys i ddefnyddio cyfarpar a thechnegau pelydr-X gwahanol
  • Sgiliau radiograffydd
  • Profiad sylweddol mewn perthynas ag archwiliadau arbenigol (CT/MRI)
  • Goruchwylio a Hyfforddi Radiograffwyr
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol yn y GIG
  • Tystiolaeth o ddatblygu rol

Sgiliau Iaith

Meini prawf hanfodol
  • Welsh desirable
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dave Edwards
Teitl y swydd
Site Lead Radiographer
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

 

 

 

 

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg