Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Arweinydd Tîm y Llwybr Sgrinio
Gradd 4
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Trosolwg o'r swydd
Mae Sgrinio Serfigol Cymru yn gyfrifol am raglen sgrinio serfigol GIG Cymru, ac mae’n anelu at leihau achosion o ganser serfigol ymledol, ei forbidrwydd a’r marwolaethau sy’n deillio ohono.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i berson llawn cymhelliant a brwdfrydig ymuno â'n tîm yng ngogledd Cymru fel Arweinydd Tîm y Llwybr Sgrinio.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel rhan o dîm ymroddedig, gan gefnogi llwybr sgrinio serfigol y claf a bydd yn cynorthwyo Rheolwyr o fewn yr adran a'r tîm ehangach.
Yn ogystal â goruchwylio a dosbarthu gwaith yr adran o ddydd i ddydd, bydd gofyn i chi ddarparu gwasanaethau gweinyddol effeithlon a chywir yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sgrinio.
Mae hon yn swydd barhaol lawnamser (37.5 awr/wythnos). Caiff polisi gweithio hyblyg ei weithredu yn y tîm, er bod yn rhaid i ddarpariaeth gwasanaeth fod yn flaenoriaeth a rhaid sicrhau bod staff yn y swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9:00 a 17:00.
Os ydych yn weithiwr proffesiynol uchel ei gymhelliant sydd â chefndir amlwg cryf mewn rôl oruchwylio a phrofiad mewn mewnbynnu data a gweithdrefnau gweinyddol, yna rydym yn awyddus i glywed gennych.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Goruchwylio llwyth gwaith dyddiol gweinyddwyr y llwybr sgrinio
Monitro cydymffurfiaeth staff â pholisïau a gweithdrefnau gweithredu safonol (SOPPs).
Darparu cymorth goruchwylio a hyfforddiant i weinyddwyr y llwybr sgrinio.
Cefnogi gweithrediad effeithlon swyddogaethau galw/galw yn ôl a methu diogel o fewn y rhaglen.
Gweithredu newidiadau i arferion gwaith yn unol â chyfarwyddyd y rheolwr/dirprwy reolwr y llwybr sgrinio.
Sicrhau bod cyfranogwyr yn cael eu rheoli'n briodol a bod systemau data cyfrifiadurol yn cael eu diweddaru ar gyfer canlyniadau cyfranogwyr.
Cadeirio sgrym y tîm yn wythnosol a chynhyrchu nodiadau cyfarfod.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at lefel Safon Uwch neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- NVQ Lefel 4 (neu gyfwerth)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad gweinyddol blaenorol
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd gwasanaeth iechyd
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Lefel dda o sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu.
- Yn gallu blaenoriaethu gwaith a defnyddio'ch menter eich hun
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i gwrdd â therfynau amser gan sicrhau lefel uchel o gywirdeb bob amser
- Yn gweithio’n dda mewn tîm
- Sgiliau ysgrifennu da
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am weithio mewn tîm a rheoli pobl
- Lefel dda o wybodaeth ar draws ystod eang o swyddogaethau gweinyddol
- Lefel dda o wybodaeth ar draws ystod o systemau TG
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am Raglenni Sgrinio
- Gwybodaeth am derminoleg feddygol berthnasol
RHINWEDDAU PERSONOL (Amlwg)
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio'n dda o dan bwysau a chanolbwyntio wrth ddelio ag ymyrraeth gyson
- Llawn cymhelliant
Arall
Meini prawf hanfodol
- Parodrwydd a’r gallu i deithio i leoliadau sgrinio eraill os oes angen gan y gwasanaeth
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Joanne Box
- Teitl y swydd
- Screening Pathway Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Cheryl Knight - [email protected]
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector