Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- People and Organisational Development
- Gradd
- Band 4
- Contract
- Secondiad: 6 mis (neu tymor penodol. Gweler manylion yr hysbyseb os gwelwch yn dda.)
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Gweithio hyblyg
- Gweithio gartref neu o bell
- Cyfeirnod y swydd
- 028-AC225-0624
- Cyflogwr
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Unrhyw swyddfa ICC, gyda gofyniad i fynychu Capital Quarter 2 bob mis
- Tref
- i drafod
- Cyflog
- £25,524 - £28,010 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 07/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/200.png)
SWYDDOG CYDYMFFURFIAETH DBS
Band 4
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae hwn yn gyfle cyfnod penodol neu secondiad – gweler isod i gael rhagor o fanylion am oriau'r wythnos a hyd y contract. Mae'r swydd yn cael ei chynnig ar sail secondiad i'r rhai sydd eisoes wedi'u cyflogi gan sefydliad GIG.
Helpwch ni i gynnal y safonau diogelu uchaf fel ein Swyddog Cydymffurfiaeth DBS.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon
Yn y rôl hon sy'n seiliedig ar brosiectau, byddwch yn cynnal archwiliad cynhwysfawr o lefelau gwirio DBS ar draws ein sefydliad ac yn sicrhau bod ein system ESR yn cael ei diweddaru yn unol â hynny. Mae'r swydd hon yn gofyn am lygad craff am fanylion, sgiliau cyfathrebu rhagorol, a dealltwriaeth gadarn o gymhwystra DBS, yn enwedig ar gyfer rolau'r GIG.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sy'n dymuno gweithio rhwng 30 a 37.5 awr yr wythnos. Oherwydd cyllid, bydd hyd eich contract/secondiad yn cael ei bennu gan nifer yr oriau a weithir yr wythnos, e.e. oriau amser llawn fydd 5.5 mis, 30 awr yr wythnos fydd 7 mis.
Mae'r rôl hon yn cynnig hyblygrwydd o ran patrymau gwaith a gweithio hybrid. Bydd gofyniad i fynd i'r swyddfa fel arfer ddwywaith y mis, a bydd un o'r rhain yn ein Prif Swyddfa yng Nghaerdydd. Ar adegau eraill byddwch yn cael dewis gweithio mewn unrhyw un o'n prif safleoedd swyddfa neu o gartref, yn unol â'n Polisi Gweithio lle a sut mae'n Gweithio Orau/Gweithio Ystwyth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Archwilio a dadansoddi gwiriadau DBS o'r system gweithlu ESR.
- Cwrdd â rheolwyr i drafod gofynion cymhwystra DBS yn eu hadrannau a phenderfynu ar y lefel briodol o wiriad DBS sy'n ofynnol ar gyfer pob rôl.
- Cyfathrebu gwybodaeth gymhleth am gymhwystra a chydymffurfiaeth DBS yn effeithiol.
- Cadw cofnodion manwl o ofynion a diweddariadau DBS.
- Cyflwyno adroddiadau rheolaidd i randdeiliaid amrywiol ar gynnydd a diweddariadau.
Gweithio i'n sefydliad
Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
I gael manylion llawn am gyfrifoldebau a'r meini prawf hanfodol/dymunol ar gyfer y rôl hon, gweler y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person ynghlwm.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Lefel 4 neu 5 (e.e. NVQ Lefel 4 neu Radd Sylfaen) mewn maes perthnasol (e.e. Adnoddau Dynol, Gweinyddu Busnes); neu gymhwyster cyfwerth; neu lefel gyfwerth o wybodaeth a sgiliau perthnasol
- Dealltwriaeth drylwyr o feini prawf cymhwystra DBS, deddfwriaeth a rheoliadau DBS sy'n ymwneud ag amrywiaeth eang o rolau yn y GIG.
- Gwybodaeth am ddiogelu data a safonau llywodraethu gwybodaeth.
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Hyfedredd wrth ddefnyddio systemau rheoli'r gweithlu, ESR yn ddelfrydol.
- Gallu cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn effeithiol ar bob lefel, ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan lywio safbwyntiau amrywiol gyda diplomyddiaeth a phroffesiynoldeb.
- Yn drefnus iawn gyda sgiliau rheoli amser cryf a'r gallu i reoli tasgau a blaenoriaethau lluosog.
- Gallu amlwg i weithio o fewn terfynau amser tynnu a rheoli llwyth gwaith yn effeithiol, gan flaenoriaethu tasgau yn ôl yr angen.
- Gallu cynnal cywirdeb ac effeithlonrwydd mewn amgylchedd cyflym.
Meini prawf dymunol
- Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefel 1 mewn deall, siarad, darllen, ac ysgrifennu yn Gymraeg.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Alison Davies
- Teitl y swydd
- Resourcing and Talent Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector