Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Uwch Gynghorydd Iechyd yn y Gweithle – y sector Iechyd a Gofal
Gradd 7
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD TAN 31.03.27 OHERWYDD GOFYNION Y GWASANAETH.
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Mae gennym gyfle cyffrous i ymgeisydd eithriadol ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru fel Uwch Gynghorydd Iechyd yn y Gweithle ar gyfer tîm Cymru Iach ar Waith o fewn Is-adran Gwella Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd gan y rôl hon gyfrifoldeb penodol am ddatblygu rhaglenni a gweithredu ffrydiau gwaith sy'n ymwneud â'r sectorau iechyd a gofal.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae cefnogi iechyd a llesiant ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol mawr yng Nghymru yn hynod o bwysig o ystyried eu bod yn aml yn cyflawni rolau heriol wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol i’r boblogaeth.
Mae Cymru Iach ar Waith yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n gweithio ledled Cymru i gefnogi ac annog cyflogwyr i greu gweithleoedd iachach trwy ddatblygu a chynnal amgylcheddau, polisïau a gweithgareddau sy’n diogelu iechyd ac sy’n hybu iechyd da. Mae'r rhaglen yn helpu cyflogwyr i gyflawni ystod o ganlyniadau busnes a sefydliadol cadarnhaol. Mae hefyd yn cyfrannu at iechyd a llesiant poblogaeth oedran gweithio Cymru.
Bydd yr unigolyn yn arwain datblygiad a gweithrediad mentrau iechyd a llesiant yn y gweithle o fewn y sectorau iechyd a gofal ledled Cymru. Bydd yn rhoi cyngor tra arbenigol i gyflogwyr unigol neu grwpiau o gyflogwyr, gan dynnu ar y sylfaen dystiolaeth ryngwladol orau sydd ar gael ar gyfer gweithredu a defnyddio arbenigedd mewn dulliau newid sefydliadol. Bydd yr unigolyn yn rhoi cyngor arbenigol a chymorth i ddatblygu canllawiau, offer a sesiynau briffio ar lefel Cymru gyfan ar gyfer cyflogwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r gallu a’r parodrwydd i deithio ledled Cymru gan gynnwys aros dros nos weithiau er mwyn gallu cyflwyno yn hanfodol i’r rôl.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg fel ei gilydd wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- • Addysg hyd at lefel Meistr mewn pwnc perthnasol neu dystiolaeth o ddysgu trwy brofiad cyfwerth
- • Cymhwyster Ymarferydd Datblygu Sefydliadol/Modiwl CIPD neu'n barod i ymgymryd ag ef
Profiad
Meini prawf hanfodol
- • Profiad o drafod a dylanwadu ar uwch reolwyr a staff, gan gynnwys ymgysylltu â'r agenda Iechyd a Llesiant Gweithwyr
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Laura Jones
- Teitl y swydd
- Service Delivery Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector