Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyllid
Gradd
NHS AfC: Band 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
028-AC295-0824
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Cynllunio a Chyflawni Ariannol
Tref
Pencoed
Cyflog
£35,922 - £43,257 PA
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
16/09/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Dadansoddwr Busnes Cyllid - Cynllunio a Chyflawni Ariannol

NHS AfC: Band 6

Croeso i Weithrediaeth GIG Cymru, swyddogaeth gymorth genedlaethol newydd, yn weithredol o 1 Ebrill 2023

Ein pwrpas allweddol yw...

Ysgogi gwelliannau yn ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau gwell a thecach, mynediad a phrofiad y claf, llai o amrywiad, a gwelliannau yn iechyd y boblogaeth.

 I gael gwybod mwy, ewch i Weithrediaeth GIG Cymru.

 Ein Gwerthoedd

Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Trosolwg o'r swydd

Bydd yr Uwch Ddadansoddwr Busnes yn chwarae rôl ganolog i ddarparu cyngor ariannol proffesiynol ac i gynhyrchu deallusrwydd a dadansoddiadau ariannol cadarn ac effeithiol er mwyn cyfrannu at amcanion cyflawni’r Gyfarwyddiaeth.

Ymysg y perthnasoedd mewnol ac allanol allweddol y mae:

  • Cyfarwyddiaeth Cynllunio a Chyflawni Ariannol
  • Cyfarwyddiaeth Gyllid HSSG Llywodraeth Cymru
  • Rhanddeiliaid allweddol eraill e.e. Cyfarwyddiaethau Gweithrediaeth y GIG

Arweinwyr cyllid allweddol y Bwrdd Iechyd

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae deilydd y swydd yn weithiwr cyllid dan hyfforddiant yn y Gyfarwyddiaeth, a bydd yn cyfrannu at gyflawni amcanion y Gyfarwyddiaeth.

Cefnogi’r gwaith o ddylunio, creu a datblygu cronfeydd data, adroddiadau a phrosesau newydd, priodol i gipio data a darparu dadansoddiadau ariannol i sicrhau bod rhanddeiliaid mewnol ac allanol yn cael gwybodaeth gywir, o ansawdd uchel i lywio asesiadau ac i wneud penderfyniadau.  

Darparu cefnogaeth uniongyrchol i’r Cyfarwyddwyr Cynorthwyol gyda’r gwaith o fonitro’n drylwyr yr hyn a gyflawnir yn ystod y flwyddyn a’r cynlluniau ar gyfer meysydd cyflawni allweddol. Mae hyn yn cynnwys creu adroddiadau misol ar gyfer sefydliadau sy’n dadansoddi tueddiadau ariannol a defnyddio offer dadansoddi i asesu risgiau a phrofi perfformiad a rhagolygon y sefydliadau mewn senarios penodol er mwyn rhoi sicrwydd o safbwynt cyflawni yn ystod y flwyddyn.

Cefnogi’r gwaith o ddatblygu atebion arloesol i sicrhau bod y dadansoddiadau ariannol a ddarperir gan y Gyfarwyddiaeth wastad yn gadarn, yn rhoi’r treiddgarwch gorau, ac yn rhoi negeseuon clir ynglŷn â’r potensial i wella perfformiad ariannol ymhellach.

 

 

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Gweithrediaeth y GIG yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru yn a chyda GIG Cymru ac mae’n cael ei lletya gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ein prif bwrpas yw ysgogi gwelliannau o ran ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau, mynediad a phrofiad gwell a thecach i’r claf gyda llai o amrywiad, a gwelliannau o ran iechyd y boblogaeth.

Gwnawn hyn drwy ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol cryf – gan alluogi, cefnogi a chyfarwyddo GIG Cymru i drawsnewid gwasanaethau clinigol yn unol â blaenoriaethau a safonau cenedlaethol.

I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Am ragor o wybodaeth cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a'r fanyleb bersonol sydd ynghlwm neu cysylltwch â Kimberley Rowe

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Wedi ennill cymhwyster AAT neu CCAB / CIMA yn rhannol gydag ymrwymiad i gwblhau cymhwyster cyfrifeg proffesiynol
  • Wedi eich addysgu i lefel gradd neu gyfatebol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o reoli prosiectau

Profiad a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn adran gyllid
  • Profiad o ddefnyddio systemau ariannol
  • Profiad o weithio gyda rheolwyr a deiliaid cyllidebau
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio yn y GIG
  • Profiad o weithio gyda sefydliadau partner

Sgiliau a galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Galluoedd dadansoddol sylweddol
  • Y gallu i weithis'n gydweithredol
  • Y gallu i ddefnyddio systemau i gynhyrchu adroddiadau, trin a dehongli data
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau mewn meddalwedd cronfeydd data
  • Sgiliau mewn meddalwedd deallusrwydd busnes

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn angenrheidiol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Kimberley Rowe
Teitl y swydd
Head of Financial Analysis
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg