Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyfarwyddiaeth Datblygu Pobl a Sefydliadol
Gradd
Band 8b
Contract
Cyfnod Penodol: 12 mis (ar gyfer secondiad)
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
  • Rhannu swydd
  • Gweithio hyblyg
  • Gweithio gartref neu o bell
37.5 awr yr wythnos (Gweithio’n hyblyg, 7.5 awr y dydd, Dydd Llun i Ddydd Gwener, gydag oriau craidd 09:00 i 17:00)
Cyfeirnod y swydd
028-AC301-0824
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Unrhyw swyddfa ICC
Tref
i drafod
Cyflog
£59,857 - £69,553 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
22/09/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Pennaeth Partneru Pobl a Datblygu Sefydliadol (OD)

Band 8b

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


 

Trosolwg o'r swydd

Y Rôl:

 

Mae gennym gyfle cyfnod penodol/secondiad cyffrous am 12 mis i Bennaeth Partneru i arwain ein tîm o Bartneriaid Pobl a Datblygu Sefydliadol (POD) ac i ymuno ag uwch dîm arwain y gyfarwyddiaeth POD.

 

Amdanom ni:

 

Rydym yn dîm Pobl a Datblygu Sefydliadol ffyniannus.  Rydym eisiau sicrhau canlyniadau integredig a strategol drwy ddatblygu ein sefydliad, galluogi ein harweinwyr, ymgorffori cynllunio gweithlu strategol a gwella profiad gweithwyr ac ymgysylltiad â nhw.

 

Yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf rydym wedi asesu ein diwylliant yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi datblygu fframwaith ymddygiad i ddod â'n gwerthoedd yn fyw, wedi bwrw ymlaen â rhaglen waith ar ddatblygu arweinyddiaeth a rheolaeth ac wedi cefnogi rhaglenni newid sylweddol. 

 Rydym wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr CIPD Cymru am ein hymagwedd at weithio hybrid ac wedi ennill gwobrau am hynny. Cawsom wobr hefyd am ein gwaith ar ddadansoddeg gan y Gymdeithas Rheoli Pobl Gofal Iechyd.

Mae llesiant yn ein DNA, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein gweithwyr, cydweithwyr, partneriaid, a chymunedau. Rydym yn canolbwyntio ar ein datblygiad. Rydym yn rheoli yn ôl canlyniadau yn hytrach na phresenoldeb a lle bynnag y bo modd yn cefnogi ein gweithwyr i wneud dewisiadau ynghylch sut maent yn gweithio, yn unol â'r gwaith sydd angen ei gyflawni.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cyfrifoldebau Allweddol:

 

Arwain Partneriaid Pobl a  Datblygu Sefydliadol i:

Weithio mewn partneriaeth â Chyfarwyddwyr Gweithredol ac uwch reolwyr, i ddarparu cymorth strategol ar draws cylch bywyd gweithwyr.

Galluogi trosi’r strategaeth hirdymor a’r strategaeth pobl yn gynlluniau gweithlu strategol sy'n cefnogi eu cyflawni.

Uchafu perfformiad trwy ddatblygiad personol a phroffesiynol.

Gweithredu fel partner strategol i Gyfarwyddwyr Gweithredol ac uwch reolwyr.

Arwain y Gyfarwyddiaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol fel aelod craidd o'r uwch dîm.

 Arwain mentrau rheoli newid sylweddol i ysgogi effeithiolrwydd sefydliadol.

 Cydweithio â chydweithwyr yn y GIG ledled Cymru a dylanwadu ar yr agenda Cymru Gyfan.

Cyfnod penodol am 12 mis i gwmpasu secondiad

Gweithio i'n sefydliad

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw Sefydliad Iechyd y Cyhoedd cenedlaethol Cymru. Ein gweledigaeth yw ‘Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru’. Rydym yn chwarae rhan ganolog mewn ysgogi gwelliannau o ran iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu'r cyhoedd a chefnogi datblygiad iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.

Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd “Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth”. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

I gael rhagor o wybodaeth am weithio i ni, y buddion a gynigiwn a'r arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch I https://icc.gig.cymru/gweithio-i-ni/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr/

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Rydym yn edrych am y canlynol:


Cefndir cryf mewn arwain timau o Bartneriaid Pobl a Datblygu Sefydliadol/Partneriaid Busnes Adnoddau Dynol ar lefel strategol a dealltwriaeth o bwysigrwydd ac effaith diwylliant, gwerthoedd, ymddygiad ac arweinyddiaeth. Sgiliau a phrofiad allweddol:

 

 Profiad amlwg mewn partneriaeth broffesiynol ar lefel weithredol ac uwch.

Yn gallu datblygu perthnasoedd ymddiriedus ac effeithiol ac ymgysylltu ag eraill trwy arddull hyfforddi.

Arbenigedd mewn datblygu a newid sefydliadau

 Ymagwedd yn seiliedig ar risg a meddylfryd gwella

Profiad o weithio'n effeithiol mewn sefydliadau undeb llafur cymhleth a meithrin gwaith partneriaeth cadarnhaol.

Dealltwriaeth o ehangder a chymhlethdod y GIG a chyd-destun Cymru

Gweler y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person am fanylion llawn y swydd a'r meini prawf hanfodol a dymunol y mae angen eu bodoli.

Bydd yr asesiad ar gyfer y swydd hon yn cael ei gynnal ar 8 Hydref.

 

Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Rachel Attwood, Dirprwy Gyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol [email protected]

 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i fod yn gyflogwr sy'n agored i gyfleoedd gweithio hyblyg/hybrid. Gall y swydd hon fod yn swydd  gweithio o bell yn bennaf, ond bydd hefyd yn gofyn am bresenoldeb rheolaidd yn ein swyddfa yng Nghaerdydd.   Rydym yn cefnogi gweithio hyblyg ac yn teilwra patrymau gwaith i amgylchiadau unigol pan fo anghenion busnes yn caniatáu. 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Addysg hyd at lefel Meistr mewn disgyblaeth berthnasol neu wybodaeth ac arbenigedd cyfatebol.
  • Cymhwyster CIPD Lefel 7 neu gymhwyster cyfatebol mewn Adnoddau Dynol neu Ddatblygu Sefydliadol.
  • Aelodaeth siartredig o’r CIPD neu’n gweithio tuag at ati.
  • Gwybodaeth gref o egwyddorion datblygu sefydliadol, arferion gorau adnoddau dynol, a chyfraith cyflogaeth y DU.
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster FCIPD neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol
  • Cymwysterau ychwanegol mewn rheoli newid, hyfforddi neu ddatblygu arweinyddiaeth.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad sylweddol mewn uwch rol Adnoddau Dynol neu Ddatblygu Sefydliadol, gyda hanes o gyflawni strategaethau datblygu sefydliadol llwyddiannus.
  • Profiad amlwg o arwain a datblygu timau Adnoddau Dynol.
  • Profiad o reoli newid a llywio trawsnewid sefydliadol.

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu meddwl yn strategol a sgiliau datrys problemau cryf.
  • Yn gallu meithrin perthnasoedd effeithiol a dylanwadu ar randdeiliaid ar bob lefel.
  • Sgiliau arwain a rheoli pobl rhagorol.
  • Lefel uchel o ddeallusrwydd emosiynol, gyda'r gallu i feithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol a chynhwysol.
Meini prawf dymunol
  • Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rachel Attwood
Teitl y swydd
Assistant Director of People and OD
Cyfeiriad ebost
[email protected]

Os ydych yn cael problemau'n gwneud cais, cysylltwch â

Cyfeiriad
Iechyd Cyhoeddus Cymru | Public Health Wales
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg