Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Nyrs Admiral
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Swydd llawn amser yw hon ond ystyrir rhannu swyddi.
Mae Nyrsys Admiral yn nyrsys dementia arbenigol sy'n cynnig cymorth ymarferol, clinigol ac emosiynol i deuluoedd sy'n ymwneud a gofalu am unigolyn ag anghenion cymhleth sy'n byw a dementia. Byddwch wedi eich lleoli mewn timau cymunedol amlddisgyblaeth/amlasiantaeth ac yn gweithio ochr yn ochr a nyrsys, therapyddion a darparwyr gofal sylfaenol, gofal cymdeithasol a thrydydd sector, ymhlith eraill. Byddwch hefyd yn elwa ar fod yn rhan o Rwydwaith Clinigol o Nyrsys Admiral sy'n gweithio ar hyd a lled Cymru a'r tu hwnt.
Rydym yn chwilio am Nyrsys Cofrestredig tra medrus (oedolion/iechyd
meddwl/anableddau dysgu) sy'n frwdfrydig dros ddarparu gofal dementia sy'n canolbwyntio ar y claf ac ar berthnasoedd, ac sy'n meddu ar hanes profedig o hynny, ac sydd ag ymdeimlad cryf o eiriolaeth a chydraddoldeb ar gyfer y grwp hwn o gleientiaid. Byddwch yn cyfuno gwaith uniongyrchol gyda theuluoedd a chefnogi arfer gorau gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth sylweddol am ymyriadau bio-seicogymdeithasol i wella profiad ac ansawdd bywyd teuluoedd y mae dementia yn effeithio arnynt.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd rhaid i ddeiliad y swydd feddu ar y gallu i weithio mewn amrywiaeth o leoliadau, a hynny ledled daearyddiaeth wledig iawn. Bydd y rol yn cynnwys gweld gofalwyr a'u teuluoedd yn unigol, cynnal grwpiau a darparu addysg/hyfforddiant, yn ogystal a chydbwyso llwyth achosion clinigol.
Bydd Dementia UK yn eich cefnogi i gynnal a chryfhau eich datblygiad clinigol fel Nyrs Admiral arbenigol, a hynny trwy oruchwyliaeth glinigol ac ymarfer rheolaidd a chyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol. Byddwch yn dod yn rhan i'w chroesawu o rwydwaith o Nyrsys Admiral ac yn cael cyfle i gael hyfforddiant ol-raddedig perthnasol a datblygu'n broffesiynol, a hynny yn unol a Fframwaith Cymwyseddau'r Nyrsys Admiral.
Mae'r Tim Nyrsys Admiral yn un o ystod o fentrau sy'n cael eu sefydlu ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Bydd yna saith swydd (lawn-amser) ar gyfer Nyrsys Admiral, un ym mhob un o'r saith Clwstwr Ardal, lle mae'r timau iechyd a gofal cymdeithasol wedi integreiddio i'r eithaf ac wedi cydleoli canolfannau timau, a bydd y Nyrsys Admiral yn rhan annatod o hyn.
Mae hwn yn gydweithrediad newydd a chyffrous rhwng Dementia UK, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Awdurdodau Lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, ac mae'n gonglfaen i gymorth cofleidiol y Llwybr Llesiant Dementia ar gyfer teuluoedd y mae dementia yn effeithio arnynt.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
• Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
• Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
• 48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
• Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
• Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 06/08/2024.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg a chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig (RNMH/RGN/RNLD)
- Gwybodaeth ffurfiol am ddementia/bobl hyn a ddysgwyd trwy addysg/hyfforddiant clinigol ol-raddedig hyd at lefel Diploma ol-raddedig
- Parodrwydd i weithio tuag at gymhwyster Lefel 7, gan gynnwys modiwl Fframwaith Cymwyseddau y Nyrsys Admiral
- Yn meddu ar wybodaeth gadarn am ddementia a gwaith therapiwtig gyda theuluoedd a sefydliadau
- Y gallu i amlygu pob un o chwe chymhwysedd y Nyrsys Admiral: gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sgiliau therapiwtig, perthnasoedd teiran, rhannu gwybodaeth, arfer gorau, ac ymarfer myfyriol beirniadol ar lefel arbenigol
- Y gallu i ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau therapiwtig
- Model rol effeithiol o ran gwaith cydweithredol ac amlasiantaeth
Meini prawf dymunol
- Cymwysterau nyrsio ychwanegol
- Cymhwyster lefel Diploma/Gradd mewn dementia/gofal pobl hyn
- Cymhwyster Mentoriaeth
- Cymhwyster addysgu perthnasol
- Yn deall ffynonellau ymchwil ac yn gallu eu cymhwyso mewn modd beirniadol yn eich ymarfer
- Dealltwriaeth o fframweithiau cymwyseddau
- Profiad o gefnogi prosesau gwella ansawdd/datblygu ymarfer systematig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad clinigol ol-gofrestru o weithio gyda phobl a dementia a'u gofalwyr/cefnogwyr mewn lleoliadau gwahanol
- Profiad o gymryd rhan yn ddiweddar mewn proses arloesi neu ddatblygu ymarfer/gwasanaeth
- Profiad o weithio gyda grwpiau ac unigolion mewn amrywiaeth o rolau a lleoliadau
- Profiad amlwg o fod yn ymarferydd annibynnol
Meini prawf dymunol
- Profiad o oruchwyliaeth broffesiynol/fentora staff
- Profiad o weithio gyda chleifion/chleientiaid er mwyn datblygu ymarfer
- Profiad o archwilio/werthuso ymarfer clinigol
- Profiad o weithio yn y gymuned
- Profiad o ofal lliniarol a chyflyrau hirdymor
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Charlie Duhig
- Teitl y swydd
- Admiral Nurse Service Clinical Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07929 664 265
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector