Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwasanaethau’r Golchdy
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (posibilrwydd o siftiau ar gael oherwydd salwch ac gwyliau blynyddol)
Cyfeirnod y swydd
043-EA057-0624
Cyflogwr
GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Llansamlet
Tref
Abertawe
Cyflog
£35,922 - £43,257 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
18/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau logo

Peiriannydd Arweiniol Gwasanaethau’r Golchdy

Gradd 6

Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-

 Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz

 

 Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM

 

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

 

Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle ar gael ar gyfer Peiriannydd Arweiniol Gwasanaethau’r Golchdy Band 6 wedi'i leoli yng Ngolchdy Green Vale

Bydd y rôl yn cynnwys bod yn rheolwr llinell yr adran cynnal a chadw o ddydd i ddydd, cydlynu’r ystod lawn o weithgareddau cynnal a chadw ar y safle megis rhedeg y system Cynnal a Chadw Ataliol Cynlluniedig (PPM) o ddydd i ddydd, trefnu gosodiadau, cynnal a chadw stoc, archebu darnau sbâr, rheoli contractwyr ar y safle

Bydd y dyletswyddau'n cynnwys rheoli staff ac adnoddau o fewn yr adran a ddyrannwyd iddynt i gyflawni'r perfformiad gorau posibl yn unol â gofynion rheoli a gwasanaethau cydlynu’r Golchdy gyda'r Rheolwr a Dirprwy Reolwr y Golchdy

Bydd deiliad y swydd yn cymryd cyfrifoldeb am fonitro ansawdd y gwaith a gynhyrchir yn yr adran. Bydd hefyd yn allweddol wrth gymell staff ac wrth nodi a darparu cymorth ar gyfer hyfforddi a datblygu staff peirianneg. Bydd deiliad y swydd yn arwain safonau Iechyd a Diogelwch ar y safle

Yr oriau gweithio cychwynnol ar gyfer y rôl hon fyddai dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 7.30 a 15.30. Fodd bynnag, bydd yr oriau gwaith yn seiliedig ar anghenion y gwasanaeth a gallent gynnwys gweithio rhwng y ddau batrwm sifft presennol a chyflenwi ar gyfer gwyliau ac absenoldebau salwch aelodau eraill o’r adran.  Mae hyn yn cynnwys gweithio penwythnosau yn ogystal â gweithio diwrnodau 12 awr.  

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rhaid bod y Peiriannydd Arweiniol wedi cyflawni prentisiaeth gydnabyddedig mewn disgyblaeth fecanyddol neu drydanol ac wedi cwblhau cwrs tystysgrif crefft City & Guilds perthnasol. Rhaid i’r Peiriannydd Arweiniol feddu ar wybodaeth gadarn o egwyddorion ac arferion masnach hefyd.

Rhaid ei fod wedi ennill dealltwriaeth drylwyr o systemau cynnal a chadw Peirianneg a rhaid bod ganddo profiad sylweddol. Rhaid iddo allu dangos ei fod yn hyblyg iawn a’i fod wedi sicrhau bod ganddo’r wybodaeth dechnegol gyfredol sy'n gysylltiedig ag amgylchedd gofal iechyd.

 

Darparu gwybodaeth dechnegol a chynghori grwpiau eraill o staff am faterion cynnal a chadw a allai gael effaith ar gyflenwi gwasanaethau.

Rheoli, cynllunio a blaenoriaethu gweithgareddau cynnal a chadw neu fân waith o ddydd i ddydd ac yn y tymor hir a sicrhau y dyrennir digon o waith i’r gweithlu ar bob adeg.

Meddu ar y sgiliau TG angenrheidiol i fewnbynnu a thrin data sy'n gysylltiedig â'r system rheoli cynnal a chadw Rheng Flaen a’r system gaffael electronig.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg fel ei gilydd wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.

Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.

Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl. 

Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.

Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb.  I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/

Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Diploma ôl-raddedig neu lefel gyfatebol o wybodaeth a gafwyd trwy gyrsiau a phrofiad mewn adeiladu neu bwnc peirianneg.
  • Gwybodaeth broffesiynol am ystod lawn o weithdrefnau masnach a gafwyd drwy gwrs hyfforddi achrededig 4 blynedd ar yr offer gofynnol; cymhwyster galwedigaethol lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol ynghyd â hyfforddiant perthnasol neu brofiad cyfatebol, ynghyd â hyfforddiant ychwanegol a sgiliau datblygedig e.e. niwmateg/hydroleg.
  • Profiad o waith Cynnal a Chadw Mecanyddol a Thrydanol a gallu dangos amrywiol ddoniau a hyblygrwydd ynghyd ag ystod o weithdrefnau ac arferion gwaith a ategir gan theori neu brofiad ymarferol.
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth arbenigol am gynnal a chadw golchdy diwydiannol a thystiolaeth o DPP sylweddol.
  • DPP sy'n gysylltiedig â pheirianneg gofal iechyd.
  • Cymwysterau cydnabyddedig mewn Peirianneg Fecanyddol a Thrydanol. Cymwysterau a phrofiad a enillwyd mewn hydroleg, niwmateg, rhaglennu PLC a systemau rheoli generadur stêm.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o arferion rheoli Iechyd a Diogelwch. Datblygu a gweithredu amserlenni rheoli risg a systemau gwaith diogel.
  • "Profiad o gynllunio a gweithredu amserlenni cynnal a chadw ataliol cynlluniedig. "
  • Profiad o weithio mewn diwydiant gwasanaeth peirianneg cymhleth ar un neu fwy o feysydd cynnal a chadw peirianneg arbenigol. Cwblhau rhaglen hyfforddi strwythuredig/18fed Argraffiad /Cymhwyster Gas Safe neu F-Gas. Yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun.
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol o weithio o fewn y GIG.
  • Profiad o roi systemau rheoli cyflawniad ar waith, gan gynnwys Mynegai Cynhyrchiant Diwydiannol (IIP), Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPI), ac ati.
  • Systemau Larwm Tân, cywasgwyr, offer golchdy diwydiannol.

Sgiliau Hanfodol

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a negodi datblygedig i gynnwys staff o bob disgyblaeth yn fewnol ac yn allanol ac yn gallu cadeirio cyfarfodydd yn effeithiol.
  • Yn dda am fynegi eich hun ac yn gallu trin rhifau. Sgiliau cyfathrebu rhagorol (ysgrifenedig ac ar lafar).
  • Dangos y gallu i arwain timau ac unigolion. Gallu delio â chyflenwyr a chywiro anghydfodau.
Meini prawf dymunol
  • Gallu siarad Cymraeg
  • Hyddysg mewn TG ar Becynnau Microsoft Office

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Customer Service ExcellenceHyderus o ran anabledd - ymroddedigDisability confident committedMenopause Workplace PledgeEnei MemberLexcel Legal Practice Quality MarkRhwydwaith Network 75 logoEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
David Jones
Teitl y swydd
Technical Services Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07974883120
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg