Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Uwch Swyddog Gweinyddol ac Adnoddau
Gradd 4
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle gwych wedi codi i unigolyn brwd, brwdfrydig, uchel ei gymhelliant ymuno â’r Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru) fel Cynorthwyydd Personol/Uwch Swyddog Gweinyddol ac Adnoddau.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â sgiliau cyfathrebu a threfnu da, ac sydd a'r gallu i weithio'n hyblyg gan ddarparu cefnogaeth i raglen cynllun gwaith y tîm ar yr un pryd. Mae sgiliau TG rhagorol, gan gynnwys defnyddio Microsoft Word, PowerPoint, ac Excel yn hanfodol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y rôl hon bydd gennych brofiad amlwg o ddarparu cefnogaeth Cynorthwyydd Personol neu gyfwerth a byddwch yn gallu dangos sylw i fanylion a byddwch yn gymwys wrth reoli dyddiadur ac wrth gymryd cofnodion sy'n rhan allweddol o'r rôl. Bydd gennych sgiliau personol a rhyngbersonol rhagorol hefyd (ar lafar ac yn ysgrifenedig) a byddwch yn gallu ymgysylltu â rhanddeiliaid ar bob lefel ledled Cymru.
Gweithio i'n sefydliad
Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid allanol a rhaid i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol. Mae lleoliad y swyddfa i'w gytuno ar benodiad llwyddiannus gyda'r disgwyl o weithio hybrid.
Manyleb y person
CYMWYSTER AU
Meini prawf hanfodol
- Bydd angen i ddeiliad y swydd feddu ar RSA III/NVQ Lefel 3 neu lefel gyfatebol o brofiad,
- ynghyd â lefel uchel o rifedd, Saesneg ysgrifenedig a llafar
Meini prawf dymunol
- ECDL Uwch
PROFIAD
Meini prawf hanfodol
- Profiad amlwg mewn rôl weinyddol
- Profiad blaenorol o weithio gyda systemau ariannol a/neu brynu nwyddau neu gyfarpar
- Profiad o ddelio â data cyfrinachol a sensitif a chynnal a chadw a storio cofnodion yn briodol
- Profiad o drawsgrifio a chymryd cofnodion
- Profiad o weithio gyda Microsoft Office
Meini prawf dymunol
- Gweithio yn amgylchedd y GIG
SGILIAU
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio ar eich pen eich hun a rheoli eich llwyth gwaith eich hun
- Sgiliau bysellfwrdd datblygedig
- Sgiliau cyfathrebu a
Nodweddion Personol
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio o fewn terfynau amser a than bwysau
- Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun
Meini prawf dymunol
- Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Other
Meini prawf hanfodol
- Y parodrwydd a'r gallu i deithio rhwng safleoedd
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jacqueline Challenger
- Teitl y swydd
- Safeguarding Business Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07966 748335
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector