Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwasanaethau Caffael
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol: Parahol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Gweithio hybrid (Yn y Swyddfa a Gartref))
Cyfeirnod y swydd
043-AC127-0624
Cyflogwr
GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ty Dysgu
Tref
Nantgarw
Cyflog
£25,524 - £28,010 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
16/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau logo

Swyddog Cynorthwyol Busnes Caffael

Gradd 4

Trosolwg o'r swydd

Os ydych yn chwilio am yrfa ym maes Fflyd a Chludiant Caffael sy'n eich ysgogi, yn cynnig potensial ar gyfer datblygiad personol ac yn eich rhoi mewn sefyllfa i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r GIG Cymru, yna mae gan Wasanaethau Caffael PCGC yrfa a fydd o ddiddordeb i chi.

Mae Gwasanaethau Caffael PCGC yn gyflogwr sefydledig sy'n cefnogi darparu nwyddau a gwasanaethau i GIG Cymru. Ein nod yw bod yn “ymgynghorydd y gellir ymddiried ynddo” ac yn bartner hollbwysig i’n cwsmeriaid ar bob mater yn ymwneud â chaffael. Rydym yn ceisio bod yn sefydliad sy’n cael argraff gadarnhaol ar bobl sy’n gweithio i ni a chyda ni, wrth gydymffurfio â set glir o werthoedd sydd wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn gyflogwr arobryn, ac rydym yn cael ein cydnabod yn rheolaidd yn lleol ac yn genedlaethol am y gwaith a wnawn dros GIG Cymru ym myd caffael.

Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu ein staff ac rydym yn cefnogi datblygiad ein staff bob blwyddyn gyda lefelau gwahanol cymwysterau CIPS. Ein nod yw meddu ar weithlu medrus, ymroddedig a phroffesiynol sy’n cefnogi GIG Cymru ym mhob agwedd ar y broses Caffael i Dalu. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cyfrannu at fod yn rhyngwyneb Caffael rhwng Caffael Lleol PCGC a’n cwsmeriaid, a bydd yn cynorthwyo i gynrychioli’r adran ar lefelau amrywiol.  Bydd deiliad y swydd hefyd yn cynorthwyo i roi gwybod am statws/blaenoriaeth cynlluniau gwaith categori Fflyd a Chludiant ar draws ein Byrddau Iechyd / Ymddiriedolaethau.  Bydd hyn yn cynnwys cysylltu ag adrannau defnyddwyr a PCGC ar bob lefel i hyrwyddo cyfraniad caffael at gynlluniau busnes sefydliadau partner ar y cyfle cyntaf. 

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi’r Rheolwr Busnes Caffael i ddarparu gwasanaeth caffael proffesiynol Fflyd a Chludiant i’r Bwrdd Iechyd / Ymddiriedolaeth gan gyfrannu at ddatblygu a chyflawni amcanion y tîm. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi’r Rheolwr Busnes Caffael ar faterion caffael Fflyd a Chludiant ac ar brosiectau allweddol.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais. 

Gweithio i'n sefydliad

Mae gennym safonau uchel ac rydym yn disgwyl i bawb ymgorffori ein gwerthoedd Gwrando a Dysgu, Gweithio Gyda'n Gilydd, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi, tra'n sicrhau bod ymddiriedaeth, gonestrwydd a thosturi yn rhan annatod o bopeth a wnawn. Rydym yn hyblyg, yn ystwyth ac yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn sefydliad sy’n dysgu, lle mae’n ddiogel gwneud camgymeriadau, lle caiff bai ei ddisodli gan gyfleoedd i ddysgu a gwella. Mae arloesi yn rhan o bopeth a wnawn. Cydnabyddwn ein pobl yn rheolaidd trwy'r Orsaf Werthfawrogi, i annog staff i ganmol ymddygiad rhagorol ymysg ei gilydd ac fe gynhelir seremoni Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff Blynyddol sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd. Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi ein pobl ac yn ymdrechu i greu diwylliant o dosturi a chynwysoldeb. Rydym yn sefydliad dwyieithog sydd â thîm o Hyrwyddwyr Newid sy’n hyrwyddo ‘Dyma Ein PCGC’ ein prif raglen newid. Yn yr un modd, BALCH yw ein rhwydwaith staff newydd sy’n croesawu cydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+ i ddod ynghyd mewn man diogel i gael trafodaethau, i gynllunio digwyddiadau ac i gael y cyfle i adeiladu rhwydweithiau cefnogol. Mae gennym becyn buddion cynhwysfawr lle mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’n cefnogi iechyd, ymgysylltiad a lles ac mae’n cynnwys Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Mae gennym dros 30 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol a chenedlaethol i sicrhau llesiant a gwydnwch ein pobl.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Gwybodaeth / Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth am egwyddorion prynu a chyfraith contractau
Meini prawf dymunol
  • Ysgrifennu tendrau a manylebau

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gallu pendant i sefydlu a chryfhau perthnasoedd gweithio effeithiol â rhanddeiliaid
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i weithio o fewn terfynau amser

Y Gallu

Meini prawf hanfodol
  • Gallu amlwg i ddefnyddio cynhyrchion Microsoft
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i ddadansoddi a dehongli setiau data cymhleth

Y Gallu

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau rhyngbersonol rhagorol
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i weithio'n gadarnhaol fel rhan o dîm

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth am egwyddorion prynu a chyfraith contractau
  • Gallu pendant i sefydlu a chryfhau perthnasoedd gweithio effeithiol â rhanddeiliaid
Meini prawf dymunol
  • Ysgrifennu tendrau a manylebau
  • Y gallu i weithio o fewn terfynau amser.

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau rhyngbersonol rhagorol
  • Gallu amlwg i ddefnyddio cynhyrchion Microsoft
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i weithio'n gadarnhaol fel rhan o dîm.
  • Y gallu i ddadansoddi a dehongli setiau data cymhleth.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Customer Service ExcellenceHyderus o ran anabledd - ymroddedigDisability confident committedMenopause Workplace PledgeEnei MemberLexcel Legal Practice Quality MarkRhwydwaith Network 75 logoEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Lynsey Reynolds
Teitl y swydd
Procurement Business Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

 

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg