Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Microbioleg
Gradd
Gradd 5/6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
028-HS047-1024
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Singleton
Tref
Abertawe
Cyflog
£30,420 - £45,637 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
04/11/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Dan hyfforddiant/Gwyddonydd Biofeddygol/Arbennig

Gradd 5/6

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


 

Trosolwg o'r swydd

Nodwch y gall y penodiad gael ei wneud ar Band 5 neu Fand 6 yn dibynnu ar brofiad. 

Mae’n gyfnod cyffrous i ymuno â Microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru gan ein bod wedi ehangu ein gweithlu a'r ffordd y darperir gwasanaethau Microbioleg yn ddramatig. Mae Microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys rhwydwaith o labordai sydd ar hyn o bryd wedi'u lleoli ar sawl safle ledled Cymru.

Mae cyfle wedi codi i ymuno â'n Tîm Bacterioleg yn Ysbyty Singleton. Byddwch yn cael y cyfle i fod ar flaen y gad ym maes Microbioleg yng Nghymru yn dilyn buddsoddiad sylweddol mewn technoleg a staff newydd. Ein nod yw darparu gwasanaeth diagnostig ymatebol, modern, cyflym i bobl Cymru gan ddefnyddio offer o'r radd flaenaf.

I ddangos ein hymrwymiad a'n hymroddiad i'n staff rydym yn cynnig dilyniant awtomatig i Fand 6 ar ôl cwblhau eu Diploma Arbenigol IBMS (Microbioleg/ Bacterioleg Feddygol) yn llwyddiannus gyda chydymffurfiaeth 100% o ran hyfforddiant statudol a gorfodol a dogfennau cymhwysedd perthnasol. 

Bydd deiliaid y swydd llwyddiannus yn cael eu cynorthwyo'n llawn, a rhoddir hyfforddiant llawn gan ein tîm hyfforddi. Byddwch yn cael eich annog i ddatblygu a rhoddir cyfleoedd i wella eich gyrfa.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n frwdfrydig, yn llawn cymhelliant ac yn arloesol, gyda galluoedd trefnu ac ymarferol da wedi'u cefnogi gan wybodaeth wyddonol. Dylai ymgeiswyr feddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu wedi'u datblygu'n dda a gallu i gefnogi gwaith unigol ac mewn tîm. Bydd bod yn hyblyg, gyda hunangymhelliant a sgiliau ymarferol da yn hanfodol i'ch rôl. Byddwch yn defnyddio'ch gwybodaeth a'ch sgiliau fel Gwyddonydd Biofeddygol i gyfrannu at system gadarn a chwbl weithredol yn yr adran. Byddwch yn cynorthwyo wrth adeiladu tîm cryf a chynorthwyo'r Uwch Wyddonwyr Biofeddygol i alluogi gwelliannau parhaus yn yr adran a thrwy gydol y Rhwydwaith Microbioleg.  Mae dealltwriaeth o arferion labordy da ac ISO15189 rheoli ansawdd yn ddymunol.

Bydd dydd deiliad y swydd yn cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth 24/7 yn unol â rota gyhoeddedig.

Mae ein tîm yn cynnig amgylchedd gwaith amrywiol, heriol a gwerth chweil, gyda'r cyfle i fod ar flaen y gad ym maes Microbioleg yng Nghymru.

Gweithio i'n sefydliad

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw Sefydliad Iechyd y Cyhoedd cenedlaethol Cymru. Ein gweledigaeth yw ‘Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru’. Rydym yn chwarae rhan ganolog mewn ysgogi gwelliannau o ran iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu'r cyhoedd a chefnogi datblygiad iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.

Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd “Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth”. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

 

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gallwch ddod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb y Person atodedig yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwnewch gais nawr” i'w gweld yn Trac.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Manyleb y person

Cymwysterau/Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gradd sy'n addas ar gyfer cofrestriad HCPC

Cymwysterau/Profiad

Meini prawf dymunol
  • Hen lyfr glas CoC neu ddiploma arbenigol ac wedi cofrestru gyda HCPC

Cymwysterau/Profiad

Meini prawf dymunol
  • Profiad ol-gofrestru mewn Labordy Microbioleg

Cymwysterau/Profiad

Meini prawf dymunol
  • Profiad o berfformio technegau llaw ac awtomataidd

Cymwysterau/Profiad

Meini prawf dymunol
  • Ymwybyddiaeth o ansawdd yn y labordy

Cymwysterau/Profiad

Meini prawf dymunol
  • Ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch yn y labordy

Cymwysterau/Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gallu dysgu newydd sgiliau

Cymwysterau/Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau technoleg gwybodaeth

Cymwysterau/Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Sguliau datrys problemau da

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Richard Hopkins
Teitl y swydd
Head of Operations Bacteriology
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01792 704165
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg