Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Uwch Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd - MECC
Gradd 7
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymgeisydd profiadol ymuno â'r Is-adran Gwella Iechyd o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru fel Uwch Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd yn nhîm rhaglen genedlaethol Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif.
Bydd y rôl yn golygu gweithio gydag ystod o randdeiliaid ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol, a bydd yn cefnogi datblygiad, gweithrediad a gwerthusiad y rhaglen genedlaethol Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif, Mae hon yn swydd ran-amser barhaol 0.6 cyfwerth ag amser llawn.
Mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif yn ddull o newid ymddygiad sy’n ceisio defnyddio’r miliynau o ryngweithiadau dydd i ddydd y mae sefydliadau ac unigolion yn eu cael ag aelodau’r cyhoedd i’w cefnogi i wneud newidiadau cadarnhaol i’w hiechyd a’u llesiant corfforol a meddyliol. Mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif yn grymuso staff sy’n gweithio ar draws y system iechyd a gofal i gydnabod y rôl sydd ganddynt o ran atal afiechyd, ac mae’n rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i gychwyn yn hyderus sgyrsiau newid ymddygiad priodol ac effeithiol gyda’r bobl y maent yn cwrdd â nhw.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n rhan o'r Tîm Lleoliadau Iach, a bydd yn gyfrifol am gydlynu datblygiad a gweithrediad Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif.
Mae hyn yn cynnwys sefydlu a chynnal perthnasoedd effeithiol gyda rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Byrddau Iechyd a Thimau Iechyd Cyhoeddus Lleol, Awdurdodau Lleol a’r sector gwirfoddol.
Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad sylweddol o weithio'n effeithiol ar draws gwahanol sectorau ac asiantaethau, a bydd yn gyfforddus yn gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid ledled Cymru.
Mae'r swydd hon yn gyfle i weithio o fewn strwythur staff sy'n ymroddedig i weithio drwy systemau a dull amlasiantaeth o wella iechyd. Mae’r Is-adran Gwella Iechyd yn canolbwyntio’n gryf ar werthuso, datblygu'r sylfaen dystiolaeth, a chyfathrebu ar gyfer gwell ymgysylltiad. Mae holl staff yr isadran yn gyfrifol am ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o'r dibyniaethau rhwng pynciau a lleoliadau ac am gefnogi cydweithwyr ar draws yr isadran, y sefydliad a phartneriaid.
Cytunir ar ddyletswyddau penodol gyda’r Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd a’r Arweinydd Ymgynghorol (Rhaglen Lleoliadau Iach y GIG) ar ôl penodi i’r swydd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at lefel gradd neu gymhwyster ar lefel gyfatebol yn y gwyddorau iechyd, ymddygiad neu gymdeithasol
- Gwybodaeth helaeth am ddulliau gwella iechyd y boblogaeth a gafwyd trwy radd Meistr, diploma ôl-raddedig neu hyfforddiant cyfatebol
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddatblygu a gweithredu ymyriadau a phrosiectau gwella iechyd i ddiwallu anghenion a nodwyd
- Profiad o gymhwyso tystiolaeth neu ddamcaniaeth wrth ddatblygu rhaglenni iechyd y cyhoedd
Gwybodaeth Dealltwriaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth uwch am ddamcaniaethau a dulliau newid ymddygiad a'u cymhwysiad i iechyd y boblogaeth
- Gwybodaeth am benderfynyddion iechyd a'r dulliau a'r agweddau o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ar lefel poblogaeth
Sgiliau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar datblygedig iawn, gan gynnwys ysgrifennu ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd
- Sgiliau cynllunio a threfnu rhagorol
Meini prawf dymunol
- Yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Annie Petherick
- Teitl y swydd
- Principal Public Health Practitioner
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector