Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Swyddog Pensiynau
Band 4
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae swydd wag barhaol wedi codi ar gyfer Swyddog Pensiynau o fewn yr Is-adran Gwasanaethau Cyflogaeth ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Bydd deiliad y swydd yn rhan o dîm sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaeth pensiwn cynhwysfawr i weithwyr GIG Cymru.
Ar adegau, bydd angen i ddeiliad y swydd reoli ei waith ei hun er mwyn sicrhau lefel uchel gyson o gyflawni perfformiad mewn modd cyfrinachol, atebol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer. Rhaid i ddeiliad llwyddiannus y swydd feddu ar brofiad o weithio mewn Swyddfa Pensiwn neu Gyflogres brysur ynghyd â'r gallu i ymchwilio, dadansoddi a phrosesu gwybodaeth a datrys ymholiadau technegol.
Mae'r swydd ar sail gweithio ystwyth ac fe fydd angen gweithio o’r swyddfa yn rheolaidd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cyfrannu at ddarparu gwasanaeth pensiynau cynhwysfawr i holl gyflogeion sefydliadau’r GIG sydd wedi'u contractio i PCGC drwy Gytundeb Lefel Gwasanaeth.
Yn gyfrifol am ddarparu cyngor i reolwyr a staff ar bob agwedd ar Gynllun Pensiwn y GIG a darpariaeth pensiwn.
Sicrhau bod pob cais yn cael ei drin yn effeithlon ac yn effeithiol ac y cydymffurfir â pholisïau a Rheoliadau’r Cynllun Pensiwn.
Gweithio gyda'r Rheolwr Pensiynau a'r Goruchwylwyr Pensiynau i sicrhau bod y tîm yn rhedeg yn effeithiol.
Gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws y Gweithlu a'r swyddogaethau eraill o fewn PCGC i hyrwyddo dulliau ar y cyd o ddatrys problemau’n ymwneud â’r gwasanaeth. Adeiladu a chynnal cysylltiadau â chydweithwyr eraill o fewn Ymddiriedolaethau a sefydliadau eraill er mwyn rhannu arferion gorau.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg fel ei gilydd wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae gennym safonau uchel ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac rydym yn disgwyl i bawb ymgorffori ein gwerthoedd Gwrando a Dysgu, Gweithio Gyda'n Gilydd, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi, tra'n sicrhau bod ymddiriedaeth, gonestrwydd a thosturi yn rhan annatod o bopeth a wnawn.
Rydym yn hyblyg, yn ystwyth ac yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn sefydliad sy’n dysgu, lle mae’n ddiogel gwneud camgymeriadau, lle caiff bai ei ddisodli gan gyfleoedd i ddysgu a gwella. Mae arloesi yn rhan o bopeth a wnawn.
Cydnabyddwn ein pobl yn rheolaidd trwy'r Orsaf Werthfawrogi, i annog staff i ganmol ymddygiad rhagorol ymysg ei gilydd ac fe gynhelir seremoni Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff Blynyddol sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd.
Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi ein pobl ac yn ymdrechu i greu diwylliant o dosturi a chynwysoldeb. Rydym yn sefydliad dwyieithog sydd â thîm o Hyrwyddwyr Newid sy’n hyrwyddo ‘Dyma Ein PCGC’ ein prif raglen newid. Yn yr un modd, BALCH yw ein rhwydwaith staff newydd sy’n croesawu cydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+ i ddod ynghyd mewn man diogel i gael trafodaethau, i gynllunio digwyddiadau ac i gael y cyfle i adeiladu rhwydweithiau cefnogol.
Mae gennym becyn buddion cynhwysfawr lle mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’n cefnogi iechyd, ymgysylltiad a lles ac mae’n cynnwys Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Mae gennym dros 30 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol a chenedlaethol i sicrhau llesiant a gwydnwch ein pobl
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd cysylltiedig â Phensiynau/Cyflogres
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn Amgylchedd Cydwasanaethau
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o Systemau Cyflogres megis ESR neu systemau ariannol cyfatebol.
Meini prawf dymunol
- Hanes blaenorol o ddatblygiad proffesiynol parhaus
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am gynhyrchion Microsoft Office
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cynllunio a threfnu da
Meini prawf dymunol
- Hanes blaenorol o ddatblygiad proffesiynol parhaus
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- David Thomas
- Teitl y swydd
- Pension Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector