Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Information Governance
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- 12 mis (Cyfnod penodol am 12 mis)
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 025-AC114-0724
- Cyflogwr
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gweithio Hybrid
- Tref
- Lleoliad i’w gadarnhau yn y cyfweliad
- Cyflog
- £28,834 - £35,099 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 25/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Iechyd a Gofal Digidol Cymru logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/65.png)
Swyddog Gwasanaeth Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth y SDD
Gradd 5
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad uchelgeisiol sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol. Mae’n adeiladu ar bensaernïaeth ddigidol a gwasanaethau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y degawd diwethaf.
Bydd y sefydliad yn arwain ar ddatblygiadau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis ehangu’r cofnod iechyd digidol a chreu’r Adnodd Data Cenedlaethol. Bydd yn gwella’r ffordd y mae data’n cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar yr ffurflen gais. Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae gennym gyfle cyffrous o fewn tîm Llywodraethu Gwybodaeth y Gyfarwyddiaeth Glinigol ar gyfer Swyddog Gwasanaeth Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth y Swyddfa Diogelu Data. Cynigir y swydd hon ar sail Cyfnod Penodol/Secondiad tan 23 Awst 2025.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais ar gyfer y swydd ar sail secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatâd gan eich rheolwr llinell presennol cyn i chi wneud cais am y swydd hon.
Bydd y rôl yn gofyn am rywfaint o wybodaeth am Lywodraethu Gwybodaeth, Diogelu Data a Chyfrinachedd, er mwyn rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol i’n practisiau meddygol cyffredinol a’n fferyllfeydd cymunedol tanysgrifiedig.
Yn ddelfrydol bydd gennych gymhwyster cydnabyddedig neu brofiad mewn Llywodraethu Gwybodaeth, er y bydd ymgeiswyr sydd â dealltwriaeth eang yn cael eu hystyried.
Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm deinamig a chyfeillgar i godi proffil diogelu data a llywodraethu gwybodaeth trwy gefnogi Practisiau Meddygol Cyffredinol ledled Cymru.
Bydd y rôl hon wedi’i lleoli yn unrhyw un o’n swyddfeydd IGDC.
Mae opsiynau rhan-amser, rhannu swydd a/neu weithio hyblyg (gan gynnwys gweithio gartref) hefyd ar gael.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Fel pwynt cyswllt allweddol ar gyfer ymholiadau gwasanaeth, rhaid i’r ymgeiswyr delfrydol fod yn ddeinamig a bod ag agwedd hyblyg at weithio, ynghyd â sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, er mwyn darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf.
O ddydd i ddydd byddwch yn gyfrifol am gefnogi practisau meddygol cyffredinol a fferyllfeydd cymunedol gyda’u hymholiadau cyffredinol, darparu hyfforddiant, archwilio prosesau a datblygu deunyddiau cymorth.
Mae profiad o Lywodraethu Gwybodaeth y GIG a/neu weithio mewn lleoliad Gofal Sylfaenol yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
Oherwydd daearyddiaeth ac ehangder ein gwasanaeth, bydd gofyn i chi fod ag ymagwedd hyblyg tuag at weithio ac yn gallu teithio yn achlysurol i wahanol safleoedd ledled Cymru yn ôl yr angen; efallai y bydd angen aros dros nos ar gyfer hyn.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn rhan o deulu GIG Cymru ac mae ganddo rôl bwysig wrth newid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal trwy dechnoleg a data. Mae’r sefydliad yn cefnogi staff rheng flaen gyda systemau modern a mynediad at wybodaeth bwysig am eu cleifion, wrth rymuso pobl Cymru i reoli eu hiechyd eu hunain trwy wasanaethau digidol GIG Cymru.
Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.
Ymunwch â'n tîm trawsnewidiol sy’n achub bywydau a dechrau gwneud gwahaniaeth go iawn i wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Cefnogi Cyflenwi Gwasanaeth y Swyddfa Diogelu Data ar draws GIG Cymru.
Gallwch ddod o hyd i Swydd-ddisgrifiad llawn a Manyleb y Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch ar “Gwneud Cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd berthnasol neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Wedi cofrestru gyda chorff proffesiynol gwybodeg perthnasol
- Tystiolaeth o gymhwyster datblygu/ôl-raddedig lefel gradd uwch perthnasol pellach – addysg a/neu hyfforddiant
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddarparu gwybodaeth o ansawdd uchel ar gyfer cynulleidfa fewnol ac allanol
- Profiad o weithio ar brosiectau sy’n hwyluso gwell arferion Llywodraethu Gwybodaeth ac yn tynnu sylw at lwyddiannau
- Profiad o weithio ar draws ffiniau sefydliadol a phroffesiynol mewn sefydliad cymhleth.
- Gwybodaeth a phrofiad o ddefnyddio iaith a therminoleg
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol wrth ymdrin ag ystod eang o randdeiliaid clinigol
- Gallu datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol ar draws timau aml-swyddogaeth a ffiniau sefydliadol
- Sgiliau trefnu rhagorol. Gallu rheoli llwythi gwaith cymhleth a chyflawni llawer o dasgau ar yr un pryd mewn amgylcheddau cymhleth a sensitif
Meini prawf dymunol
- Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Cora Suckley
- Teitl y swydd
- DPO Service Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector