Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gofal Meddygol Cyffredinol/Llawfeddygol/Henoed
Gradd
GIG AfC: band 5
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
Oriau llawn a rhan amser amrywiol ar gael
Cyfeirnod y swydd
100-RN001BGH-2024-H
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£28,834 - £35,099 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
07/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Nyrs Gofrestredig

GIG AfC: band 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am Nyrsys Cofrestredig brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'n timau Nyrsio yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth, Ceredigion.

Mae cyfleoedd ar gael yn y meysydd canlynol:

Y Ganolfan Gofal Brys ac Mewn Argyfwng – yn trin oedolion a phlant, yn yr ardal Damweiniau ac Achosion Brys, ardal yr Uned Penderfyniadau Clinigol ar gyfer asesu cleifion sy'n oedolion a'r Uned Mân Anafiadau sy'n trin oedolion a phlant, fel ei gilydd

Ward Dyfi – yn arbenigo mewn cleifion meddygol cyffredinol. Ward Gofal Cardiaidd, ac yn cynnwys pum gwely ar gyfer cleifion cardiaidd acíwt a gwelyau monitro pellach.

Ward Ystwyth – ward Strôc ac Eiddilwch sy'n cynnwys Uned Strôc Tra Acíwt â phedwar gwely

Ward Rhiannon – ward llawdriniaethau dewisol/orthopedig sy'n cynnwys ardal dibyniaeth fawr â thri gwely

Ward Ceredig – ward llawfeddygol/orthopedig frys

Ward/anecs y Banwy – ward anadlol/atal heintiau

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rydym yn chwilio am nyrsys sy'n angerddol ynghylch darparu'r gofal gorau posibl, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, ac yn barod i weithio'n rhan o dîm amlddisgyblaethol ymrwymedig a medrus.

Mae gennym ddiwylliant dysgu cadarnhaol ac rydym yn cynnig cyfleoedd datblygu proffesiynol cynhwysfawr rhagorol i sicrhau bod ein Nyrsys yn cael eu cefnogi yn ei rolau newydd a chyffrous, ac mae yna gyfleoedd hyfforddi digonol ar gael, ynghyd â chymorth clinigol arbenigol gan ein staff mwyaf profiadol. Mae gennym hefyd raglen breceptoriaeth ragorol ar gyfer nyrsys newydd gymhwyso.

Byddwch yn mwynhau amodau cyflogaeth ardderchog, ac rydym yn gwbl ymrwymedig i gefnogi cyflogeion i gyflawni'r cydbwysedd priodol rhwng bywyd a gwaith, gan hefyd gynnig cymorth gofal a llesiant ochr yr ochr â threfniadau gweithio'n hyblyg.

Mae ein gwasanaethau brys yn gweithredu 24/7, fel y mae mynediad at ein harbenigeddau acíwt, gofal critigol, gofal cardiaidd a'r Uned Dibyniaeth Uchel llawfeddygol.

Mae'r Tîm Nyrsio yn ffynnu ar wella ei ardaloedd clinigol i sicrhau bod y claf yn cael y profiad gorau posibl. Ein nod yw grymuso'r proffesiwn nyrsio ar bob lefel ymarfer i wella diogelwch ac ansawdd y gwasanaethau. Byddwn yn gwneud hyn trwy fuddsoddi yn ein gweithlu a'i ddatblygu trwy barchu'r cyfraniad y mae ein staff yn ei wneud i'n cleifion a'r sefydliad.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

https://youtu.be/v5HCZuYR42w  
https://youtu.be/vuSmBejIyNY  

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.

AM rhagor o wybodaeth - https://fb.watch/hzQjE8HzTN/ 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Meini prawf dymunol
  • Gradd mewn Nyrsio
  • Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ol-gofrestru e.e. Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (POVA)
  • Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ol-gofrestru e.e. Amddiffyn Plant
  • Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ol-gofrestru e.e. Triniaeth Cynnal Bywyd Ganolradd os yw'n ofynnol mewn lleoliad clinigol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth cyn-gofrestru o ofal nyrsio uniongyrchol
  • Profiad o ddarparu gofal nyrsio holistaidd
  • Diddordeb mewn meithrin sgiliau nyrsio
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth glir o'r fframwaith llywodraethu clinigol
  • Rhoi arfer seiliedig ar dystiolaeth ar waith

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dawn Jones
Teitl y swydd
Head of Nursing
Cyfeiriad ebost
[email protected]

Os ydych yn cael problemau'n gwneud cais, cysylltwch â

Cyfeiriad
Resourcing Team
Hafan Derwen
Carmarthen
SA31 3BB
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg