Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cydlynydd Cynorthwywyr i’r Uwch Reolwyr
Gradd 5
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi'n brofiadol mewn darparu cefnogaeth weithredol, ysgrifenyddol a gweinyddol gynhwysfawr i rôl Uwch Reoli ac yn chwilio am rôl ddeinamig a gwerth chweil?
Ar gyfer y rôl hon, bydd angen i chi fod yn rhagweithiol ac yn ddyfeisgar gyda sgiliau trefnu rhagorol a'r gallu i flaenoriaethu llwythi gwaith a bodloni terfynau amser gofynnol. Gan roi sylw i fanylion, dylech feddu ar sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, yn ogystal â bod yn hyderus wrth ddatblygu perthnasoedd da gyda rheolwyr mewnol ac allanol, cymheiriaid a staff.
Mae profiad o reoli dyddiaduron electronig a chymryd cofnodion yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Byddwch hefyd yn rheolwr llinell i rai aelodau o'r Tîm PA o fewn Sgrinio.
Prif ddyletswyddau'r swydd
· Bydd deiliad y swydd yn rheolwr llinell ar y Cynorthwyydd i’r Uwch Reolwyr, sy'n cynnwys rheoli absenoldeb oherwydd salwch ac adolygiadau perfformiad ac ati
· Bydd deiliad y swydd hefyd yn darparu cymorth gweithredol, ysgrifenyddol a gweinyddol cynhwysfawr i'r Uwch Dîm Rheoli (UDRh) Gwasanaethau Sgrinio.
· Mae hyn yn cynnwys cynllunio a threfnu gweithgareddau a logisteg gymhleth, gan roi cymorth lefel uchel i brosiectau yn ôl yr angen, ymdrin â gwybodaeth gyfrinachol a sensitif a chyfathrebu/cysylltu â Rheolwyr UDRh, uwch weithredwyr mewn byrddau iechyd, cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru a phartneriaid ehangach gan gynnwys awdurdodau lleol fel y bo'n briodol.
· Bydd deiliad y swydd yn rheoli cyfarfodydd ar lefel UDRh yn ôl yr angen gan gynnwys coladu, olrhain a lledaenu papurau, cymryd cofnodion a rheoli camau gweithredu. Mae hon yn rôl allweddol o ran rhedeg Gwasanaethau Sgrinio yn effeithiol. Nid yw'r dyletswyddau a'r cyfrifoldebau a restrir isod wedi'u bwriadu i fod yn gynhwysfawr, ond maent yn nodi'r prif feysydd gweithgarwch a ddisgwylir gan unrhyw Gydlynydd Cynorthwyydd i’r Uwch Reolwyr. Felly bydd disgwyl i ddeiliad y swydd fabwysiadu dull hyblyg pan fydd anghenion y rôl yn galw am hynny
· Bydd deiliad y swydd hefyd yn gyfrifol am ddatblygu prosesau a gweithdrefnau gweithredu safonol (SOP) a gweithio gyda chymheiriaid i sicrhau bod y rhain yn eu lle ac yn cael eu dilyn ar gyfer y tîm.
Gweithio i'n sefydliad
Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r Adran Sgrinio yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru. Fel rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn ymrwymedig i weithio i gyflawni dyfodol iachach i Gymru. Mae'r Adran Sgrinio yn cyflwyno'r saith rhaglen sgrinio genedlaethol seiliedig ar boblogaeth yng Nghymru (Bron Brawf Cymru, Sgrinio Coluddion Cymru, Sgrinio Serfigol Cymru, Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru, Sgrinio Clyw Babanod Cymru, Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru, Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru) ac mae'n rheoli rhwydwaith clinigol Sgrinio Cyn Geni Cymru.
Gallwch ddod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb y Person atodedig yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwnewch gais nawr” i'w gweld yn Trac.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Manyleb y person
CYMWYSTERAU A GWYBODAETH
Meini prawf hanfodol
- • Cymhwyster prosesu geiriau/testun perthnasol neu lefel gyfwerth o wybodaeth a dealltwriaeth ynghylch sut i fformatio dogfennau i safon uchel iawn
- • Addysgwyd i Lefel 6, cymhwyster Gradd neu lefel gyfwerth o wybodaeth a sgiliau mewn Busnes a Gweinyddu
- • Dealltwriaeth o ddulliau rheoli prosiect
Profiad
Meini prawf hanfodol
- • Profiad amlwg o weithio fel Cydlynydd Cymorth, Cynorthwyydd Gweithredol/Personol neu rôl debyg
- • Rheoli Dyddiadur Cymhleth
- • Profiad o ymdrin â gwybodaeth gyfrinachol a sensitif a chynnal a storio cofnodion yn briodol
- • Profiad mewn rôl oruchwyliol/reoli
- • Profiad o reoli gweithdrefnau busnes a swyddfa
- • Cymryd cofnodion ffurfiol yn ogystal â chymryd nodiadau cryno
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- • Yn fedrus wrth ddefnyddio meddalwedd Microsoft safonol, fel Outlook, Teams, Word, Excel, PowerPoint.
- • Gallu dangos dealltwriaeth o werthoedd ein gweithle a'u cymhwyso, ynghyd â'r ymddygiad sylfaenol a nodwyd ar gyfer llwyddo yn y rôl hon
- • Yn gallu gweithio ar eich menter eich hun a hunanreoli llwyth gwaith
- • Gallu rheoli llwyth gwaith tîm gan sicrhau trawsgyflenwi pan fo angen
- • Gallu trefnu cyfarfodydd a digwyddiadau amlddisgyblaethol
- • Sgiliau a gwybodaeth rheoli a chyfathrebu rhagorol
- • Gallu cymryd nodiadau ffurfiol ac anffurfiol yn ôl yr angen, gan sicrhau amseroedd cwblhau effeithlon
- • Dadansoddi gwybodaeth o nifer o ffynonellau
- • Gallu addasu'n gyflym i amgylchedd cymhleth sy'n newid
Meini prawf dymunol
- • Llaw-fer
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Angela Burke
- Teitl y swydd
- Screening Pathway Programme Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07752225219
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Bydd y rôl hon yn cynnig cymysgedd o weithio gartref a gweithio mewn swyddfa. Croesewir ceisiadau am waith rhan-amser neu rannu swydd.
Os hoffech drafod y cyfle hwn yn anffurfiol, e-bostiwch [email protected] i drefnu amser addas.
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector