Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Caffael
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
043-EA100-1224
Cyflogwr
GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Gorsaf Ambiwlans a Gwasanaeth Tân Wrecsam
Tref
Wrecsam
Cyflog
£23,970 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
29/12/2024 23:59

Teitl cyflogwr

GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau logo

Ceidwad Storfa/Gyrrwr y Gwasanaeth Negesydd Iechyd

Gradd 2

Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-

 Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz

 

 Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM

 

Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.

Trosolwg o'r swydd

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn darparu Gwasanaeth Logisteg a Thrafnidiaeth Glinigol ar draws pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru drwy ei Wasanaeth Negesydd Iechyd, ac mae'n chwilio am staff Gyrwyr/Ceidwaid Stordy i ymuno â'r gwasanaeth hwn yn ardal Wrecsam, gan wasanaethu ardal Gogledd Cymru (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr).

Ar gyfartaledd, mae'r gwasanaeth yn didoli (drwy ei ganolfannau didoli post ei hun), yn darparu ac yn casglu dros 120,000 o eitemau o bost/nodiadau meddygol yr wythnos, ac yn cludo mwy na 5 miliwn symudiad o samplau o Gynhyrchion Gwaed a Phatholeg yn unol â'r Cytundeb Dangereux Routier, Arferion Gweithgynhyrchu Da a gofynion deddfwriaethol y flwyddyn. Mae ein gwasanaethau craidd yn gweithredu rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Fodd bynnag, rydym yn gweithredu ystod fach o wasanaethau 24 awr y dydd. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Yn Yrrwr/Ceidwad Stordy Gwasanaeth Negesydd Iechyd byddwch yn gyfrifol am eitemau stoc mewn storfeydd a hefyd am gludo, dosbarthu ac ailgyflenwi Patholeg y GIG, Gwaed/Cynhyrchion Gwaed, Deunydd Ysgrifennu Diogel ac Anniogel, Golchdy, Post/Cofnodion ac eitemau Stoc yn ddiogel megis nwyddau traul meddygol (e.e. nodwyddau/chwistrellau/cynwysyddion) sy'n cael eu dosbarthu i safleoedd gofal iechyd sylfaenol; (Ysbytai, practisiau meddygon teulu, fferyllfeydd, optegwyr, deintyddfeydd) ar draws GIG Cymru. 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg fel ei gilydd wneud cais. 

Gweithio i'n sefydliad

Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.

Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.

Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl. 

Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.

Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb.  I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/

Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd. 

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Trwydded Yrru Lawn
  • Codi a Chario ac Ymwybyddiaeth o Iechyd a Diogelwch
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth sylfaenol am gynnal a chadw cerbydau
  • Cymorth Cyntaf Sylfaenol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gyrru amrywiaeth o faniau
  • Delio â chwsmeriaid
  • Gwybodaeth ddaearyddol gadarn am ardaloedd a wasanaethir
Meini prawf dymunol
  • Defnyddio Technoleg Symudol

Skiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau llafar ac ysgrifennu da
  • Agwedd rhesymegol at ddatrys problemau
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Customer Service ExcellenceHyderus o ran anabledd - ymroddedigDisability confident committedMenopause Workplace PledgeEnei MemberLexcel Legal Practice Quality MarkRhwydwaith Network 75 logoEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau ApprenticeshipsArmed Forces Bronze Award NWSSP

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
David Davies
Teitl y swydd
Area Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07766442703
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg