Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Mamolaeth
Gradd
Band 6
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
Mae oriau llawn a rhan amser ar gael
Cyfeirnod y swydd
100-NMR569-1124
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£37,898 - £45,637 y flwyddn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
01/12/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Bydwraig

Band 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol. 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am fydwraig ddynamig a brwdfrydig i ymuno â thîm Clinig Cynenedigol ac Uned Asesu Dydd Bronglais. Bydd y rôl yn ategu'r gwasanaeth a ddarperir ar hyn o bryd.

Mae bydwraig yn gyfrifol am ei hymarfer ei hun ac felly bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gynnal arbenigedd proffesiynol o safon uchel a sicrhau bod gofal bydwreigiaeth o'r ansawdd uchaf yn cael ei roi yn ystod y cyfnod cynenedigol.

Mae ein gwasanaeth mamolaeth yn newid ac yn esblygu'n barhaus i ddiwallu anghenion y boblogaeth a sicrhau bod menywod a'u teuluoedd yn cael profiad cadarnhaol wrth roi genedigaeth. Rydym yn dîm cyfeillgar a chefnogol iawn sy'n croesawu ffyrdd arloesol o weithio a syniadau newydd. 

Credwn yn gryf mai ein gweithwyr yw ein hased mwyaf gwerthfawr, rydym yn ymgysylltu â'n staff ac yn grymuso pawb, ar bob lefel, i drafod syniadau ac ysgogi newid i gynnig gwelliannau o ran ein gofal. Os byddwch yn ymuno â'n tîm byddwch yn cael hyfforddiant a datblygiad o ansawdd uchel i'ch helpu i dyfu yn eich gyrfa.

Swydd barhaol yw hon ar gyfer Bydwraig Band 6, ac mae oriau llawn amser ar gael.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Darparu arweinyddiaeth broffesiynol a mentora i fydwragedd llai profiadol a chymorth i gyd-weithwyr mewn tîm amlddisgyblaeth.

Darparu gofal cynenedigol i grŵp diffiniedig o fenywod a’u teuluoedd yn y clinig cynenedigol. Cydweithredu a chysylltu â phob aelod o staff, y tîm gofal iechyd sylfaenol, a'r staff meddygol a bydwreigiaeth yn yr uned i geisio meithrin ysbryd tîm a sicrhau parhad gofal. Rhoi gwybodaeth i'r fam feichiog i'w galluogi i wneud dewis doeth ynglŷn â lleoliad a dull yr enedigaeth ac ynglŷn â'r gwasanaethau sydd ar gael.

Cynghori ar faterion Iechyd y Cyhoedd, e.e. rhoi’r gorau i ysmygu a hybu bwydo ar y fron. Cynghori rhieni a pherthnasau babanod sy'n cael eu geni ag annormaleddau neu rieni a pherthnasau sydd wedi cael profedigaeth, a gofalu amdanynt. Yn gyfrifol am weithio mewn partneriaeth â'r fenyw a'i theulu gan sicrhau mai nhw yw prif ffocws eich gwaith.

Cadw cofnodion cyfredol, manwl yn unol â safonau'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a chanllawiau cadw cofnodion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan gynnwys cofnodion manwl o'r arsylwadau a wnaed, y gofal a roddwyd a'r meddyginiaethau a roddwyd i fenyw neu fabi.

Mae gan fydwragedd ddyletswydd statudol o gyfrifoldeb i gadw at God y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth: Safonau Ymarfer Proffesiynol ac Ymddygiad, a'r Rheoliadau Cyffuriau Rheoledig.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 13/12/24.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion). 
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.

https://fb.watch/hzQjE8HzTN/

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Bydwraig Gofrestredig gyda chofrestriad llawn gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Portffolio Datblygiad Proffesiynol Parhaus
  • Wedi cwblhau rhaglen breceptoriaeth sydd wedi'i gymeradwyo

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau TG sylfaenol
  • Yn gallu darparu safon uchel o ofal unigol i gleientiaid yn seiliedig ar dystiolaeth
  • Cyfathrebwr effeithiol sydd â sgiliau arwain a rhyngbersonol da.
  • Tystiolaeth o'r gallu i gymryd yr awenau yn absenoldeb eich rheolwr llinell uniongyrchol
  • Amlygu sgiliau bydwreigiaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth gyfredol
  • Amlygu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd archwilio a pholisi
  • Profiad o fentora a datblygu staff
Meini prawf dymunol
  • ALSO – Cynnal Bywyd Uwch Obstetreg
  • NALS - Cymorth Bywyd Uwch Newyddenedigol

Sgilliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Emma Booth
Teitl y swydd
Clinical & Operational Lead Midwife
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01970635633
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg