Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyllid
Gradd
Band 4
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Gweithio hyblyg
37.5 awr yr wythnos (Model gweithio ystwyth i ganiatáu hyblygrwydd rhwng gweithio gartref a gweithio yn y swyddfa.)
Cyfeirnod y swydd
082-AC003-0125
Cyflogwr
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ty Dysgu
Tref
Nantgarw
Cyflog
£26,928 - £29,551 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
Today at 23:59

Teitl cyflogwr

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) logo

Swyddog Cyllid

Band 4

 

 

Trosolwg o'r swydd

Rydym am benodi unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant i ymuno â'r tîm Cadw Cyfrifon Ariannol o fewn Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Bydd y swydd yn cynorthwyo'r Cyfrifydd Ariannol i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i'r tîm cyllid a'r gyfundrefn ehangach. Bydd y rôl yn rhoi profiad i’r unigolyn o ystod eang o dasgau ariannol ac yn gyfle gwych i ehangu ei sgiliau cyfrifeg.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ystod eang o dasgau gan gynnwys: -

  • Gweinyddu a chynnal y system Cyfrifon Derbyniadwy, gan gynnwys rheoli ac adennill dyledion allanol.
  • Cyfrannu at brosesau Cyfrifon Taladwy trwy ddatrys ymholiadau sy’n ymwneud ag anfonebau, cynnal adroddiadau ‘anfonebau gohiriedig’ a monitro cydymffurfio â thargedau Polisi Talu'r Sector Cyhoeddus (PSPP).
  • Cynorthwyo'r Cyfrifydd Ariannol i gynnal y prosesau cyfrifyddu ariannol, gan gynnwys sicrhau bod yr holl drafodion yn cael eu cofnodi'n gywir o fewn system ORACLE.
  • Paratoi a mewnbynnu cofnod o’r taliadau i'w rhoi yn y cyfriflyfr cyffredinol.
  • Ymgymryd â chysoniadau i’r fantolen fisol.
  • Helpu i baratoi apurau gwaith ar gyfer Adroddiad Blynyddol AaGIC.
  • Cynorthwyo gyda'r ymarfer Cytuno Balansau ar gyfer y Bwrdd Iechyd yn unol â'r amserlen.
  • Rheoli'r Cynllun dirprwyo a lefelau cymeradwyo a sicrhau bod y system ariannol yn adlewyrchu'r sefyllfa awdurdodedig.

Bydd hefyd yn ofynnol i ddeiliad y swydd ddarparu cymorth i rolau eraill o fewn yr Adran Gyllid ac adrannau eraill o fewn AaGIC yn ôl yr angen.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r corff gweithlu strategol ar gyfer GIG Cymru sydd â swyddogaethau statudol sy'n cynnwys addysg a hyfforddiant, cynllunio'r gweithlu, datblygu a thrawsnewid y gweithlu, arweinyddiaeth a chynllunio olyniaeth, a gyrfaoedd.  Ein diben yw datblygu gweithlu sy'n darparu gofal rhagorol i gleifion/defnyddwyr gwasanaethau ac iechyd rhagorol yn y boblogaeth. Rydym yn Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid; Gofal Cymdeithasol Cymru, darparwyr addysg, cyrff proffesiynol a rheoleiddiol a Llywodraeth Cymru.

 

Mae AaGIC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant mewnol o ddewis. Mae ein Gwerthoedd yn adlewyrchu ein meddyliau, ein teimladau a'n credoau o ran sut y byddwn, ac na fyddwn, yn ymddwyn ac yn trin eraill:

- Parch i Bawb ym mhob cyswllt sydd gennym ag eraill,

- Syniadau sy'n Gwella: Harneisio creadigrwydd ac arloesi, gwerthuso a gwella'n barhaus,

- Gyda'n Gilydd fel Tîm

 

Derbyniodd AaGIC Wobr HPMA ar gyfer Ymgysylltu â Gweithwyr yn 2019.

 

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:

- cyfnod ymsefydlu corfforaethol ag amserlen Croeso 90 diwrnod,

- arweinyddiaeth dosturiol,

- proses arfarnu perfformiad ystyrlon sy'n seiliedig ar werthoedd,

- y cyfle i effeithio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a bywydau a lles pobl Cymru.

 

Mae llawer o'n cydweithwyr a'n rhanddeiliaid wedi gwneud sylwadau ar y cyffro a'r awyrgylch a olygwn drwy gydweithio fel "Un Tîm AaGIC". Ydych chi am ymuno â'r tîm hwnnw?

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch ‘Ymgeisiwch Nawr’ i'w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau a/neu wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Lefel Technegydd Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifeg (AAT)

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio o fewn amgylchedd cyllid mewn sefydliad cymhleth
  • Gwybodaeth ariannol a gweithdrefnau cyfrifyddu a pholisïau cyllid y GIG
  • Gwybodaeth gadarn / defnyddiwr Microsoft Excel a Word
Meini prawf dymunol
  • Gweithio mewn lleoliad cyllid GIG
  • Gwybodaeth am systemau ORACLE a QlikView

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • Gallu gwneud defnydd effeithiol o'r adnoddau sydd ar gael i ddadansoddi problemau a gwerthuso datrysiadau
  • Meddylfryd llawn cymhelliant ac arloesol
  • Trefnus a hynod drefnus
  • Yn gallu bodloni a chynnal gwerthoedd AaGIC

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Wedi arfer gweithio / yn gallu gweithio mewn amgylchedd cynllun agored prysur
Meini prawf dymunol
  • Gallu siarad Cymraeg

Addasrwydd a Gallu

Meini prawf hanfodol
  • Gallu cynllunio a threfnu eich llwyth gwaith eich hun
  • Agwedd hyblyg at waith sy'n seiliedig ar dîm
  • Gallu adolygu a phennu meysydd gwaith a allai elwa o welliant
  • Y gallu i gyfathrebu materion ariannol manwl yn glir ac yn ddidrafferth
  • Cynhyrchu gwaith gyda sylw i fanylion

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Stonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionDisability confident committedDying to Work CharterERS Silver Banner WelshEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental health

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Adam Dugdale
Teitl y swydd
Financial Accountant
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg