Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Adran Cleifion Allanol
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS174-0724
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Gofal Integredig Aberaeron
- Tref
- Aberaeron
- Cyflog
- £25,524 - £28,010 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Ymarferydd Cynorthwyol Nyrsio
Gradd 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael yn y Gyfarwyddiaeth Gofal wedi’i Drefnu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar gyfer Ymarferydd Cynorthwyol Band 4 brwdfrydig, hyblyg a rhagweithiol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'n hadran Cleifion Allanol gyfeillgar, llawn cymhelliant a phrysur yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberaeron, a bydd gofyn iddo hefyd gyflenwi ar gyfer sesiynau yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi.
Bydd deiliad y swydd yn cael ei hyfforddi mewn amrywiaeth o sgiliau ac yn ennill cymwyseddau i gefnogi'r gwaith o ddarparu gofal i'n cleifion. Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n amlygu sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, ac sydd wedi ymrwymo i ddatblygiad clinigol parhaus.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae Cleifion Allanol yn amgylchedd amrywiol, amlddisgyblaethol sy'n gofyn am sgiliauhyblyg y gellir eu haddasu, y gallu i ddysgu, a'r cymhelliant i ddatblygu eich sgiliau eichhun. Rydym yn ymdrin ag ystod eang o arbenigeddau, gan gynnwys clinigau Fasgwlaidd,Offthalmoleg, Orthopaedeg, Dermatoleg a Chlust, Trwyn a Gwddf.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â thasgau dynodedig a nodir mewnperthynas â'r amgylchedd gofal a gofal uniongyrchol y claf, fel y'u nodir ac y'u dirprwyirgan nyrs gofrestredig, ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r Bwrdd Iechyd.
Bydd angen i chi fod yn frwdfrydig, yn drefnus, ac yn ymroddedig i ddarparu gofal nyrsioo safon uchel, ac yn gallu gweithio'n dda mewn tîm. Byddwch yn sicrhau'n gyson bodpreifatrwydd, urddas a lles seicolegol claf yn cael eu cynnal bob amser a bod y gofal aroddir yn canolbwyntio ar y claf.
Mae arnom angen unigolion sy'n flaengar ac yn drefnus, ac sy'n meddu ar agweddgadarnhaol at hyblygrwydd a newid.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 25/07/2024.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster galwedigaethol lefel 4 mewn pwnc perthnasol cysylltiedig a gofal iechyd neu Tystysgrif mewn Addysg Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd
- TGAU Mathemateg a Saesneg gradd C neu uwch neu gymhwyster sgiliau hanfodol cyfatebol lefel 2 neu uwch
- Tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus sy'n berthnasol i'r rol ym maes gofal iechyd
- Yn gallu amlygu dealltwriaeth o God Ymddygiad Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd, canllawiau Cymru Gyfan ar gyfer Dirprwyo, a Fframwaith Llywodraethu Ymarferwyr Cynorthwyol Band 4 Cymru Gyfan
- Gwybodaeth glinigol sy'n berthnasol i'r rol
- Yn amlygu dealltwriaeth o bwysigrwydd dilyn gweithdrefnau a chynlluniau triniaeth
- Yn amlygu dealltwriaeth o'r deddfwriaethau sy'n berthnasol i Ddiogelu, e.e. oedolion a plant, Y Ddeddf Galluedd Meddyliol, a threfniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid, er mwyn cadw oedolion sydd o dan ei ofal yn ddiogel
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth leol am wasanaethau statudol neu wirfoddol
- Cymhwyster addysgu neu asesu
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol a diweddar o ddarparu gofal clinigol perthnasol
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu, ynghyd a'r gallu i reoli a leddfu sefyllfaoedd heriol neu fygythiol
- Profiad o ymgymryd ag amrywiaeth o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer y rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol, e.e. gofalu am gathetr - gan gynnwys tynnu cathetr
- Profiad o ymgymryd ag amrywiaeth o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer y rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol, e.e. monitro a chofnodi arsylwadau bywyd a dehongli'r canlyniadau
- Profiad o ymgymryd ag amrywiaeth o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer y rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol, e.e. adolygu asesiadau risg
- Profiad o ymgymryd ag amrywiaeth o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer y rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol, e.e. monitro a dehongli glwcos gwaed
- Profiad o ymgymryd ag amrywiaeth o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer y rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol, e.e. Profiad o gefnogi nyrs gofrestredig gyda gofal clwyfau
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn perthynas ag amrywiaeth o sgiliau clinigol, yn cynnwys gofal lliniarol
- Rhoi meddyginiaethau trwy'r geg, ar gyfer y croen, yn isgroenol a thrwy fewnanadlu
- Sgiliau o ran gofal clwyfau nad ydynt yn gymhleth
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Laura Jones
- Teitl y swydd
- Senior Sister, Outpatients
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01239 801560
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector