Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwasanaethau Sgrinio - Sgrinio'r Fron
Gradd
NHS AfC: Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i Dydd Gwener, 7.5 awr y dewrnod rhwng 08:30-16:30 gyda 30 muned o ginio di-dâl)
Cyfeirnod y swydd
028-AC298-0824W
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Bron Brawf Cymru
Tref
Abertawe
Cyflog
£23,159 - £24,701 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
18/09/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Gweinyddwr Llwybr Sgrinio (Fron)

NHS AfC: Gradd 3

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


 

Trosolwg o'r swydd

Mae Bron Brawf Cymru yn chwilio am Gweinyddwr Llwybr Sgrinio llawn-amser sydd yn siaradwr Cymraeg. Byddwch yn darparu cymorth gweinyddol cynhwysfawr a gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol o fewn amgylchedd prysur a sensitif.

Rhaid bod gennych brofiad gweinyddol blaenorol mewn amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid a bod gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol. Rhaid i chi hefyd ddangos sgiliau trefnu rhagorol a gallu gweithio dan bwysau, blaenoriaethu llwythi gwaith a gweithio o fewn terfynau amser. Mae’r gallu i weithio'n llwyddiannus fel rhan o dîm yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Bydd deiliad y swydd yn cynnig cyngor a chymorth mewn modd proffesiynol a sensitif i sgrinio menywod a phartïon eraill a bydd yn ofynnol iddo/iddi ymgymryd â dyletswyddau derbynfa yng Nghanolfan Sgrinio'r Fron.

Mae hon yn swydd brysur ac mae rhoi sylw i fanylion yn hanfodol. Bydd angen ymagwedd hyblyg tuag at waith a'r gallu i gynnal cywirdeb wrth ymdrin â llawer o amhariadau.

Mae angen gwybodaeth ymarferol am becynnau Microsoft gan gynnwys Word, Outlook ac Excel.

Mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl gyda chyfranogwyr, staff a defnyddwyr gwasanaeth yn Gymraeg a Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'r prif ddyletswyddau'n cynnwys cyflawni'n effeithiol yr holl raglenni sy'n cael eu rheoli gan Bron Brawf Cymru drwy sicrhau bod system galw/ail-alw Sgrinio'r Fron a'r swyddogaethau di-feth yn gweithredu'n effeithiol, drwy gadw cofnodion cleientiaid, ymateb i ymholiadau a thrafod gyda chysylltiadau mewnol ac allanol.

Delio â galwadau ffôn gan aelodau o'r cyhoedd a defnyddwyr gwasanaeth eraill, prosesu newid apwyntiadau a delio ag ymholiadau cyffredinol.

Prosesu gwahoddiadau a chanlyniadau clinigau sgrinio ac asesu.

Dyletswyddau derbynfa mewn clinigau sgrinio, asesu a chanlyniadau, gan ddarparu cymorth wyneb yn wyneb i aelodau'r cyhoedd, ymwelwyr a phobl sy'n danfon nwyddau.

Gweithio i'n sefydliad

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw Sefydliad Iechyd y Cyhoedd cenedlaethol Cymru. Ein gweledigaeth yw ‘Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru’. Rydym yn chwarae rhan ganolog mewn ysgogi gwelliannau o ran iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu'r cyhoedd a chefnogi datblygiad iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.

Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd “Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth”. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

 I gael rhagor o wybodaeth am weithio i ni, y buddion a gynigiwn a'r arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch I https://icc.gig.cymru/gweithio-i-ni/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr/

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Isafswm o 5 TGAU neu brofiad cyfatebol
  • NVQ lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol mewn Gweinyddu Busnes neu Ofal Cwsmeriaid neu barodrwydd i weithio i ennill cymhwyster o'r fath
Meini prawf dymunol
  • Gymhwyster gysylltiedig â TG

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Rhugl yn y Gymraeg (level 4 neu 5)
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da. Sgiliau ffôn ardderchog. Gweithio fel rhan o dîm.
  • Y gallu i flaenoriaethu gwaith a defnyddio eich cymhelliant. Y gallu i weithio dan bwysau a chyrraedd terfynau amser gan sicrhau lefel uchel o gywirdeb bob amser. Y gallu i roi sylw i fanylion.
Meini prawf dymunol
  • Yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad gweinyddol blaenorol mewn amgylchedd gwasanaethau cwsmeriaid
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd gwasanaeth iechyd

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth dda ar draws ystod eang o swyddogaethau gweinyddol
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am Raglenni Sgrinio

Nodweddion Personol

Meini prawf hanfodol
  • Yn gyfforddus yn sgwrsio yn Gymraeg gydag aelodau o'r cyhoedd
  • Y gallu i weithio'n dda o dan bwysau a chanolbwyntio wrth ymdrin ag ymyriadau cyson. Brwdfrydig. Y gallu i ddangos sensitifrwydd a chywirdeb.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Catherine Llewellyn
Teitl y swydd
Deputy Screening Centre Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01792 459988
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Rydym yn croesawu ceisiadau am ymweliadau anffurfiol gan ymgeiswyr ar y rhestr fer.

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg