Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Bydwraig
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae hon yn swydd cyfnod penodol/secondiad tan 30/09/2025.
Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
Rydym yn chwilio am Fydwraig ddeinamig a brwdfrydig i ymuno â thîm craidd Bronglais. Gweithio ar ward Gwenllian gyda thîm ymroddedig o fydwragedd ac obstetryddion i ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel i bawb sy'n defnyddio'r uned. Byddwch yn cefnogi ac yn cynnal y gwasanaeth unigryw a ddarperir yn yr uned obstetreg fach.
Mae bydwraig yn gyfrifol am ei hymarfer ei hun ac felly bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gynnal arbenigedd proffesiynol o safon uchel a sicrhau bod gofal bydwreigiaeth o'r ansawdd uchaf yn cael ei roi yn ystod y cyfnod cynenedigol.
Mae ein gwasanaeth mamolaeth yn newid ac yn esblygu'n barhaus i ddiwallu anghenion y boblogaeth a sicrhau bod menywod a'u teuluoedd yn cael profiad cadarnhaol wrth roi genedigaeth. Rydym yn dîm cyfeillgar a chefnogol iawn sy'n croesawu ffyrdd arloesol o weithio a syniadau newydd.
Credwn yn gryf mai ein gweithwyr yw ein hased mwyaf gwerthfawr, rydym yn ymgysylltu â'n staff ac yn grymuso pawb, ar bob lefel, i drafod syniadau ac ysgogi newid i gynnig gwelliannau o ran ein gofal. Os byddwch yn ymuno â'n tîm byddwch yn cael hyfforddiant a datblygiad o ansawdd uchel i'ch helpu i dyfu yn eich gyrfa.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd disgwyl i chi:
Darparu arweinyddiaeth broffesiynol a mentora i fydwragedd llai profiadol a chymorth i gyd-weithwyr mewn tîm amlddisgyblaeth.
Darparu gofal cynenedigol i grŵp diffiniedig o fenywod a’u teuluoedd yn y clinig cynenedigol.
Cydweithredu a chysylltu â phob aelod o staff, y tîm gofal iechyd sylfaenol, a'r staff meddygol a bydwreigiaeth yn yr uned i geisio meithrin ysbryd tîm a sicrhau parhad gofal. Rhoi gwybodaeth i'r fam feichiog i'w galluogi i wneud dewis doeth ynglŷn â lleoliad a dull yr enedigaeth ac ynglŷn â'r gwasanaethau sydd ar gael.
Cynghori ar faterion Iechyd y Cyhoedd, e.e. rhoi’r gorau i ysmygu a hybu bwydo ar y fron. Cynghori rhieni a pherthnasau babanod sy'n cael eu geni ag annormaleddau neu rieni a pherthnasau sydd wedi cael profedigaeth, a gofalu amdanynt.
Bod yn gyfrifol am weithio mewn partneriaeth â'r fenyw a'i theulu gan sicrhau mai nhw yw prif ffocws eich gwaith.
Cadw cofnodion cyfredol, manwl yn unol â safonau'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a chanllawiau cadw cofnodion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan gynnwys cofnodion manwl o'r arsylwadau a wnaed, y gofal a roddwyd a'r meddyginiaethau a roddwyd i fenyw neu fabi.
Mae gan fydwragedd ddyletswydd statudol o gyfrifoldeb i gadw at God y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth: Safonau Ymarfer Proffesiynol ac Ymddygiad, a'r Rheoliadau Cyffuriau Rheoledig.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 13/12/2024.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Bydwraig Gofrestredig gyda chofrestriad llawn gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Portffolio Datblygiad Proffesiynol Parhaus
- Wedi cwblhau rhaglen breceptoriaeth cydnabyddedig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau TG sylfaenol
- Yn gallu darparu safon uchel o ofal unigol i gleientiaid yn seiliedig ar dystiolaeth
- Cyfathrebwr effeithiol sydd â sgiliau arwain a rhyngbersonol da
- Tystiolaeth o'r gallu i gymryd yr awenau yn absenoldeb eich rheolwr llinell uniongyrchol
- Amlygu sgiliau bydwreigiaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth gyfredol
- Amlygu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd archwilio a pholisi
- Profiad o fentora a datblygu staff
Meini prawf dymunol
- ALSO – Cynnal Bywyd Uwch Obstetreg
- NALS - Cymorth Bywyd Uwch Newyddenedigol
Sgilliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Emma Booth
- Teitl y swydd
- Clinical & Operational Lead Midwife
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01970 635633
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector