Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Diogelu Iechyd
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
028-NMR020-0824
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
I'w gadarnhau
Tref
I'w gadarnhau
Cyflog
£35,922 - £43,257 Y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
12/09/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
27/09/2024

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Ymarferydd Diogelu Iechyd/Nyrs

Gradd 6

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


 

Trosolwg o'r swydd

Nyrs neu Ymarferydd Diogelu Iechyd 

Lleoliad/safle: Gweithio ystwyth - y swyddfa Iechyd Cyhoeddus Cymru agosaf

Dyddiad y cyfweliad: 27 Medi 2024

Mae cyfle cyffrous wedi codi i nyrs gofrestredig brofiadol neu ymarferydd cofrestredig priodol neu weithiwr proffesiynol perthynol i iechyd (gweler manyleb y person) ymuno â Thîm Diogelu Iechyd Cymru Gyfan.

Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig a brwdfrydig sydd â phrofiad ym maes diogelu iechyd i weithio ym maes clefydau trosglwyddadwy, atal a rheoli heintiau, ac agweddau eraill ar ddiogelu iechyd.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio mewn partneriaeth ag aelodau eraill o'r Tîm Diogelu Iechyd a'r Is-adran Diogelu Iechyd ehangach i oruchwylio, atal a rheoli amrywiaeth o glefydau heintus a materion diogelu iechyd eraill.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn gweithredu fel aelod allweddol o wasanaeth Ymateb Acíwt Cymru Gyfan (AWARe), gan gymryd rhan (y rhan fwyaf o ddyddiau) yn y rota ar gyfer darparu’r ymateb diogelu iechyd acíwt. Bydd yn ymateb i ystod o hysbysiadau, ymholiadau a digwyddiadau ac yn rhoi cyngor diogelu iechyd i weithwyr iechyd proffesiynol eraill ac aelodau'r cyhoedd. 

Yn ogystal â darparu AWARe, bydd deiliad y swydd hefyd yn gweithio gydag Uwch Weithwyr ac Ymgynghorwyr Diogelu Iechyd (Nyrsys/Ymarferwyr) ar waith rhagweithiol wedi'i gynllunio ar lefel leol a rhanbarthol. Bydd hyn yn golygu gweithio ar y cyd ag asiantaethau eraill (fel Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol) i ddarparu gwasanaeth diogelu iechyd arbenigol i boblogaeth Cymru.

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gymryd rhan mewn cyflwyno'r gwasanaeth y tu allan i oriau sy'n rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul gan gynnwys gwyliau banc.

Mae'r swydd yn un ystwyth.  Bydd gofyn i staff weithio yn y swyddfa a gartref.  Bydd natur y swydd yn gofyn am gyfnodau sylweddol o amser yn defnyddio cyfrifiadur a ffôn.

Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd weithio gyda thimau/rhaglenni eraill o fewn yr adran fel y penderfynir gan ei reolwr llinell.

Mae’n bosibl y bydd gofyn i ddeiliad y swydd deithio at ddibenion hyfforddiant, cyfarfodydd ac ymweliadau â safleoedd eraill.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi’r staff hynny sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

 

Gweithio i'n sefydliad

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw Sefydliad Iechyd y Cyhoedd cenedlaethol Cymru. Ein gweledigaeth yw ‘Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru’. Rydym yn chwarae rhan ganolog mewn ysgogi gwelliannau o ran iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu'r cyhoedd a chefnogi datblygiad iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.

Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd “Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth”. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

I gael rhagor o wybodaeth am weithio i ni, y buddion a gynigiwn a'r arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i https://icc.gig.cymru/gweithio-i-ni/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr/

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person sydd ynghlwm o fewn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwnewch gais nawr" i'w weld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestru priodol fel yr amlinellir yn y fanyleb person
  • O leiaf gradd Baglor neu gyfwerth mewn pwnc perthnasol
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster atal a rheoli heintiau cydnabyddedig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o ddiogelu iechyd neu atal a rheoli heintiau
  • Profiad o weithio mewn tîm amlddisgyblaethol
  • Profiad o ddelio â sefyllfaoedd sensitif neu anodd
Meini prawf dymunol
  • Profiad mewn ymchwil ac archwilio

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • • Sgiliau datrys problemau a'r gallu i ymateb i ofynion sydyn ac annisgwyl o fewn eich maes cyfrifoldeb
  • • Y gallu i ddadansoddi a dehongli amrywiaeth o wybodaeth
  • Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig ardderchog

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth am y prif egwyddorion sy'n sail i glefydau heintus, atal a rheoli heintiau, a brechu ac imiwneiddio
  • Dealltwriaeth o ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth a chymhwysiad ymarferol cysylltiedig
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth o bwysigrwydd cydweithredu effeithiol â rhanddeiliaid

Priodoleddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • • Y gallu i gyfleu gwybodaeth gymhleth a sensitif
  • • Ymrwymedig i hunanddatblygiad a pharodrwydd i rannu profiad ag eraill i ddylanwadu ar ymarfer

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Darren Beynon
Teitl y swydd
Lead Health Protection Practitioner
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Victoria Dunsford

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg