Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Therapi Lleferydd ac Iaith
Gradd
Gradd 5
Contract
8 mis (Cyfnod penodol/secondiad tan 31/03/2025)
Oriau
  • Llawnamser
  • Gweithio hyblyg
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AHP070-0624W
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Gofal Integredig Aberaeron
Tref
Aberaeron
Cyflog
£28,834 - £35,099 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
10/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Therapydd Lleferydd ac Iaith Pediatrig

Gradd 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae hon yn swydd cyfnod penodol/secondiad tan 31/03/2025. Os ydych chi'n gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am y swydd hon fel secondiad, mae angen cytundeb ar gyfer yr secondiad gan eich rheolwr presennol cyn gwneud cais.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i Therapydd Lleferydd ac Iaith profiadol ymuno â thîm cymunedol sefydledig wedi'i leoli yng Ngheredigion. Rydym yn hapus i ystyried trefniadau gweithio llawn-amser a threfniadau gweithio hyblyg. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad helaeth o weithio gyda phlant oedran ysgol a/neu gyn-ysgol. 

Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n amlygu sgiliau rhyngbersonol a threfnu rhagorol ac sy'n teimlo'n angerddol ynghylch darparu gofal o safon uchel wrth weithio yng nghalon y gymuned. Byddwch yn gweithio'n rhan o dîm sefydledig o therapyddion, cynorthwywyr a chyd-weithwyr amlasiantaeth.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Byddwch yn cefnogi tîm o Uwch-therapyddion Lleferydd ac Iaith Arbenigol ac yn cael cyfle i fod yn rhan o'r gwaith o lunio a datblygu gwasanaethau, yn ogystal â darparu goruchwyliaeth i gyd-weithwyr iau.

Bydd y llwyth achosion yn cynnwys plant ag ystod o anghenion o ran Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu, a bydd yna hefyd nifer bach o blant ag anghenion cymhleth.

Byddwch yn gyfrifol am reoli eich llwyth achosion eich hun mewn ysgolion penodol, gan ddarparu asesiadau, ymyriadau, cyngor a hyfforddiant yn ôl y gofyn.Mae'r gallu i feithrin perthnasoedd gwaith cadarn â staff addysgol yn hanfodol.

Bydd hefyd yn ofynnol i chi gysylltu'n agos â rhieni, staff addysgol a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i sicrhau y gellir ymgorffori strategaethau a dulliau gweithredu gartref ac yn yr ysgol.

Caiff y broses o ddatblygu sgiliau arwain ym mhob swydd ei hybu'n frwd o fewn Gwasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith Hywel Dda. Rydym yn annog ymgysylltiad brwd â Grwpiau Ymarfer Proffesiynol lleol, ynghyd ag ymwneud â datblygiadau arloesol ym maes Therapi Lleferydd ac Iaith 
ar lefel Cymru Gyfan/Genedlaethol.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn darparu cyfuniad o ddarpariaeth arbenigol, targededig a chyffredinol i blant a'r timau sy'n cefnogi'r plant sydd ag amrywiaeth eang o anghenion o ran lleferydd, iaith a chyfathrebu

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon

Cynhelir y cyfweliadau ar 18/07/2024.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd mewn Therapi Lleferydd ac Iaith
  • Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofa
  • Aelodaeth o'r RCSLT
  • Gwybodaeth am bolisïau a mentrau cenedlaethol a lleol sy'n berthnasol i'r llwyth achosion
  • Gwybodaeth am ystod eang o offer asesu a gweithdrefnau arbenigol sy'n berthnasol i'r llwyth achosion
  • Gwybodaeth am ddiagnosisau gwahanol sy'n berthnasol i Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu (SLCN) plant
  • Gwybodaeth am ddewis, gosod a gwerthuso nodau triniaethau
  • Gwybodaeth am ymyriadau therapiwtig sy'n berthnasol i'r llwyth achosion, ynghyd â gallu i amlygu'r sail dystiolaeth ar gyfer y dulliau hyn
  • Gwybodaeth am weithio mewn tîm amlddisgyblaethol
  • Gwybodaeth am faterion cyfreithiol a phroffesiynol sy'n berthnasol i gyfrinachedd a chadw cofnodion
Meini prawf dymunol
  • Cwnsela sylfaenol
  • Dealltwriaeth o egwyddorion archwiliad/lywodraethu clinigol
  • Dulliau ymchwil ansoddol a meintiol sylfaenol
  • Gwybodaeth am faterion Iechyd a Diogelwch perthnasol
  • Gwybodaeth am ddwyieithrwydd a'r ystyriaethau sy'n angenrheidiol wrth ddarparu therapi mewn amgylchedd dwyieithog

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio gyda phlant ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu mewn amrywiaeth o leoliadau, yn cynnwys gwaith unigol a gwaith grŵp
  • Profiad o weithio mewn ysgolion
  • Profiad o amrywiaeth eang o dechnegau asesu a therapi, a'r modd y cânt eu defnyddio
  • Profiad o amrywiaeth eang o dechnegau asesu a therapi, a'r modd y cânt eu defnyddio
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn unedau/dosbarthiadau arbenigol
  • Darparu hyfforddiant i ystod o gynulleidfaoedd
  • Goruchwylio gweithwyr cymorth
  • Profiad o gymryd rhan mewn archwiliadau a thechnegau eraill i werthuso gwasanaethau

Sgiliau Iaith

Meini prawf hanfodol
  • Siaradwr Cymraeg (Level 4)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Mererid Jones
Teitl y swydd
Clinical Lead Speech and Language Therapist
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01239 801562
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Manon Haf Richards

Arweinydd Gwasanaeth ar gyfer Ceredigion

[email protected]

01239 801562

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg