Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Clinical informatics
- Gradd
- Band 8a
- Contract
- Cyfnod Penodol: 18 mis (FTC/Secondment for 18 months)
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 025-AC119-0724
- Cyflogwr
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- gwaithio Hybrid
- Tref
- Lleoliad i'w gadarnhau yn y cyfweliad
- Cyflog
- £51,706 - £58,210 per annum
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 01/08/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Iechyd a Gofal Digidol Cymru logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/65.png)
Uwch Wybodegydd Clinigol
Band 8a
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad uchelgeisiol sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol. Mae’n adeiladu ar bensaernïaeth ddigidol a gwasanaethau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y degawd diwethaf.
Bydd y sefydliad yn arwain ar ddatblygiadau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis ehangu’r cofnod iechyd digidol a chreu’r Adnodd Data Cenedlaethol. Bydd yn gwella’r ffordd y mae data’n cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar yr ffurflen gais. Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae’r cyfle unigryw hwn yn un o ddau benodiad newydd yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru i weithio gyda’n sefydliadau partner i gefnogi’r agenda ddigidol yng Nghymru. Rydym yn chwilio am arweinydd clinigol angerddol a phrofiadol sy’n dal cofrestriad HCPC cyfredol i ymuno â’n Tîm Gwybodeg Glinigol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ochr yn ochr â’n Prif Swyddog Gwybodaeth Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHP) newydd i ddarparu arweinyddiaeth ar y cyd â CCIOs, CNIOs ac arweinwyr digidol, i sicrhau ymagwedd Cymru gyfan, gyda’n partneriaid, at drawsnewid digidol ledled Cymru.
Mewn cydweithrediad â’n partneriaid, bydd deiliad y swydd yn darparu arweinyddiaeth gwybodeg glinigol i hwyluso’r gwaith o ddarganfod, datblygu, mabwysiadu a gwella’r modd y caiff newidiadau digidol eu galluogi ar draws GIG Cymru. Gyda dealltwriaeth o’r heriau presennol ar draws y maes iechyd a lles ehangach, modelau darparu gofal, sefydliadau a’r llywodraethu cysylltiedig ar draws y llwybr gofal, gan gynnwys eu cydberthnasau a sut maen nhw’n dylanwadu ar gyflawni prosiectau/rhaglenni gwybodeg.
Mae gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o randdeiliaid yn hanfodol i sicrhau ein bod yn deall, yn gwrando ac yn ymateb i anghenion. Rydym yn gweithio ar y cyd â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, cyrff cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, gwasanaethau gofal cymdeithasol a chymunedol, y byd academaidd, diwydiant a’r cyhoedd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Prif ddyletswyddau’r rôl hon yw gweithio ar y cyd â’n partneriaid i:
- Fod yn atebol am ddarparu arweinyddiaeth broffesiynol i alluogi pensaernïaeth glinigol/meddyginiaethau digidol diogel ac effeithiol trwy ddylunio ac optimeiddio systemau gwybodaeth glinigol o fewn sefydliadau gofal iechyd.
- Defnyddio safonau gwybodeg a phrosesau sicrhau ansawdd Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) i lywio dadansoddiadau busnes a chlinigol proffesiynol o gymwysiadau clinigol a/neu brosiectau i wasanaethau iechyd a gofal, cynllunio gwasanaethau a systemau, prosesau, gwelliannau, a buddion clinigol.
- Defnyddio gwybodaeth glinigol a phrofiad o gysyniadau, dulliau ac offer gwybodeg i gefnogi’r gwaith o ddarganfod, datblygu a mabwysiadu platfformau a datrysiadau clinigol sy’n hybu gofal cleifion a phoblogaeth sy’n cyd-fynd â Pharthau Ansawdd Safonau Iechyd a Gofal.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn rhan o deulu GIG Cymru ac mae ganddo rôl bwysig wrth newid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal trwy dechnoleg a data. Mae’r sefydliad yn cefnogi staff rheng flaen gyda systemau modern a mynediad at wybodaeth bwysig am eu cleifion, wrth rymuso pobl Cymru i reoli eu hiechyd eu hunain trwy wasanaethau digidol GIG Cymru.
Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.
Ymunwch â'n tîm trawsnewidiol sy’n achub bywydau a dechrau gwneud gwahaniaeth go iawn i wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Prif gyfrifoldebau’r rôl yw:
- Darparu arweinyddiaeth i hwyluso darganfod, datblygu, mabwysiadu ac optimeiddio darpariaeth newid sydd wedi’i alluogi’n ddigidol ar draws GIG Cymru.
- Sefydlu a chynnal hygrededd a chyfathrebu effeithiol a phartneriaethau ar bob lefel ar draws y rhaglenni cenedlaethol, yn fewnol o fewn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC), gyda chlinigwyr a chydweithwyr digidol mewn Byrddau Iechyd, grwpiau cymheiriaid GIG Cymru (e.e. Cyfarwyddwyr Meddygol, Cyfarwyddwyr Nyrsio a Therapïau, Prif Fferyllwyr), Awdurdodau Lleol, grwpiau proffesiynol eraill ac arweinwyr polisi a chlinigol Llywodraeth Cymru.
- Deall archwiliadau clinigol, rheoli risg clinigol, sicrwydd ansawdd, effeithiolrwydd clinigol a datblygu staff sy’n cyd-fynd â fframweithiau llywodraethu clinigol, i ddefnyddio data a gwybodaeth yn effeithiol i nodi gwelliannau i wasanaethau a phenderfynu sut y gall gwybodeg gynorthwyo wrth fonitro a gweithredu gwasanaethau a safonau gofal iechyd.
- Sganio’r gorwel am ddatblygiadau digidol yn eich maes ymarfer proffesiynol, nodi arfer gorau, cefnogi gwireddu buddion clinigol, a rhaglenni dysgu.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster clinigol proffesiynol a chofrestriad dilys gyda’r corff llywodraethu clinigol priodol (yn unol â’r arbenigedd clinigol a hysbysebir).
- Addysg hyd at lefel meistr mewn pwnc perthnasol, e.e. pwnc sy’n gysylltiedig â gwybodeg ddigidol neu glinigol, neu brofiad cyfatebol o weithio ym maes gwybodeg glinigol.
- Gwybodaeth am systemau gwybodaeth gofal iechyd, cofnodion iechyd electronig, safonau data iechyd a methodolegau dadansoddi data
- Gwybodaeth am reoliadau gofal iechyd perthnasol, megis GDPR a pholisïau Llywodraethu Gwybodaeth GIG Cymru
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth o system gofal iechyd Cymru i ddeall cyd-destun a gofynion darpariaeth gofal iechyd
- Cymhwyster Diogelwch Digidol Clinigol ar Lefel Ymarferydd
- Cymhwyster dadansoddi busnes a/neu reoli newid, neu brofiad ar lefel briodol.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad clinigol sylweddol o weithio mewn lleoliad gofal iechyd ar ôl cofrestru
- Profiad o arwain a rheoli gweithredol
- Profiad o ddatblygu neu drawsnewid gwasanaethau ac o rôl systemau digidol
- Profiad o sicrhau ansawdd clinigol gwasanaethau a systemau
- Profiad a dealltwriaeth o'r broses rheoli newid.
Meini prawf dymunol
- Profiad o arwain prosiectau gwybodeg, gan gynnwys cynllunio, gweithredu a gwerthuso systemau clinigol digidol
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar cryf i gydweithio’n effeithiol â phartneriaid a rhanddeiliaid
- Yn gallu nodi a datrys heriau gwybodeg glinigol cymhleth, gwella effeithlonrwydd llif gwaith, a gwella canlyniadau gofal cleifion
- Dangos barn gadarn a’r gallu i wneud penderfyniadau pan fo’n rhaid ystyried ffeithiau neu sefyllfaoedd cymhleth iawn ar draws portffolio’r Gyfarwyddiaeth.
Meini prawf dymunol
- Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefel 1 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Frances Beadle
- Teitl y swydd
- Chief Nursing Information Officer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector