Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Pennaeth Parodrwydd, Gwydnwch ac Ymateb Brys
Band 8c
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) yn sefydliad cydwasanaethau heb ei debyg. Rydym yn darparu ystod eang o wasanaethau cymorth i sefydliadau ar draws y GIG yng Nghymru. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi ehangu ein portffolio o wasanaethau, fel y nodir yn ein Cynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP) ar gyfer 2024-2027. Rydym bellach yn sefydliad sy'n cyflogi mwy na 5,000 o staff gyda chyllideb o dros £600 miliwn. Mae’r Pennaeth Parodrwydd, Gwydnwch ac Ymateb Brys yn swydd newydd gyffrous gyda chyfrifoldeb am lunio, gweithredu a darparu ymateb brys a strategaeth gwydnwch ar gyfer y sefydliad, sydd wedi’i dylunio i danategu’r gwaith o gyflawni ein IMTP. Rydym angen arbenigwr mewn cynllunio at argyfyngau i ymuno â'n tîm a gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer cynllunio parhad busnes ac i arwain ar ymateb i ddigwyddiadau. Bydd deiliad y swydd yn adrodd i'r Cyfarwyddwr Cynllunio, Perfformiad a Gwybodeg, a bydd ganddo’r ymreolaeth i weithio'n agos gyda'n Cyfarwyddwyr. Bydd yn rhoi sicrwydd bod trefniadau’n addas i’r diben o fewn a thu allan i oriau gwaith safonol, ac yn galluogi cyflawni amcanion busnes allweddol PCGC. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar y cyd ar draws y sefydliad, gyda chydweithwyr o fewn GIG Cymru, a lle bo’n berthnasol, awdurdodau cyhoeddus eraill gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Bydd gofyn iddo gynrychioli PCGC yn aml mewn cyfarfodydd ar lefel genedlaethol. |
Prif ddyletswyddau'r swydd
• Gweithredu fel adnodd arbenigol a phwynt cyswllt ar gyfer rheoli Parhad Busnes Strategol, Argyfyngau Sifil Posibl a Chynllunio at Argyfyngau ar draws Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
|
Gweithio i'n sefydliad
Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.
Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl.
Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.
Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb. I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/
Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at Lefel gradd Meistr neu brofiad a gwybodaeth berthnasol gyfatebol ym maes Parodrwydd, Gwydnwch ac Ymateb Brys (EPRR) neu Barhad Busnes; gan gynnwys asesu’r effaith ar fusnes, cynllunio parhad busnes a rheoli digwyddiadau.
Meini prawf dymunol
- Profiad sylweddol a gwybodaeth fanwl ar draws ystod o ddisgyblaethau gan gynnwys rheoli risg, rheolaeth ariannol a rheoli staff, systemau gwybodaeth a rheoli perfformiad.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth amlwg o'r Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl (2004) a deddfwriaeth a chanllawiau paratoi at argyfyngau perthnasol eraill.
- Profiad o gynllunio a gweithredu strategaeth hirdymor
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus ym maes cynllunio parhad busnes a threfniadau parodrwydd at argyfyngau.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am Fframwaith Cynllunio presennol y GIG, rôl PCGC a’i berthynas â sefydliadau partner eraill a rhanddeiliaid allweddol yn ystod argyfwng.
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Hanes amlwg o ddatblygu cynlluniau strategol a gweithredol yn llwyddiannus sydd wedi'u gweithredu'n llwyddiannus mewn amgylchedd partneriaeth cymhleth.
Meini prawf dymunol
- Wedi gwneud cwrs achrededig mewn rheolaeth Strategol (Aur) o ddigwyddiadau mawr, ac wedi ardystio’n gymwys yn y rôl honno, e.e. Aur Cymru, (lefel Meistr 6)
- Diploma mewn Parodrwydd, Gwydnwch ac Ymateb Brys ym maes Iechyd
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Hanes amlwg o ddatblygu cynlluniau strategol a gweithredol yn llwyddiannus sydd wedi'u gweithredu'n llwyddiannus mewn amgylchedd partneriaeth cymhleth.
- Profiad helaeth yn gweithio ar lefel uwch mewn sefydliad mawr a chymhleth.
- Dealltwriaeth amlwg o gynllunio at argyfyngau gofal iechyd a gofynion y Ddegddf Argyfyngau Sifil Posibl (2004) gan gynnwys y broses gynllunio a materion cenedlaethol allweddol sy'n ymwneud ag iechyd.
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Yn gwbl gyfarwydd â gofynion gorchymyn, rheoli a chydlynu cenedlaethol gan gynnwys bod yn gymwys i gyflawni rolau angenrheidiol Arweinydd Strategol.
- Gallu profedig i gyflawni targedau ac amcanion mewn amgylchedd beichus a llawn pwysau o fewn terfynau amser heriol.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Alison Ramsey
- Teitl y swydd
- Director of Finance and Corporate Services
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 029 2150 1500
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rebecca Nelson, Cyfarwyddwr Cynllunio, Perfformiad a Gwybodeg
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector