Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cynorthwy-ydd Gweinyddol
Gradd 3
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 8 MIS OHERWYDD GOFYNION Y GWASANAET.
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Rydyn ni’n chwilio am Gynorthwyydd Gweinyddol cyfeillgar, dibynadwy, a llawn cymhelliant i ymuno â’n tîm yma yn adran Microbioleg, Ysbyty Singleton. Byddai gan yr ymgeisydd delfrydol ffordd gyfeillgar a hyblyg o weithio mewn tîm a bydd ganddynt agwedd anfeirniadol. Mae proffesiynoldeb yn ofynnol bod amser yn yr amgylchedd hwn a rhaid ichi fod ag agwedd ardderchog at waith.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae’r rôl yn cynnwys darparu cefnogaeth weinyddol a chlercaidd gynhwysfawr i wasanaethau gweinyddol a diagnostig yr adran.
Bydd deilydd y swydd yn aelod allweddol o’r tîm gweinyddol, yn gweithio’n agos â’r Rheolwr Cefnogi Busnes, y Goruchwyliwr Swyddfa, a’r staff labordy i ddarparu cefnogaeth glercaidd a chyfrannu at ddarparu gwasanaeth rhagorol i’n cydweithwyr a’n cleifion. Mae hon yn rôl gefnogi allweddol a bydd yn cynnwys dyletswyddau ar y dderbynfa, mewngofnodi data, ffeilio electronig, a mewngofnodi ceisiadau am brofion.
Wrth ymuno â’n tîm, byddwch yn gyfrifol am ddarparu dyletswyddau gweinyddol a chyffredinol yn ogystal ag am ateb y ffôn a chyfarch cwsmeriaid ac ymwelwyr i’n hadran. Byddwch yn cynorthwyo â threfnu cyfarfodydd a delio â’r dyddiadur, dethol a dosbarthu’r post a diweddaru ein cronfeydd data. Yn ogystal, byddwch yn cyflawni prosesau ariannol arferol ac yn helpu gyda dyletswyddau eraill yn ôl y gofyn.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw’r Sefydliad Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw ‘Gweithio i gael dyfodol iachach i Gymru’ lle’r ydyn ni’n chwarae rôl ganolog i ysgogi gwelliannau yn iechyd a lles y boblogaeth, gan leihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu’r cyhoedd a chefnogi datblygiad iechyd ym mhob polisi ar draws Cymru.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein Gwerthoedd, ‘Gweithio gyda’n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth’. Rydyn ni wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy’n cynrychioli amrywiaeth cyfoethog y cymunedau a wasanaethwn.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gofynion Allweddol:
Bydd angen ichi feddu ar sgiliau llythrennedd, rhifedd a gweinyddol da a chywir ynghyd â’r gallu i ddadansoddi gwybodaeth i ddelio ag ymholiadau cyffredinol. Bydd arnoch hefyd angen sgiliau bysellfwrdd da.
Byddwch yn delio ag amrywiol berthnasoedd gyda gwahanol randdeiliaid felly mae’n bwysig bod gennych sgiliau cyfathrebu da a’ch bod yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun.
Mae sgiliau cynllunio a threfnu da yn allweddol ar gyfer y rôl hon a dylech fod wedi arfer gweithio dan bwysau i lynu wrth amserlenni gan ganiatáu hyblygrwydd a gwytnwch.
Y prif sgiliau sy’n angenrheidiol ar gyfer y rôl hon yw:
- Proffesiynoldeb
- Sgiliau trefnu
- Rheoli amser
- Sgiliau rhyngbersonol
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig
- Sgiliau cyfathrebu ar lafar
- Sylw i fanylder
- Profiad o Microsoft Word, PowerPoint, ac Excel
- Yn gallu addasu
I gael rhagor o fanylion gweler y Swydd-ddisgrifiad a’r Manyleb Person sydd ynghlwm
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Profiad profedig amlwg o weithio fel Gweinyddwr
- Sgiliau TG canolradd / TGAU/NVQ Lefel 3, neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Gwasanaeth cwsmer
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad amlwg mewn rôl weinyddol
- Profiad o gyfathrebu â chydweithwyr a'r cyhoedd
Meini prawf dymunol
- Gweithio mewn amgylchedd GIG
- Defnyddio Systemau Caffael
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Trefniadaeth a rheoli amser
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Benjamin Davies
- Teitl y swydd
- Business Support Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07917564050
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector