Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Arfarnwr Meddygon Teulu - Uned Cymorth Ailddilysu
- Gradd
- GP Educator
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 082-MD010-0624-A
- Cyflogwr
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ty Dysgu
- Tref
- Nantgarw
- Cyflog
- £107,176 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 09/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/2504.png)
Arfarnwr Meddygon Teulu
GP Educator
Trosolwg o'r swydd
Uned Cymorth Ailddilysu
Mae'r Uned Cymorth Ailddilysu yn uned broffesiynol o fewn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) sy'n ceisio cefnogi a gwella safonau proffesiynol ledled Cymru. Mae'r Uned yn gyfrifol am y canlynol:
- Rheoli'r Broses Arfarnu Meddygon Teulu ar gyfer pob meddyg teulu yng Nghymru ar ran y Byrddau Iechyd.
- Arwain ar systemau Rheoli Ansawdd Arfarnu Meddygol a darparu cymorth ar gyfer Ailddilysu Meddygol.
- Darparu digwyddiadau Datblygiad Proffesiynol Parhaus, hyfforddiant wyneb yn wyneb a dysgu/adnoddau ar-lein.
- Datblygu a rheoli systemau ar-lein i gefnogi arfarnu ac ail-ddilysu
- System Arfarnu ac Ailddilysu Meddygol (MARS) - platfform arfarnu ar-lein soffistigedig a ddefnyddir gan dros 7,000 o feddygon, arfarnwyr, rheolwyr Byrddau Iechyd a Chyfarwyddwyr Meddygol i hwyluso'r broses arfarnu meddygol flynyddol, ac i gefnogi meddygon a chyflogwyr i fodloni gofynion ail-ddilysu.
- Orbit360™ – system i hwyluso adborth aml-ffynhonnell i Feddygon fel rhan o'u gofynion ail-ddilysu.
Rydym am penodi 8 meddyg teulu brwdfrydig i ymuno â'r tîm fel Arfarnwyr Meddygon Teulu rhan-amser (1 sesiwn yr wythnos). Mae arfarnwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth hwyluso arfarnu meddygon teulu yng Nghymru, gan gynnal arfarniad gan gymheiriaid ar lefel leol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd ag o leiaf 20 o arfarniadau bob blwyddyn ac yn gweithio'n agos gyda'u cyd-Arfarnwyr Meddygon Teulu a Chydlynydd Arfarnu i drafod diweddariadau allweddol a materion sy'n ymwneud ag arfarnu ac ail-ddilysu. Bydd y rôl yn gofyn am gymryd rhan mewn hyfforddiant cychwynnol parhaus a gloywi i gefnogi datblygiad parhaus yn y rôl, a mynychu cyfarfodydd rhanbarthol a chenedlaethol.
I fanteisio ar y cyfle cyffrous hwn byddwch yn cael eich cynnwys yn ddi-amod ar y Rhestr Perfformwyr Meddygol yng Nghymru ac yn dal Cofrestriad Y Cyngor Meddygol Cyffredinol llawn gan gynnwys trwydded i ymarfer.
I wneud cais cwblhewch y ffurflen gais a chynnwys tystiolaeth i gefnogi'r cymwyseddau gofynnol a nodir yn y ddogfen Canllawiau Ategol.
Rydym yn recriwtio ar gyfer Arfarnwyr Meddygon Teulu Gorllewin Cymru, Abertawe, Gwent a Gogledd Ddwyrain Cymru, felly nodwch eich dewis ardal yn eich cais .
Cyfweliadau: 26 Gorffennaf 2024
Os yn llwyddiannus yn y cyfweliad, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau hyfforddiant Gwerthuswr Meddyg Teulu a ymsefydlu ar 12 a 13 Medi, cyn dechrau yn y rôl. Darperir rhagor o wybodaeth yn dilyn y cyfweliad.
Ein dyhead i’w parhau i fod yn gyflogwr rhagorol ac yn lle gwych i weithio sydd wedi ymrwymo i gael gweithlu amrywiol sy’n adlewyrchu ein defnyddwyr gwasanaeth a phobl a chymunedau Cymru.
Gweithio i'n sefydliad
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r corff gweithlu strategol ar gyfer GIG Cymru sydd â swyddogaethau statudol sy'n cynnwys addysg a hyfforddiant, cynllunio'r gweithlu, datblygu a thrawsnewid y gweithlu, arweinyddiaeth a chynllunio olyniaeth, a gyrfaoedd. Ein diben yw datblygu gweithlu sy'n darparu gofal rhagorol i gleifion/defnyddwyr gwasanaethau ac iechyd rhagorol yn y boblogaeth. Rydym yn Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid; Gofal Cymdeithasol Cymru, darparwyr addysg, cyrff proffesiynol a rheoleiddiol a Llywodraeth Cymru.
Mae AaGIC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant mewnol o ddewis. Mae ein Gwerthoedd yn adlewyrchu ein meddyliau, ein teimladau a'n credoau o ran sut y byddwn, ac na fyddwn, yn ymddwyn ac yn trin eraill:
- Parch i Bawb ym mhob cyswllt sydd gennym ag eraill,
- Syniadau sy'n Gwella: Harneisio creadigrwydd ac arloesi, gwerthuso a gwella'n barhaus,
- Gyda'n Gilydd fel Tîm
Derbyniodd AaGIC Wobr HPMA ar gyfer Ymgysylltu â Gweithwyr yn 2019.
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:
- cyfnod ymsefydlu corfforaethol ag amserlen Croeso 90 diwrnod,
- arweinyddiaeth dosturiol,
- proses arfarnu perfformiad ystyrlon sy'n seiliedig ar werthoedd,
- y cyfle i effeithio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a bywydau a lles pobl Cymru.
Mae llawer o'n cydweithwyr a'n rhanddeiliaid wedi gwneud sylwadau ar y cyffro a'r awyrgylch a olygwn drwy gydweithio fel "Un Tîm AaGIC". Ydych chi am ymuno â'r tîm hwnnw?
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau a/ neu Adnabyddiaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am systemau a strwythurau'r GIG.
Meini prawf dymunol
- Adnabyddiaeth o theori ac ymarfer addysgol sy'n berthnasol i arfarniad
- Cynefindra ag enghreifftiau o gymhwysiad arfer orau mewn perthynas ag addysg feddygol ac ansawdd
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Dangos ymrwymiad i arfarnu ac ail-ddilysu.
- Sgiliau rheoli amser, yn benodol, y gallu i flaenoriaethu ymrwymiadau er mwyn cwrdd â therfynau amser a mynychu cyfarfodydda chynadleddau arfarnu.
Meini prawf dymunol
- Adnabyddiaeth o system arfarnu Cymru.
- Profiad o gymell, cefnogi ac annog eraill.
Addasrwydd a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- giliau TG rhagorol, yn fedrus wrth ddefnyddio rhaglenni MS a llwyfannau cyfathrebu
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, gan gynnwys sgiliau gwrando amlwg.
- Gallu profedig i hwyluso trafodaethau cefnogol a heriol, rhoi adborth a'r gallu i grynhoi trafodaethau a’u galw i gof yn gywir.
- Y gallu i werthuso tystiolaeth o ddysgu a myfyrio mewn modd sy'n gyson ac yn ddiduedd.
- Gwybodaeth am ofal iechyd sylfaenol, a'r meini prawf ar gyfer dyletswyddau a chyfrifoldebau meddygon fel y'u nodir yn Arfer Meddygol Dda.
- Gwybodaeth am y cyd-destun gofal iechyd cenedlaethol a lleol gan gynnwys yr agenda ail-ddilysu.
- Dealltwriaeth dda o arfarniad meddygon teulu, ei egwyddorion allweddol a'i gysylltiadau â DPP a llywodraethu clinigol.
- Tystiolaeth o ymrwymiad i addysg a datblygiad personol parhaus.
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg.
- Y gallu i ddylanwadu ar bobl a pholisïau.
- Sgiliau trafod profedig.
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Gallu profedig i weithio'n effeithiol mewn tîm.
- Cymhelliant personol rhagorol ac yn gallu gweithio'n annibynnol.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jonathan Bannister
- Teitl y swydd
- RSU Programme Manager - Appraisal Support
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Os hoffech drafod y swydd ymhellach, cysylltwch â Chydlynydd Arfarnu Meddygon Teulu yn eich ardal ddewisol drwy eu e-bost isod:
Gwent - [email protected]
Gogledd Ddwyrain Cymru - [email protected]
Gorllewin Cymru - [email protected]
Abertawe - [email protected]
Rhestr swyddi gyda Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn Meddygol a deintyddol neu bob sector